Busnes Cymdeithasol Cymru

Eisiau dechrau busnes sy'n gwneud gwahaniaeth? Gallwn eich helpu.


Credwn y gellir gwneud busnes yn wahanol. Gwyddom, drwy fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, ei bod yn bosibl creu newid cadarnhaol ac adeiladu cymunedau cryfach, cyfoethocach.

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn cynnwys tîm o gynghorwyr busnes arbenigol sy’n canolbwyntio ar sefydlu a chefnogi mentrau cymdeithasol. Rydym wedi bod yn cynghori mentrau cymdeithasol ers 1982 ac yn y cyfnod hwnnw rydym wedi helpu i sefydlu cannoedd o fusnesau newydd. Mae ein cefnogaeth wedi’i hariannu’n llawn sy’n golygu eich bod yn cael arweiniad am ddim bob cam o’r ffordd.

Mae'r wefan hon yn darparu'r holl wybodaeth dechnegol sydd ei hangen arnoch i ddechrau neu weithredu busnes cymdeithasol. Darganfyddwch ein mwy am sut y gallwn helpu eich busnes cymdeithasol isod.

What is a social business?
What is a social business?

BUSNESAU CYMDEITHASOL AROBRYN YNG NGHYMRU

Mae busnesau cymdeithasol yn rhan bwysig a dynamig o economi cymru. Maent yn darparu swyddi da, yn nes at gartref, lle y mae ar gymunedau eu hangen. Mae busnesau cymdeithasol yn gweithredu mewn modd ymarferol i fynd i'r afael â materion lleol, a hynny trwy fasnachu ac yna ailfuddsoddi'r incwm y maent yn ei ennill yn y pethau sy'n bwysig iddynt.
Mae'r fideos isod yn dangos rhai o'r busnesau cymdeithasol hynod o lwyddiannus sy'n gweithredu yng nghymru, ac yn rhoi enghreifftiau o'r amrywiaeth fawr o fentrau sy'n gweithio i sicrhau effaith gadarnhaol yn eu cymunedau.

Splash Community Trust

Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Gymunedol Splash ar ôl cau Canolfan Plas Madoc ym mis Ebrill 2014. Trwy gefnogaeth y gymuned, llwyddodd yr Ymddiriedolaeth i achub y Cyfleuster Hamdden. Yn y tair blynedd ddiwethaf, maent wedi gweddnewid cyfleuster a gaewyd ac yr oedd disgwyl iddo gael ei ddymchwel, i fod yn ganolfan hamdden a chanolfan gymunedol ffyniannus a phoblogaidd.

Too Good To Waste

Mae Too Good to Waste yn gweithredu busnes ailddefnyddio dodrefn ac offer trydanol yng nghanol cymoedd De Cymru. Mae’n cynnig gwasanaeth am ddim i gasglu dodrefn ac eitemau amldro trydanol ac eitemau’r cartref sy’n cael eu perchnogi’n barod o gartrefi preswyl a busnesau, ac yn dosbarthu’r rhain trwy ei ystafelloedd arddangos yn Ynyshir ac Aberdâr.

Natural Weigh

Siop dim gwastraff sy’n gwerthu bwydydd sych, cynhyrchion glanhau a chynhyrchion ffordd o fyw o ansawdd uchel yw Natural Weigh Ltd. Eu cenhadaeth yw lleihau pecynnau plastig a ddefnyddir unwaith trwy gynnig cyfle i gwsmeriaid siopa heb becynnau. Mae cwsmeriaid yn dod â chynwysyddion amldro i’r siop i’w llenwi â chynhyrchion o’r siop.

Antur Waunfawr

Sefydlwyd Antur Waunfawr yng Ngwynedd ym 1984 a’i nod yw darparu cyfleoedd gwaith a chymorth i oedolion ag anableddau dysgu tra’n hyrwyddo iechyd a lles. Erbyn hyn, mae’r cwmni’n cyflogi dros 90 o staff ac yn cynorthwyo dros 60 o oedolion sydd ag anableddau dysgu.

Empower – Be The Change

Mae Empower – Be The Change yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau lleol a chenedlaethol i gyflwyno rhaglenni pwrpasol sy’n cynyddu hyder, cymhelliant, annibyniaeth a hunanreolaeth pobl. Trwy wneud hynny, maent yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â materion yn ymwneud â thlodi, cydlyniad cymdeithasol, lles, mynediad a chyrhaeddiad ar draws pob agwedd ar ddysgu.


 

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu cymorth un-i-un dwys i fusnesau cymdeithasol ledled Cymru sydd am ehangu neu greu swyddi.

Ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

 

Ffynonellau cymorth eraill i fusnesau cymdeithasol - mae amrywiaeth o ddarparwyr cymorth sy'n arbenigo mewn cymorth i fusnesau cymdeithasol.

Chwiliwch am restr o ddarparwyr cymorth

 

Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Fe'i cyflwynir gan Cwmpas.

Ewch i wefan Cwmpas


Latest events

16 Hyd 2024
6 Steps to Fast Track Your Marketing
Learn how to assemble a list of actionable steps, to...
16 Hyd 2024
Managing Your Business and Setting the Tone - Governance Practices
Join us for the third event in our Impact October series,...
16 Hyd 2024
Powys Teaching Health Board & Powys County Council Meet The Buyer Events
BRECON,
After holding successful events in previous years,...
See all events

Latest updates from Social Business Wales

Skip to content

Latest updates from Business Wales

Skip to content