Cydymffurfiaeth busnes: Data a chyfathrebu

Cyfraith Diogelu Data - y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Your business needs to ensure it abides with the Data protection Act 2018 which is the UK’s implementation of the General Data

Mae angen i'ch busnes sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 sef gweithrediad y DU o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) i reoli sut mae gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw awdurdod annibynnol y DU a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth er budd y cyhoedd, gan tryloywder cyrff cyhoeddus a phreifatrwydd data i unigolion.

Bydd angen systemau a gweithdrefnau priodol ar eich busnes ar gyfer dal a rheoli unrhyw wybodaeth bersonol a sensitif y mae'n ei derbyn.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu rhestr wirio sy’n offeryn hunanasesu i fusnesau bach ar gydymffurfio â rheolau diogelu data. Mae hwn yn adnodd defnyddiol.

Gofynion deunydd ysgrifennu a chyhoeddi 

Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl ddeunydd ysgrifennu ar gyfer cwmnïau cyfyngedig (mae hyn yn cynnwys busnesau cymdeithasol) ddangos enw llawn y cwmni, cyfeiriad y swyddfa gofrestredig, man cofrestru, rhif cofrestru a rhif TAW yn ogystal â'ch logo eich hun. Mae hyn yn ymwneud â phenawdau llythyrau, gwefan a deunyddiau cyhoeddusrwydd.   

Yn ôl y gyfraith, rhaid i elusennau roi gwybodaeth am eu statws mewn gwahanol leoedd. Mae hyn er mwyn i unrhyw un sy'n gweithio neu'n gwneud busnes gyda'r elusen wybod pa fath o fusnes y maent yn delio ag ef. Mae NCVO Knowhow yn cynnig cyngor a chefnogaeth i elusennau a sefydliadau gwirfoddol ar y gyfraith.

Hawlfraint ar gyfer defnyddio ffotograffau 

Mae angen i chi sicrhau bod gan unrhyw luniau neu logos a ddefnyddir at ddibenion marchnata yr hawlfraint priodol. Mae Shutterstock yn cynnig delweddau a lluniau stoc heb freindaliadau. 

 

Yn yr adran hon:

Cydymffurfiaeth busnes: Dogfen lywodraethol

Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddwyr

Cydymffurfiaeth busnes: Ariannol

Cydymffurfiaeth busnes: Adnoddau dynol

Cydymffurfiaeth busnes: Iechyd a diogelwch

Cydymffurfiaeth busnes: Data a chyfathrebu

Cydymffurfiaeth busnes: Cytundebol

Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddio sy'n benodol i weithgaredd