Cyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd dros gydymffurfiaeth busnes
Defnyddir y term Bwrdd i gwmpasu ystod eang o gyrff llywodraethu, gan gynnwys Cyfarwyd dwyr, Ymddiriedolwyr, y pwyllgor rheoli a'r pwyllgor gweithredol. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu ac arwain y busnes cymdeithasol fel y nodir yn ei reolau cyfreithiol.
Dylai fod gan eich Bwrdd y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad angenrheidiol i reol i ac arwain y busnes cymdeithasol i sicrhau ei fod yn cyflawni ei genhadaeth ac yn cyflawni'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.
Bydd hyn yn golygu sicrhau:
- Y penodir aelodau'r Bwrdd yn gyfreithiol
- Bod holl aelodau'r Bwrdd yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau unigol a chyfunol
- Y bodlonir yr holl ofynion cydymffurfiaeth busnes perthnasol
- Goruchwyliaeth gyfreithiol, systematig a phriodol o brosesau dirprwyo i swyddogion, is-bwyllgorau neu staff a gwirfoddolwyr cyflogedig.
Beth allai ddigwydd os nad yw aelodau'r bwrdd yn cymryd cyfrifoldeb llawn am yr holl gydymffurfiaeth busnes berthnasol? Yn gyntaf, mae angen i chi ddeall atebolrwydd.
Atebolrwydd personol: Nid oes gan fusnes anghorfforedig ei hunaniaeth ei hun ac felly mae ei berchenogion yn atebol yn bersonol am ei ddyledion ac am unrhyw gamau cyfreithlon a ddygir yn erbyn y busnes. Mae atebolrwydd yn anghyfyngedig.
Atebolrwydd cyfyngedig: Mae gan fusnes atebolrwydd cyfyngedig ei hunaniaeth gyfreithiol ei hun, ar wahân i’w aelodau ac aelodau ei Fwr dd, sy'n golygu mai dim ond y busnes sy'n atebol i dalu ei ddyledion neu am unrhyw gamau cyfreithlon; mae'r Cyfarwyddwyr a'r aelodau wedi'u hamddiffyn rhag atebolrwydd. Mae amgylchiadau arbennig a phrin pan allai aelodau unigol o'r Bwrdd gael eu hunain yn atebol yn bersonol.
Diben y canllaw hwn yw eich gwneud yn ymwybodol o'ch dyletswyddau cyfreithiol fel aelodau Bwrdd a'ch cefnogi i sicrhau bod eich busnes yn cydymffurfio'n gyfreithiol ym mhob ystyr o'r gair. Dylai cyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau cy freithiol fel aelodau Bwrdd busnes atebolrwydd cyfyngedig sicrhau eich bod yn lleihau unrhyw risg o fod yn atebol yn bersonol am unrhyw ddyledion neu gamau cyfreithiol a ddygir yn eich erbyn.
Mae amryw o feysydd lle gallai atebolrwydd godi wrth redeg busne s fel a ganlyn:
Fel y soniwyd uchod, mae gan aelod o'r Bwrdd fantais atebolrwydd cyfyngedig ac nid yw'n bersonol gyfrifol am ddyledion busnes cymdeithasol. Mae hyn yn golygu, os na all busnes dalu ei ddyledion, mai dim ond asedau'r busnes y gellir eu cymryd mewn ymgais i setlo'r dyledion.
Mae rhai achosion lle gall Aelodau Bwrdd/Cyfarwyddwyr Cwmnïau gael eu dal yn atebol yn bersonol am ddyledion busnes a byddant yn defnyddio eu harian a'u hasedau eu hunain i setlo'r rhain:
- Mae ael od o'r Bwrdd wedi llofnodi gwarant bersonol wrth ymgymryd â benthyciad busnes
- Mae gan y busnes cymdeithasol gyfrif benthyciad Cyfarwyddwr sydd wedi mynd i ddyled
- Mae aelodau'r Bwrdd wedi masnachu'n dwyllodrus h.y. gyda'r bwriad o dwyllo
- Mae aelodau'r Bwrdd wedi masnachu'n anghyfreithlon h.y. parhau i fasnachu pan na ellir talu dyledion a bod Aelodau'r Bwrdd/ Cyfarwyddwyr yn gwybod, neu y dylent fod wedi gwybod, nad oedd unrhyw obaith rhesymol y byddai'r busnes yn osgoi ansolfedd, diddymiad neu fynd i ddwylo gweinyddwyr.
Gellir osgoi hyn drwy sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion angenrheidiol o ran eich rheoleiddiwr (e.e. Tŷ'r Cwmnïau) a CThEM a thrwy sicrhau eich bod yn monitro sefyllfa ariannol y busnes cymdeithasol, gan weithredu bob amser yn ddidwyll.
Wrth gyflogi staff, gall aelodau Bwrdd, fel gweithwyr eraill, gael eu dal yn atebol am rai hawliadau cyflogeion. Gellir ymdrin â hawliadau drwy dribiwnlys cyflogaeth ar ddiswyddiadau annheg ac anghyfiawn, gwahaniaethu, cyflog cyfartal, a didyniadau o gyflogau. Mae'r canlyniad yn debygol o fod yn gytundeb setlo gan gynnwys iawndal i'r cyflogai. Gellir dwyn hawliadau, er enghraifft, yn erbyn yr unigolyn sydd wedi gwahaniaethu, yn ogystal ag yn erbyn y busnes cymdeithasol.
O dan gyfraith iechyd a diogelwch, fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb i amddiffyn gweithwyr ac eraill rhag risg i'w hiechyd a'u diogelwch. Rhaid i aelodau Bwrdd amddiffyn cyflogeion ac eraill rhag cael eu brifo neu fynd yn sâl drwy weithio. Os na wnewch hynny, gall rheoleiddiwr fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) neu awdurdod lleol gymryd camau yn eich erbyn o dan gyfraith trosedd. Gall y person yr effeithiwyd arno wneud cais am iawndal yn eich erbyn o dan gyfraith sifil.
Yn y sefyllfa waethaf, gall esgeulustod arwain at farwolaeth yn y gweithle ac achos o ddynladdiad corfforaethol yn erbyn y busnes cym deithasol, os teimlir bod dyletswydd gofal wedi'i thorri'n ddifrifol. Bydd erlynwyr yn cyhuddo aelodau unigol o'r Bwrdd, yn enwedig os yw'r busnes cymdeithasol yn cael ei erlyn am ddynladdiad corfforaethol.
Gall aelodau'r Bwrdd sy'n torri eu dyletswyddau c yfreithiol ac nad ydynt yn cymryd y mater o gydymffurfio o ddifrif wynebu:
- Colli eu hatebolrwydd cyfyngedig
- Cael eu hanghymhwyso rhag gweithredu fel aelod o'r Bwrdd/Cyfarwyddwr
- Achosion sifil neu droseddol.
Yn yr adran hon:
Cyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd dros gydymffurfiaeth busnes
Rolau a chyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd
Eisiau trafod y pwnc ymhellach? Cysylltwch sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.