Digwyddiadau tramor
Gall ymweld â’r farchnad fod yn rhan hollbwysig o ennill a chadw busnes, boed hynny’n golygu mynychu neu arddangos mewn arddangosfa neu sioe fasnach, neu ymweld â'r farchnad a chwsmeriaid posibl. Dewiswyd y marchnadoedd a'r arddangosfeydd yn ein rhaglen i adlewyrchu datblygiadau rhyngwladol cyfredol sy'n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i Fusnesau Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau isod ffoniwch 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.