Ydych chi'n awyddus i ddatblygu twf, gwydnwch a chynaliadwyedd hirdymor eich busnes? Gall Gwasanaeth Datblygu a Thwf Busnes Cymru helpu.
Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth ddiduedd wedi'i ariannu'n llawn i helpu i gryfhau ac ehangu eich busnes. Mae ein cynghorwyr profiadol yn gweithio gyda chi i nodi cyfleoedd twf trwy ddiagnosteg busnes manwl, yna’n helpu i ddatblygu a gweithredu cynllun strategol. P'un ai oes angen cymorth arnoch gyda chyllid, recriwtio, cynaliadwyedd, arallgyfeirio, neu dendro, rydyn ni’n cynnig arweiniad un-i-un wedi'i deilwra a mynediad at arbenigedd. O wella cynhyrchiant i sicrhau cyllid, rydyn ni yma i'ch helpu chi i oresgyn heriau a datgloi potensial llawn eich busnes. Porwch yr adnoddau ar ein Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chliciwch ar y ddolen isod i gael cymorth arbenigol wedi'i deilwra i'ch busnes chi.
Sut i Ddechrau Arni:
- Dechrau Arni – Cyflwynwch ymholiad i roi gwybod i ni pa gymorth sydd ei angen ar eich busnes, fel y gallwn eich paru â'r gwasanaeth cywir.
- Cofrestrwch – Rhowch fanylion amdanoch chi a'ch busnes i helpu i deilwra'r gefnogaeth a'r adnoddau rydyn ni’n eu cynnig.
- Bwrw Ati – Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd gennych gyfrif digidol yn barod i’w ddefnyddio drwy ein platfform BOSS. Mewngofnodwch unrhyw bryd i archebu gweminarau, archwilio offer, a chael mynediad at gyngor arbenigol i helpu eich busnes i ffynnu.
Am ragor o wybodaeth ac arweiniad ar dwf busnes dewiswch y ddolen ganlynol: Twf busnes | Busnes Cymru
Rhaglen Datblygu Busnes a Thwf
Dechrau arni heddiw
Cyflwynwch ymholiad i roi gwybod i ni pa gymorth sydd ei angen ar eich busnes, fel y gallwn eich paru â'r gwasanaeth cywir.