Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Busnes Cymru
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wybodaeth ar wefan Busnes Cymru a rhannau cymorth busnes arbenigol cysylltiedig o’r wefan.
Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ei dudalen hygyrchedd ei hun. Mae’n amlinellu pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol. Gallwch gyrraedd y tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i dudalennau gwe’r gwasanaeth unigol.
Defnyddio’r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Fusnes Cymru. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml a chlir â phosibl i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir
- nid oes penawdau ar gyfer rhesi mewn rhai tablau
- nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson
- nid yw teitlau rhai tudalennau’n unigryw
- nid yw labeli rhai ffurflenni’n unigryw
- nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau
- nid yw testun rhai dolenni’n disgrifio diben y ddolen
- mae llawer o ddogfennau mwn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Gwasanaethau arbenigol Busnes Cymru
Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ei dudalen hygyrchedd ei hun, sy’n cynnwys manylion am ba mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol. Gallwch gyrraedd y tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i dudalennau gwe’r gwasanaeth unigol.
Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol
Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddeall neu recordiad sain:
- e-bostiwch: businesssupport@gov.wales
- ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen
- eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
- y fformat yr hoffech ei dderbyn – er enghraifft, testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu gryno ddisg sain
- pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio
Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’r dudalen hon. Cliciwch ar ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:
- e-bostiwch: businesssupport@gov.wales
- ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd
- pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ffonau llinell dir a symudol ddarparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid ag anableddau. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid testun o’ch dewis i gysylltu â Busnes Cymru.
Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:
- e-bostiwch: businesssupport@gov.wales
- ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- pwy ydych chi
- sut gallwn eich helpu
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Busnes Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfedd
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.
Mae rhai penawdau yn wag, sy'n golygu na all defnyddwyr technoleg gynorthwyol ddeall strwythur neu hierarchaeth y cynnwys. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.3.1 ac AA 2.4.6. Fe wnaethom ddatrys pob mater hysbys mewn perthynas â hyn ym mis Mai 2025.
Nid oes gan rai elfennau delwedd enw hygyrch. Heb enw hygyrch, gall defnyddwyr darllenwyr sgrin fynd i anhawster wrth ddeall ystyr neu swyddogaeth delwedd ar dudalen we. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.1.1. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Nid yw rhai tablau data’n defnyddio elfennau <th> i adnabod penawdau rhesi a cholofnau, ac nid yw rhai tablau cynlluniau wedi'u marcio gyda role="presentation”, gan ei gwneud hi'n anodd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin ddeall strwythur a phwrpas y tablau. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.3.1. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Nid oes gan rai cyfuniadau lliw testun a chefndir ddigon o gyferbyniad, gan wneud y cynnwys yn anodd i ddefnyddwyr ag amhariad ar eu golwg ei ddarllen. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA 1.4.3. Fe wnaethom ddatrys pob mater hysbys mewn perthynas â hyn ym mis Mai 2025.
Nid oes gan rai dolenni enwau hygyrch, sy'n golygu na all defnyddwyr darllenydd sgrin benderfynu ar eu pwrpas nac i ble maen nhw’n mynd. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 2.4.4. Fe wnaethom ddatrys pob mater hysbys mewn perthynas â hyn ym mis Mai 2025.
Mae sawl dolen ar dudalennau yn rhannu'r un testun dolen â'r cyd-destun o’i gwmpas ond yn arwain at wahanol gyrchfannau, a all ddrysu defnyddwyr darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 2.4.4. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Mae rhai dolenni yn defnyddio testun amwys fel "Cliciwch Yma" heb gyd-destun o’i gwmpas i esbonio ei bwrpas, sy'n ei gwneud hi'n anodd i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol ddeall i ble mae'r ddolen yn arwain. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 2.4.4. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Mae rhai tudalennau’n defnyddio tablau nythu, sy'n gallu drysu defnyddwyr darllenwyr sgrin oherwydd bod y drefn ddarllen a'r strwythur yn aneglur. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.3.1. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Mae arddull weledol rhai darnau o destun yn edrych fel penawdau gan ddefnyddio CSS ond nid oes ganddynt dagiau pennawd HTML priodol, sy'n golygu na all technolegau cynorthwyol ddehongli strwythur y ddogfen yn gywir. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.3.1. Fe wnaethom ddatrys pob mater hysbys mewn perthynas â hyn ym mis Mai 2025.
Mae rhywfaint o destun alt delweddau yn cynnwys celf ASCII neu gymeriadau gwên, nad ydynt yn rhoi gwybodaeth ystyrlon i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin a gallant fod yn ddryslyd neu amharu ar y darllen. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.1.1. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r technolegau a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.
Mae rhai elfennau dethol yn ymddangos o fewn elfennau angor (a), sy'n creu HTML annilys a gall ddrysu technolegau cynorthwyol neu wneud iddynt ymddwyn yn annisgwyl. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Mae rhai tudalennau’n cynnwys priodoledd lang gyda chod iaith annilys, a all atal technolegau cynorthwyol rhag gwybod beth yw iaith y cynnwys yn gywir. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 3.1.1. Fe wnaethom ddatrys pob mater hysbys mewn perthynas â hyn ym mis Mai 2025.
