Pan fyddwch yn hyderus fod gennych gynnig ymarferol ar gyfer busnes a’r bobl sy’n angenrheidiol i’w weithredu, byddwch mewn sefyllfa i ddechrau eich busnes cymdeithasol.
Y cam nesaf yw dechrau llunio’ch cynllun busnes. Bydd y prif gynllun hwn yn amlinellu strwythur a threfniadau llywodraethu eich menter mewn ffordd eglur a chryno, ynghyd â dangos y diben cymdeithasol neu’r elw cymdeithasol fel nodwedd ychwanegol.
Bydd eich cynllun busnes hefyd yn cynnwys amcanestyniadau ariannol a dewisiadau arfaethedig ar gyfer cyllid cychwynnol, yn ogystal ag amlinelliad o sut rydych yn bwriadu rheoli prosiectau a chysylltiadau â gweithwyr.
Pan fyddwch wedi cwblhau eich cynllun busnes, byddwch yn barod i gynnal busnes cymdeithasol.
Yn yr adran hon:
Mae gan Co-operatives UK ganllaw i’r broses o gychwyn busnes cymdeithasol