Mae RM Group, cwmni gweithgynhyrchu yn y Drenewydd, yn dylunio ac yn adeiladu peiriannau awtomatig a rhai sy’n cael eu gweithredu â llaw i brosesu a phecynnu eitemau ar gyfer diwydiannau fel bwyd a diod, adeiladu, ynni, y cyfleustodau a diwydiant yn gyffredinol.Sefydlwyd y cwmni fel busnes pecynnu bach dros 20 mlynedd yn ôl, a phorthiant anifeiliaid oedd ei ffocws ar y cychwyn.Mae'r cwmni'n allforio’i gynnyrch i dros 15 o wledydd, gan gynnwys Gwlad yr Ia, Awstralia, Seland Newydd, Irac ac UDA. Allforion sydd i gyfrif am dros 20% o’i drosiant, ac mae’r ffigur yma’n tyfu bob blwyddyn, sy’n dangos gwerth allforio i’w dwf parhaus.