Oes Gennych chi Fusnes yn Barod?

Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ehangu, tyfu a chryfhau eich busnes.

Os ydych chi'n awyddus i wella'ch strategaeth, cael gafael ar gyllid, recriwtio'r tîm cywir, lleihau eich ôl troed carbon, neu archwilio marchnadoedd newydd, mae ein harweinwyr arbenigol yn y diwydiant yma i helpu. Byddwch yn derbyn arweiniad un-i-un, mynediad at wybodaeth arbenigol, a chysylltiadau ag adnoddau a rhwydweithiau gwerthfawr.

P'un ai yw'ch busnes yn tyfu'n gyson neu'n ehangu'n gyflym, byddwn yn gweithio gyda chi i nodi cyfleoedd, goresgyn heriau, a datgloi eich potensial llawn - bob cam o'r ffordd.

Gwasanaethau Busnes Cymru

Ydych chi'n berchen ar fusnes yng Nghymru?
Gall y rhaglen Datblygu Busnes a Thwf eich cefnogi i redeg a datblygu eich busnes.

Mae ein Rhaglen Cyflymu Twf yma i gefnogi'ch busnes i ehangu a thyfu.

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn cael ei ddarparu gan gonsortiwm o asiantaethau cymorth arbenigol sydd â gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad o gefnogi'r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru. Gallwn eich helpu i ddechrau busnes cymdeithasol neu dyfu eich busnes cymdeithasol sy’n bodoli’n barod.


Gwasanaethau a Phynciau Poblogaidd

Cyrsiau digidol sydd wedi cael eu creu gan arbenigwyr pwnc Busnes Cymru i'ch helpu i sefydlu a rhedeg busnes yn llwyddiannus.

Chwiliwch ein Digwyddiadur am hyfforddiant sy'n gysylltiedig â busnes, gweithdai, rhwydweithio, seminarau a mwy gan amrywiaeth o sefydliadau.

Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i ddod o hyd i opsiynau cyllid a sut i ddewis y math cywir o gyllid i chi.

Rydyn ni yma i helpu gyda gwybodaeth TG ymarferol ar gyfer eich busnes sy'n rhoi sylw i amrywiaeth bynciau, o gyfathrebu i galedwedd.

Mae allforwyr llwyddiannus yn gweld bod masnachu'n rhyngwladol yn rhoi manteision iddyn nhw dros eu cystadleuwyr. Dechreuwch eich taith allforio heddiw.

Yn cynnig amrywiaeth o gamau ymarferol, fel lleihau'r defnydd o gerbydau, cynyddu effeithlonrwydd dŵr ac ynni.

Yn cynnig cymorth a rhaglenni i ddatblygu sgiliau ac yn tynnu sylw at unrhyw feysydd y gallech eu gwella. Yn eich helpu i sicrhau bod gennych y sgiliau a'r bobl gywir i gyflawni eich nodau.

Gall arloesi helpu'ch busnes i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiannau a mentro i farchnadoedd newydd.

Defnyddiwch ein porth tendro a chaffael GwerthwchiGymru i chwilio a gwneud cais am gyfleoedd contractau'r sector cyhoeddus yng Nghymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.