Amdanom ni
Busnes Cymru yw gwasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer microfusnesau yng Nghymru, busnesau bach a chanolig (BBaChau) gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a darpar entrepreneuriaid.
Rydym yn rhoi gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth diduedd i bobl yng Nghymru sy'n dechrau, rhedeg a thyfu busnesau.
Mae ein gwasanaeth ar gael drwy linell gymorth, adnoddau ar-lein yn busnescymru.llyw.cymru, a thrwy ein rhwydwaith o gynghorwyr busnes profiadol.
Beth bynnag yw eich heriau busnes, gall ein harbenigedd a’n cymorth helaeth eich helpu. O gyngor AD, cynllunio busnes, lleihau carbon a gwella cynhyrchiant i atebion ariannol, mae gennym yr holl atebion.