Mae rhai elfennau mewnbwn yn ymddangos o fewn elfennau angor (a), sy'n arwain at HTML annilys a gall achosi problemau i ddefnyddwyr sy'n dibynnu ar dechnolegau cynorthwyol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Mae rhai elfennau label wedi'u nythu o fewn elfennau angor (a), nad yw'n HTML dilys a gall achosi problemau gyda sut mae ffurflenni’n cael eu cyhoeddi gan dechnolegau cynorthwyol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Mae rhai elfennau angor (a) wedi'u nythu o fewn elfennau angor eraill, sy'n HTML annilys a gall ddrysu darllenwyr sgrin a thechnolegau cynorthwyol eraill. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Mae rhai rheolyddion cliciadwy heb rolau ARIA priodol, sy'n golygu efallai na fydd technolegau cynorthwyol yn eu dehongli'n gywir fel elfennau rhyngweithiol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Ni ellir cael mynediad at rai rheolyddion cliciadwy gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig, gan eu gwneud yn anaddas i bobl sy'n dibynnu ar lywio gyda bysellfwrdd. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 2.1.1. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Awst 2025.
Mae rhai elfennau iframe a frame heb nodwedd teitl disgrifiadol, sy'n angenrheidiol i dechnolegau cynorthwyol fedru cyfleu pwrpas y cynnwys sydd wedi'i fewnosod. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.1.1. Fe wnaethom ddatrys pob mater hysbys mewn perthynas â hyn ym mis Mai 2025.
Mae rhai elfennau’n defnyddio rôl sy'n cuddio elfennau plentyn ond sy’n dal i gynnwys elfennau plentyn y gellir ffocysu arnynt. Gall hyn greu dryswch i ddefnyddwyr bysellfwrdd a darllenydd sgrin, a allai fod yn gallu rhyngweithio ag elfennau sydd i fod yn guddiedig. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2. Fe wnaethom ddatrys pob mater hysbys ym mis Mai 2025.
Nid yw rhai elfennau gyda role=tab wedi'u grwpio'n gywir o fewn elfen gyda role=tablist neu nid ydynt yn cael eu cyfeirio atynt yn gywir. Mae hyn yn atal technolegau cynorthwyol rhag cyfleu'r berthynas rhwng tabiau a'u grŵp yn gywir, gan arwain at ddryswch i ddefnyddwyr sy'n llywio trwy ddarllenydd sgrin. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2. Fe wnaethom ddatrys pob mater hysbys mewn perthynas a hyn ym mis Mai 2025.
Mae rhai elfennau wedi'u marcio gydag aria-hidden="true" ond sydd â chynnwys y gellir ffocysu arno. Gall hyn ddrysu defnyddwyr darllenydd sgrin a bysellfwrdd, gan fod y cynnwys wedi'i guddio rhag technolegau cynorthwyol ond yn dal i fod yn hygyrch trwy lywio bysellfwrdd. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2. Fe wnaethom ddatrys pob mater hysbys mewn perthynas â hyn ym mis Mai 2025.
Offer rhyngweithiol a thrafodion
Nid oes unrhyw offer a thrafodion rhyngweithiol anhygyrch hysbys ar Busnes Cymru. Os ydych chi'n credu nad yw rhai o'n hoffer a'n trafodion Rhyngweithiol yn hygyrch. Cysylltwch â ni ar un o'r ffyrdd isod:
- E-bost: businesssupport@gov.wales
- Ffôn: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y dudalen rydych chi'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
- pam nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod gwaith.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd a gyhoeddwn i gael at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt:
- heb eu marcio mewn ffordd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin eu deall
- heb eu tagio’n gywir, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol
- heb eu hysgrifennu mewn iaith glir
Dogfennau hanesyddol yw rhai o’r rhain nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae dogfennau o’r math hwn wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Nid ydym yn bwriadu eu gwneud yn hygyrch ar hyn o bryd.
Os oes arnoch angen y wybodaeth yn un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod a gofynnwch am fformat gwahanol.
- e-bostiwch: businesssupport@gov.wales
- ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen
- y fformat yr hoffech ei dderbyn
- pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 8 Ionawr 2025 i ddisodli’r datganiad hygyrchedd blaenorol. Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 20 Mehefin 2025.
Sut aethom ati i brofi’r wefan
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 9 Mai 2025. Cynhaliwyd y prawf gan S8080.
Ar 9 Mai 2025, defnyddiodd S8080 SortSite Desktop i sganio dros 8,000 o’n tudalennau i weld a oeddent yn cydymffurfio â lefel A ac AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.2. Roedd y sgan yn cynnwys cyfuniad o dudalennau craidd, templedi a ddefnyddir yn gyffredin a thempledi cymhleth.
Profwyd platfform ein prif wefan, sydd ar gael yn https://businesswales.gov.wales/
Yn ogystal â rhai o’n gwasanaethau arbenigol a reolir gan dîm Busnes Cymru, gan gynnwys: