Wedi'i sefydlu ym 1999, mae Bee Robotics o Gwynedd yn adnabyddus trwy’r byd am arwain y ffordd wrth ddatrys anghenion awtomeiddio labordai meddygol modern.
Mae'r cwmni'n dylunio ac yn cynhyrchu offer robotig pwrpasol sy'n dadansoddi a phrosesu samplau hylif yn y diwydiant biotechnoleg. Defnyddir yr offer i brofi am bethau fel alergeddau, twbercwlosis, HIV, Feirws Papiloma Dynol a hefyd i ddadansoddi DNA.
Canolbwyntio ar allforion
Mae allforio wedi bod yn allweddol i strategaeth ehangu Bee Robotics ers sefydlu'r cwmni. Heddiw, mae’u gwerthiannau dramor yn cyfrif am 95% o'i fasnach, sy'n cyfateb i drosiant o £1.1m. Yr Almaen yw eu prif farchnad yn ogystal â nifer o wledydd eraill yn Ewrop, Asia ac, yn fwy diweddar, y Dwyrain Canol.
Mynediad newydd i farchnad y Dwyrain Canol
Dechreuodd y Cwmni werthu yn y Dwyrain Canol am y tro cyntaf ar ôl cael cyngor allforio gan Lywodraeth Cymru a phenodi dosbarthwr yno. Ar ôl llofnodi cytundeb â chwmni biotechnoleg blaenllaw yn Riyadh, bydd offerynnau Bee Robotics yn cael eu dosbarthu i labordai preifat ar draws y Dwyrain Canol i awtomeiddio profion alergedd.
Amcangyfrifir y bydd marchnad alergedd y Dwyrain Canol ac Affrica werth $500 miliwn erbyn 2030, oherwydd y nifer cynyddol o alergeddau yn y rhanbarthau a'r angen i brosesu profion yn gyflymach. Mae Bee Robotics yn gobeithio manteisio ar y potensial yma i gynyddu eu hallforion i’r ardal a thyfu eu busnes ymhellach.
Mynychu digwyddiadau tramor yn allweddol i lwyddiant
Mae Bee Robotics wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd i fynychu MEDICA, un o brif arddangosfeydd masnach feddygol y byd yn yr Almaen. Daeth eu contract allforio diweddaraf wedi iddynt gyfarfod cynrychiolwyr o’r Dwyrain Canol yno.
Mae teithiau masnach ac arddangosfeydd fel MEDICA wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant allforio Bee Robotics, a’r cyfle i gwrdd â phartneriaid posibl dramor wedi arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd.
Yn ogystal â thargedu'r Dwyrain Canol, mae Bee Robotics hefyd yn bwriadu parhau i dyfu eu presenoldeb yn yr Almaen, un o'i brif farchnadoedd. Mae gan y cwmni eisoes bartneriaeth sefydlog gyda Bruker - gwneuthurwr offer gwyddonol a diagnostig arloesol - ac yn eu cyflenwi ag offer i’w defnyddio mewn profion TB a mycobacteria. Mae Bee Robotics hefyd yn cynnig contractau ar gyfer gwasanaethau gweithgynhyrchu ac adnewyddu cyfarpar.
Cefnogaeth Llywodraeth Cymru
Mae’r cwmni hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, o dan gynllun Cymorth Arloesi Hyblyg SMART, i ddatblygu offeryn pwrpasol newydd ar gyfer cwmni citiau diagnostig blaenllaw o'r Almaen. Bydd yr offeryn hwn yn helpu i awtomeiddio prosesau echdynnu DNA newydd a darganfod mwtaniadau, awtowrthgyrff a gwrthgyrff mewn DNA, a chaiff ei allforio i labordai ledled yr Almaen, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen. Mae cynlluniau pellach i’w werthu i Asia a rhanbarthau eraill yn y dyfodol.
Dywedodd Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Bee Robotics:
"Mae ehangu i'r Dwyrain Canol yn ddatblygiad cyffrous i ni. Mae'r galw cynyddol am brofion alergedd yn y rhanbarth yn gyfle enfawr, ac mae’n cynnyrch yn addas iawn i ddiwallu’r anghenion profi diweddaraf. Mae mynychu MEDICA wastad wedi ein helpu i gysylltu â chleientiaid rhyngwladol newydd, ac rydym wrth ein bodd o weld bod ein presenoldeb yn y sioe bellach wedi arwain at lwyddiant yn y Dwyrain Canol."
Ychwanegodd Steve: "Mae'r cyngor a'r cymorth ariannol yr ydym wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i dwf ein cwmni. Mae ein perthynas â nhw wedi ymestyn dros ddau ddegawd, ac maent wedi ein helpu i dargedu cwsmeriaid a chanfod marchnadoedd newydd. Yn fy marn i, dylai unrhyw fusnes sy'n meddwl am allforio, fynychu arddangosfeydd tramor sy'n berthnasol i'w diwydiant nhw. Mae o'n un o'r ffyrdd gorau o wneud cysylltiadau ac agor drysau i farchnadoedd rhyngwladol."
rkets.”