Hanes llwyddiant

Cymorth arloesi Cymreig yn helpu Llusern Scientific i ddiagnosio heintiau’n gyflymach

Woman working in a Lab

Mae Llusern Scientific, a leolir ym Mharc Busnes Cardiff Edge, yn datblygu profion diagnostig cyflym i drawsnewid y modd y caiff heintiau’r llwybr wrinol eu diagnosio a’u trin. Gyda chymorth penodol gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni’n cyflwyno’i gynnyrch newydd ar y farchnad – gan baratoi’r ffordd ar gyfer diagnosis cyflymach, gwell canlyniadau i gleifion a chamddefnyddio llai ar wrthfiotigau.

Fe wnaeth Llusern Scientific, a sefydlwyd yn 2020 fel cwmni a ddeilliodd o Brifysgol De Cymru, benderfynu mynd i’r afael â her fawr yn y maes iechyd. Mae heintiau’r llwybr wrinol yn effeithio ar fwy na 100 miliwn o bobl drwy’r byd bob blwyddyn. Mae’r ddyfais ddiagnostig folecwlaidd, gludadwy a hawdd ei defnyddio yn esgor ar ganlyniadau manwl gywir o fewn 35 munud, gan roi gwybodaeth gyflym a dibynadwy i glinigwyr.

Medd Dr Emma Hayhurst, Prif Swyddog Gweithredol Llusern Scientific: “Roeddem yn gwybod o’r cychwyn cyntaf y gallai dulliau diagnostig gwell fod yn hollbwysig o ran mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae ein technoleg yn cynnig diagnosis cywir yn gyflymach, a hefyd mae’n rhatach ac yn haws cael gafael arni – rhywbeth sydd o fudd i gleifion a systemau gofal iechyd fel ei gilydd.”

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, cafodd y cwmni gymorth penodol gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, yn cynnwys Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS), cymorth dylunio arbenigol a chymorth i ddatblygu strategaeth eiddo deallusol. Mae pob elfen o’r cymorth yn cyfrannu mewn ffordd hollbwysig at ddatblygu’r dechnoleg a pharatoi ar gyfer ei chyflwyno ar raddfa fasnachol.

Ar ôl cael cymorth SFIS cychwynnol yn gynnar yn 2024, bu modd i’r tîm ddatblygu cynllun arloesi clir, gan bennu blaenoriaethau ar gyfer cynhyrchion gwell, defnydd clinigol newydd a thwf. Mae ail ddyfarniad SFIS ym mis Medi 2024 wedi cynorthwyo i gyflawni’r cynllun hwn, ac mae ymyriadau dylunio ac eiddo deallusol wedi cryfhau’r llwybr at y farchnad.

O ganlyniad, mae cymorth arloesi Llywodraeth Cymru wedi helpu Llusern Scientific i wneud y canlynol:

  • Gwella’i blatfform diagnostig presennol, gan ei wneud yn addas i’w ddefnyddio mewn ystod ehangach o leoliadau clinigol.
  • Datblygu dyluniad unigryw newydd ar gyfer y panel profion, gan fynd i’r afael â risgiau halogi a chan ei wneud yn haws ei ddefnyddio mewn lleoliadau ar wahân i labordai.
  • Cryfhau ei bortffolio eiddo deallusol trwy gyfrwng archwiliad cynhwysfawr ac argymhellion y gellir gweithredu arnynt, gan roi hwb i hyder buddsoddwyr.
  • Ymestyn cyfleusterau ymchwil a datblygu ym Mharc Busnes Cardiff Edge.
  • Hyrwyddo trefniadau cydweithredu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid y GIG, gan ategu dilysu clinigol a chynhyrchu tystiolaeth sy’n deillio o’r byd go iawn.

Er bod cyllid Cymru Ystwyth wedi cynnig cyfleoedd gwerthfawr i archwilio marchnadoedd rhyngwladol, mae cynnydd y cwmni o ran arloesi craidd wedi’i ysgogi gan gymorth penodol a gafwyd gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru.

Gyda’r sylfeini hyn mewn lle, mae’r busnes bellach yn symud i gyfnod hollbwysig yn ei dwf. Mae cyfleusterau newydd, gwell galluoedd a phartneriaethau cryfach yn sicrhau dyfodol llwyddiannus i’r cwmni yng Nghymru a thu hwnt.

Mae effaith y siwrnai arloesi hon eisoes yn amlwg:

  • Mae Llusern Scientific wedi datblygu o fod yn egin fusnes a sefydlwyd gan y sylfaenydd i fod yn dîm sy’n cynnwys saith o weithwyr.
  • Mae ei gyfleusterau ymchwil a datblygu rhagorol wedi cael eu hymestyn.
  • Mae partneriaethau rhyngwladol cynnar yn agor marchnadoedd newydd, tra mae trefniadau cydweithredu parhaus gyda’r GIG yn anelu at ymwreiddio’r dechnoleg yn system gofal iechyd Cymru.

Ychwanegodd Dr Hayhurst: “Mae’r cymorth a gawsom wedi rhoi amser inni anadlu er mwyn gallu dal ati i ddatblygu. Hefyd, mae wedi rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar ymchwil a datblygu ac wedi ein galluogi i adeiladu prototeipiau, diogelu ein syniadau a pharatoi ar gyfer y farchnad. Yn syml, fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru.”

Mae gwaith y cwmni’n ategu Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru trwy fynd i’r afael â blaenoriaethau hollbwysig fel gwella iechyd a llesiant trwy ddiagnosio heintiau’n gyflymach ac yn gywirach, creu sgiliau medrus yn sector gwyddorau bywyd Cymru a chyfrannu at dwf economaidd trwy ddatblygu technoleg arloesol a chanddi effaith fyd-eang.

Beth am weld sut y gall Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (FIS) gynorthwyo eich sefydliad chi. Ewch i Arloesi Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.