Sylwer bod y canllawiau hyn yn benodol ar gyfer busnesau cymdeithasol sydd wedi'u cofrestru fel cwmnïau cyfyngedig preifat.
Mae cyfarfod cyffredinol blynyddol (CCB, neu AGM yn Saesneg) busnes cymdeithasol yn gyfarfod ymysg ei aelodau a gynhelir ar ôl diwedd blwyddyn ariannol y busnes i bleidleisio a gwneud penderfyniadau ar wahanol faterion, proses y cyfeirir ato hefyd fel pasio penderfynia dau, sef datrys / penderfynu ar rywbeth.
Nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gwmnïau preifat (mewn cyferbyniad â chwmnïau cyfyngedig cyhoeddus) gynnal CCBau oni nodir y gofyniad hwn yn eu Herthyglau Cymdeithasu. Fodd bynnag, rydym yn annog sefydliadau i gy nnal CCBau gan fod yr arfer da hwn yn rhoi cyfle i gysylltu'n uniongyrchol â'ch aelodau, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr hyn y mae'r busnes cymdeithasol yn ei wneud a’i gynllunio. Rhaid i chi gynnal eich CCB o fewn naw mis i ddiwedd blwyddyn a riannol y busnes.
Materion i'w cynnwys mewn CCB
Yn gyffredinol, Aelodau'r Bwrdd sy'n penderfynu ar y materion (eitemau agenda) i'w cynnwys yn y CCB. Fodd bynnag, gall aelodau sydd ag o leiaf 5% o gyfanswm yr hawliau pleidleisio fynnu bod y busnes yn dosb arthu penderfyniad i bleidleisio arno yn y CCB. Bydd agenda nodweddiadol yn cynnwys yr eitemau canlynol:
- derbyn adroddiad y Cadeirydd
- derbyn y cyfrifon
- penodi/ailbenodi cyfarwyddwyr
- penodi/ailbenodi archwilwyr.
Bydd yr eitemau CCB safonol yn benderfyniadau cyffredin sy dd yn gofyn dim m wy na bod mwy na 50% yn pleidleisio drostynt er mwyn iddynt gael eu cymeradwyo.
Gweler CCB agenda enghreifftiol
Pleidleisio yn y CCB – Cworwm
Bydd pleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol yn digwydd naill drwy godi dwylo neu drwy bleidlais ysgrifenedig , yn ôl cyfarwyddyd erthyglau cymdeithasu'r busnes. Bydd y cworwm sydd ei angen ar gyfer cyfarfod cyffredinol ymysg yr aelodau hefyd yn cael ei nodi yn yr erthyglau cymdeithasu.
Cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cwmni yw sicrhau bod cworwm angenrheidiol yr aelodau yn bresennol. Os na cheir cworwm mewn cyfarfod, bydd yr erthyglau cymdeithasu’n amlinellu'r broses y dylid ei dilyn ar gyfer ailgynnull y cyfarfod.
Cyfarfod cyffredinol eithriadol (CCE, neu EGM yn Saesneg) yw unrhyw gyfarfod cyffredinol ymysg aelodau heblaw am yCCB. Defnyddir CCEau yn aml lle mae angen cymeradwyaeth aelodau cyn y CCB nesaf i gymeradwyo, er enghraifft:
- newid i amcanion y busnes
- unrhyw newid arall i erthyglau cymdeithasu'r busnes
- newid i enw'r busnes
- diswyddo cyfarwyddwr cyn diwedd e i d ymor
- i ddiddymu'r busnes.
Er mwyn lleihau'r angen am gyfarfodydd cyffredinol lluosog, bydd cwmnïau'n ceisio cynnwys yr holl benderfyniadau angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn i ddod yn eu CCBau.
Fel arfer, mae angen pasio materi on a ddygir i CCE fel "penderfyniadau arbennig" ac mae angen cymeradwyaeth 75% o'r rhai sy'n pleidleisio arnynt. Fodd bynnag, mae erthyglau cymdeithasu llawer o fusnesau yn nodi bod rhai newidiadau i'w pasio yn gofyn am gymeradwyaeth unfrydol yr aelodau (100% o'r rhai sy'n pleidleisio).
Gall pob aelod fynychu a phleidleisio ’n bersonol mewn cyfarfodydd cyffredinol. Gall aelodau nad ydynt yn gallu bod yn bresennol benodi dirprwy i fynychu'r cyfarfod cyffredinol a phleidleisio drostynt.
Gellir naill ai g yfarwyddo'r dirprwy ar sut i bleidleisio ar bob penderfyniad, gan gynnwys ymatal, neu g aniatáu iddo bleidleisio fel y dymuna. Er mwyn gwneud hyn, mae angen llenwi ffurflen pleidleisio drwy ddirprwy. Mae'n ofyniad cyfreithiol i gynnig pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer pob cwmni preifat.
Gellir cynnal cyfarfod cyffredinol yn electronig neu gym ysgedd o gyfarfod wyneb yn wyneb ac electronig, ar yr amod y gall pawb sy'n bresennol glywed a chymryd rhan lawn yn y cyfarfod.
Gweler Ffurflen ddirprwy enghraifft
Fel arfer, Cadeirydd y cyfarfodydd cyffredinol fydd unrhyw berson a benodir yn Gadeirydd Bwrdd yr Aelodau ac mae hyn yn aml wedi'i nodi yn yr erthyglau cymdeithasu. Mae'r Cadeirydd yn rheoli'r cyfarfod ac yn penderfynu a yw penderfyniad wedi'i basio neu heb ei basio neu wedi'i basio gyda'r mwyafrif angenrheidiol.
Er y gall Cadeirydd fod â hawl i bleidlais fwrw mewn cyfarfodydd bwrdd, dylid nodi na chaniateir hyn yn gyfreithiol mewn cyfarfodydd cyffredinol.
Rhaid i bob cwmni gadw cofnodion o bob cyfarfod cyffredinol a phenderfyniadau'r aelodau. Rhaid cadw'r cofnodion am o leiaf ddeng mlynedd o ddyddiad y penderfyniad, y cyfarfod neu'r penderfyniad (fel y bo'n briodol).
Eisiau trafod eich CCB neu unrhyw CCEau ymhellach? Cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.
Canllawiau pellach
Canllaw Cymorth y Trydydd Sector: Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol Effeithiol