Cyflwyniad Cydymffurfiaeth Busnes Cymdeithasol
Mae'n hanfodol eich bod yn deall yr hyn sy'n ofynnol gan eich busnes cymdeithasol a bod gennych yr holl brosesau ar waith i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.
Pan fyddwch yn dechrau busnes cymdeithasol mae amryw o agweddau cyfreithiol a rheoleiddiol ar y busnes hwnnw y mae'n rhaid eu hystyried a chydymffurfio â hwy. Mae'r rhain yn amrywio yn dibynnu ar natur y busnes, y strwythur cyfreithiol rydych wedi'i ddewis ar gyfer eich busnes, a'r gweithgareddau a gyflawnir.
Rhaid i fusnesau cymdeithasol ystyried eu rhwymedigaethau cydymffurfio untro pan fydd y busnes yn dechrau a'u rhwymedigaethau parhaus. Ystyrir bod cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol dda yn rhan allweddol o redeg busnes cymdeithasol llwyddiannus.
Mae'r canllaw hwn yn mynd i'r afael â'r prif ofynion y dylai'r rhai sy'n sefydlu busnes cymdeithasol eu hystyried a'r bwriad yw eich helpu chi a'r rhai sy'n gysylltiedig drwy rai o'r materion cydymffurfio.
Eisiau trafod pynciau yn y canllaw hwn ymhellach? Cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.
Lawr lwythwch y Canllaw Cydymffurfiaeth Busnes Cymdeithasol cyfan ar ffurf PDF:
Diffiniadau
Mae'r canllaw yn defnyddio'r termau allweddol canlynol i gwmpasu ystod o ystyron:
A ddefnyddir i gynnwys sefydliad o unrhyw faint, cymhlethdod neu statws cyfreithiol sydd â nodau ac amcanion cymdeithasol ac sy'n defnyddio ei elw at y dibenion hynny.
A ddefnyddir i gyfeirio at y bobl sy'n ffurfio corff llywodraethu'r busnes cymdeithasol. Gellir eu galw'n Gyfarwyddwyr, Bwrdd y Cyfarwyddwyr, Ymddiriedolwyr, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, y pwyllgor rheoli neu'r pwyllgor gweithredol.
A ddefnyddir i ymdrin â'r prif bethau y mae busnes cymdeithasol yn eu gwneud – y gwasanaeth a ddarperir, neu'r nwyddau / cynhyrchion a werthir.
A ddefnyddir i gynnwys cwsmeriaid, cleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth busnes, h.y. y rhai rydych yn darparu nwyddau a gwasanaethau iddynt.
A ddefnyddir i gwmpasu gwahanol fathau o gytundebau ariannu neu weithgarwch a drefnir gan y busnes cymdeithasol. Gellir eu galw'n Gytundebau Lefel Gwasanaeth, Memorandwm Cyd - ddealltwriaeth, cytundebau grant, contractau ariannu neu gytundebau partneriaeth.
Unrhyw sefydliad sydd wedi’i gorffori fel cwmni cyfyngedig, Cwmni Cyfyngedig drwy Warant, neu Gwmni Buddiant Cymunedol (a elwir yn CBC, neu CIC yn Saesneg), Cymdeithas gofrestr edig neu Sefydliad Corfforedig Elusennol (a elwir yn SCE, neu CIO yn Saesneg)*. Wrth gorffori, daw sefydliad yn endid cyfreithiol sy'n bodoli ar wahân i'w aelodaeth.
*Dyma'r strwythurau mwyaf cyffredin sy'n gysylltiedig â busnesau cymdeithasol. Mae opsiynau eraill fel Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig y tu hwnt i gwmpas y canllaw hwn.
Mae sefydliad anghorfforedig yn sefydliad sy'n bodoli fel grŵp o unigolion neu aelodau sydd wedi dod at ei gilydd ar y cyd at ddiben cyffredin, ond nad ydynt wedi ffurfio endid cyfreithiol ar wahân. Mae'r sefydliadau a'r unigolion dan sylw yr un peth.
Y ffurflen gyfreithiol a ddewisir ar gyfer eich busnes cymdeithasol.
Y ddogfen ffurfiol sy'n sefydlu sefydliad. Gellir cyfeirio at y ddogfen lywodraethol fel cyfansoddiad, erthyglau cymdeithasu a rheolau cymdeithas, yn dibynnu ar natur yr endid cyfreithiol a grëwyd.
Y gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n llywodraethu busnes.