Sut y gwnaeth Busnes Cymru gefnogi twf ac ehangu Golf Môn
Mae Golf Môn Ltd yn gyrchfan hamdden ar gyfer y gymuned yn Llangefni, sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau gan groesawu teuluoedd. Ers 2018, mae'r busnes wedi trawsnewid cyfleuster golff a oedd wedi cau, a arferai gael ei redeg gan y cyngor, yn ganolfan fywiog, gyda chefnogaeth barhaus gan Busnes Cymru sy’n helpu i ysgogi ei dwf.
Roedd gan Matthew Wharton weledigaeth glir i ailddatblygu'r safle, ond roedd angen cynllunio ariannol cryf, cymorth ariannol a strategaeth glir o ran twf.
Roedd y syniad yno, ond roedd creu cynllun busnes cadarn a sicrhau'r gefnogaeth gywir yn allweddol i wneud iddo ddigwydd.
Gwnaeth Busnes Cymru gefnogi Matthew i wneud y canlynol:
- datblygu rhagolygon ariannol cadarn
- creu cynllun busnes clir a grymus
- llywio prosesau ymgeisio am gyllid
- cael gafael ar gymorth ymgynghori marchnata arbenigol
- cynllunio ar gyfer recriwtio a datblygu'r gweithlu
Gydag arweiniad gan Reolwr Perthynas Busnes Cymru a drwy gael gafael ar gymorth marchnata arbenigol, llwyddodd Golf Môn i lansio a hyrwyddo ei gynnig estynedig yn llwyddiannus, gan gynnwys cwrs golff gwallgof newydd.
Mae'r cyngor gan Busnes Cymru wedi bod yn werthfawr iawn, yn enwedig y cymorth cynllunio busnes a'r broses ymgeisio. Mae'n unigryw a dydych chi ddim yn cael y math hwnnw o arweiniad unigol mewn mannau eraill.
Mae Golf Môn wedi esblygu'n llwyddiannus i fod yn gyrchfan hamdden boblogaidd, sydd bellach yn cynnwys cwrs golff gwallgof 18 twll, academi golff iau, maes ymarfer golff, bwyty pizza ac efelychydd golff dan do. Mae'r busnes hefyd wedi creu 3.5 o swyddi llawn amser newydd ac mae'n parhau i dyfu, gyda bar coctel ac ystafell barti plant yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Wrth edrych ymlaen, mae'r busnes yn bwriadu cwblhau y gwaith adnewyddu yn llawn, gan gryfhau ymhellach ei sefyllfa fel canolfan gymunedol arloesol, sy'n groesawgar i deuluoedd.
Os ydych chi'n awyddus i dyfu neu arallgyfeirio eich busnes, gall Busnes Cymru helpu gyda’r canlynol:
- Cymorth unigol gan gynghorydd
- Cynllunio busnes a rhagolygon ariannol
- Canllawiau ar geisiadau am gyllid
- Cymorth marchnata a thwf
- Cyngor Adnoddau Dynol a Recriwtio
Mae Busnes Cymru yma i'ch helpu i ddatblygu eich busnes a gwireddu eich syniadau: Oes Gennych chi Fusnes yn Barod? | Busnes Cymru.
I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag aelod o'r tîm, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.