Hoffai Llywodraeth Cymru eich gwahodd i gymryd rhan yng Nghynhadledd ADIPEC 2025.
Pam ADIPEC?
Mae ADIPEC yn blatfform rhyngwladol sy’n cynnull cynhyrchwyr ynni byd-eang, defnyddwyr, ac arloeswyr i gyflymu datrysiadau cyffrous a chynnydd trawsnewidiol ar gyfer dyfodol ynni.
Dyma arddangosfa allweddol ar gyfer busnesau yn y sector ynni ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymreig gyda thros 2,250+ o arddangoswyr o 60 o farchnadoedd, a thros 205,000 o bobl a fydd yn mynychu.
Pam ddylech gymryd rhan yn ADIPEC?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Pwy all ymgeisio?
• Cwmnïau sy’n gwerthu cynnyrch, gwasanaeth neu gysyniad sy’n cyfrannu at waith trawsnewid Cymru yn wlad sero net.
• Cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi ynni sy’n cefnogi ymdrechion i weithio at effeithlonrwydd ynni neu allyriadau, iechyd a diogelwch, gwelliannau cymdeithasol ac amgylcheddol, neu ddiwygio’r farchnad ynni.
• Cwmnïau sy’n cefnogi’r gwaith o ddatgomisiynu asedau ynni tanwydd ffosil presennol.
• Prosiectau Dal a Storio Carbon (CCS), neu brosiectau Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS).
• Rhaid i gwmnïau ddangos eu cyfraniad at waith trawsnewid Cymru i sero net mewn unrhyw negeseuon marchnata neu hyrwyddo.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:
Arddangoswr - Mae'r gost arddangos naill ai yn £5,400* am stondin mawr neu’n £4,200* am uned fetr sgwâr.
• Hediad allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad i’r maes awyr (if you travel with the group)
• Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwener)
• Tocyn i’r arddangosfa
• Stondin arddangos a chofrestriad ar gyfer yr arddangosfa
• Mynediad ar-lein/catalog
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Ymwelydd - Y gost yw £1,500*. Mae hyn yn cynnwys:
• Hediad allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad i’r maes awyr
• Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwener)
• Tocyn ymwelydd
• Access to Wales stand
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Manylion Digyddiad
Pan fyddwn yn – 1-7 Tachwedd 2025
Sectorau - Clean Energy
Ble - Abu Dhabi, UAE
Trefn
1 Tachweed – Gadael am Abu Dhabi
3-6 Tachweed – ADIPEC/Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
7 Tachwedd – Dychwelyd i Gymru
Trefniant Gwasanaeth Cyfarfordydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Sylwch, os hoffech y gefnogaeth hon, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 22 Awst 2025, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
22 Awst 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
5 Hydref 2025 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Yn amodol ar gymhwysedd.
*Mae ffi arddangoswr yn destun TAW