
Mae eiriolwr gwrth-gamdriniaeth ddomestig wedi sianelu ei hymrwymiad i gynorthwyo pobl sydd wedi dioddef camdriniaeth feddyliol, emosiynol a chorfforol i lansio busnes newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn gyda chymorth Busnes Cymru.
Lansiodd Suzanne Bailey o Gasnewydd Informed Steps ym mis Rhagfyr 2024, gan ddarparu gweithdai hyfforddi wyneb yn wyneb ac ymgynghoraeth ar lein ar gyfer busnesau ar sut i adnabod gweithwyr sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig, trais rhywiol ac ecsbloetio. Trwy wneud ei gwybodaeth hanfodol yn hygyrch ac yn effeithiol, ei nod yw darparu arweiniad ar y ffordd orau o sefydlu polisïau cefnogol a hybu gweithle diogel.
Yn ystod 20 mlynedd ei gyrfa, mae Suzanne wedi ymroi i gefnogi pobl o bob cefndir trwy drais domestig a rhywiol, wrth weithio fel Eiriolwr Gwrth-drais Domestig Annibynnol (IDVA) cymwysedig a Rheolwr Gwasanaethau gyda Chymorth i Fenywod.
Ar ôl sylweddoli nad yw llawer o sefydliadau wedi eu taclu i adnabod arwyddion o gamdriniaeth, penderfynodd Suzanne fynd ati i lansio gwasanaeth annibynnol er mwyn defnyddio ei sgiliau i helpu amrywiaeth ehangach o bobl. Heb unrhyw brofiad blaenorol o ddechrau busnes, trodd at Busnes Cymru, lle darparodd yr Uwch Ymgynghorydd Busnes, Nichola Thomas, gymorth amhrisiadwy iddi ddatblygu cynllun busnes, cyflawni ymchwil i’r farchnad, a darogan llif arian.
Yn ogystal, cyflwynodd Busnes Cymru Suzanne i’r partneriaid datblygu a chydweithio cydweithredol yn ICE Cymru a Chwmpas, lle mynychodd gwrs ‘Cymorth i Berchnogion Busnes Newydd’ a nifer o achlysuron rhwydweithio a ddaeth yn allweddol wrth ei chynorthwyo i ddatblygu Informed Steps a meithrin cysylltiadau gwerthfawr.
Gyda gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol a chefnogaeth barhaus Busnes Cymru, mae Suzanne yn bwriadu lansio gwasanaeth i redeg yn baralel ag Informed Steps, a fydd yn cynnig cyfleoedd i ymgeisio am grantiau a chyflawni prosiectau effeithiol, gan gynnwys gweithdai a sesiynau hyfforddi ar gyfer grwpiau cymunedol.
Mae gweledigaeth Suzanne yn cydategu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i feithrin a chynnal gwasanaethau effeithiol sy’n cynorthwyo goroeswyr, a dal troseddwyr i gyfrif.
Wrth siarad am y cymorth y mae hi wedi ei gael, dywedodd Suzanne:
Nid bod yn entrepreneur oedd y bwriad, ond ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio gydag unigolion sy’n wynebu sialensiau fel camdriniaeth ddomestig, roedd hi’n glir ei bod hi’n anodd iawn adnabod arwyddion o newid mewn amgylcheddau proffesiynol. Fe sylweddolais i fod bwlch yn farchnad am wasanaeth sydd wir yn mynd i’r afael â’r anghenion hyn. A dyna lle daeth Busnes Cymru i’r adwy.
Doedd dim clem gen i ble i ddechrau sefydlu busnes, felly mae cael Nichola wrth law wedi bod yn allweddol wrth fy nghynorthwyo i ffeindio’r ffordd. O gynnig cymorth fesul un i mi yn y camau cynllunio cynnar i argymell gweminarau defnyddiol a gwneud cyflwyniadau pwysig, mae hi wir wedi bod yno i mi ar bob cam o’r ffordd.
Hyfforddi unigolion i adnabod arwyddion o gamdriniaeth sydd wrth galon menter Suzanne, gan sicrhau bod pobl wedi eu taclu i’w cynorthwyo ei gilydd a gwybod ble i gyfeirio’r rhai sydd angen cymorth yn y gobaith y bydd hynny’n helpu i chwalu’r cylch o dawelwch ac unigrwydd.
Dywedodd Uwch Ymgynghorydd Busnes Busnes Cymru, Nichola Thomas:
Pan ddaeth Suzanne ataf i am gymorth, roedd ganddi syniad ar gyfer y busnes oedd yn rhywbeth roeddwn i’n gwybod y byddai’n wasanaeth unigryw yma yng Nghymru, rhywbeth a allai wneud gwahaniaeth mawr. Gall darparu gwasanaeth o’r math yma newid bywydau llawer o bobl, ac roedd angerdd Suzanne dros helpu pobl yn glir o’n sgwrs gyntaf un. Mae hi wedi bod yn fraint cael gweithio fesul un â Suzanne wrth iddi sefydlu ei busnes. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio a gweld sut y bydd y cwmni’n tyfu yn y dyfodol agos.
Os ydych chi, perthynas, ffrind neu rywun arall rydych chi’n poeni amdanynt wedi profi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Live Fear Free am ddim 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos am gyngor a chymorth cyfrinachol. Gallwch gysylltu trwy ffonio 0808 80 10 800 neu fynd i Llinell gymorth Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU am opsiynau fel e-bost, testun neu SignLive.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.