Rolau a chyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd
Mae angen i'ch Bwrdd gyflawni ei holl gyfrifoldebau cyfreithiol a rheoleiddiol ac mae'n atebol i'w randdeiliaid. Mae aelodau'r Bwrdd yn gyfrifol yn unigol ac ar y cyd am sicrhau bod y busnes cymdeithasol yn cael ei lywodraethu'neffeithiol ac yn gyfrifol. Mae angen i holl aelodau'r Bwrdd fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau.
Cyfrifoldeb ariannol a chyfreithiol am redeg y cwmni ac am gyflwyno gwybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau ar amser:
- y datganiad cadarnhau
- y cyfrifon blynyddol
- unrhyw newid yn swyddogion eich cwmni neu eu manylion personol
- newid i swyddfa gofrestredig eich cwmni
- cofrestru ffioedd (morgais).
Dyletswyddau cyffredinol:
- cydymffurfio â Dogfen Lywodraethu'r cwmni
- gweithredu er budd y cwmni i hyrwyddo llwyddiant y cwmni
- cymhwyso barn annibynnol
- gweithredu gyda gofal, sgil a diwydrwydd rhesymol
- er mwyn osgoi gwrthdrawiad buddiannau
- peidio â derbyn buddion trydydd parti
- cyfrinachedd.
Canllawiau pellach
Canllawiau: Bod yn gyfarwyddwr cwmni
Cyfrifoldeb ariannol a chyfreithiol am redeg yr elusen ac am ddarparu gwybodaeth i'r Comisiwn Elusennau ar amser:
- adroddiad blynyddol-
- cyfrifon blynyddol
- newidiadau o ran ymddiriedolwyr
- adrodd ar faterion allweddol.
Dyletswyddau cyffredinol:
- sicrhau bod yr elusen yn cyflawni ei dibenion er budd y cyhoedd
- cydymffurfio â Dogfen Lywodraethol yr elusen a'r gyfraith
- gweithredu er budd yr elusen
- rheoli adnoddau’r elusen yn gyfrifol
- gweithredu gyda sgil a gofal rhesymol-sicrhau bod eich elusen yn atebol.
Canllawiau pellach
Trefnodd Deddf Cwmnïau 2006 ddyletswydda u Cyfarwyddwyr (codeiddiedig) ar gyfer cwmnïau cyfyngedig. Er nad yw'r codeiddiad hwn yn berthnasol i Gymdeithasau, mae'r dyletswyddau cyffredinol a nodir yng nghyfraith cwmnïau yn seiliedig ar gyfraith gyffredin ac egwyddorion teg. Nid oes rheidrwydd ar G yfarwyddwyr Cymdeithasau i'w dilyn, ond mae gwneud hynny’n golygu y dilynir yr arferion gorau.
Rhaid i Gyfarwyddwyr Cymdeithasau Cofrestredig hefyd weithredu yn unol â Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014. Dylai cyfarwyddwyr gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau cyfreithiol mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau bod y Gymdeithas yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithredu fel busnes cydweithredol llwyddiannus yn unol â'r gwerthoedd a'r egwyddorion a nodir yn Natganiad Hunaniaeth G ydweithredol Rhyngwladol y Gynghrair Gydweithredol. Dyma sail pob cwmni cydweithredol ac mae'n gwasanaethu buddiannau ac yn diogelu asedau aelodau'r Gymdeithas drwy arfer barn annibynnol a gwrthrychol.
Yn fras, mae tri chategori o ddyletswydd gyfreithiol:
- Y ddyletswydd i fod yn ddidwyll
- Y ddyletswydd i gymryd gofal
- Y ddyletswydd i ufuddhau i'r gyfraith.
Mae canllaw manwl ar y Cyfarwyddwr Cymdeithas Hanfodol ar gael gan Co-operatives UK.
Dealltwriaeth ar gyfer holl aelodau'r Bwrdd ar eu rolau a'u cyfrifoldebau
Er mwyn cynorthwyo holl aelodau'r Bwrdd i gael gwell dealltwriaeth o'u rolau a'u cyfrifoldebau, dylech ystyried rhoi'r ddogfennaeth ganlynol ar waith:
- Disgrifiad o rôl aelod o’r bwrdd
- Cod ymddygiad ar gyfer aelodau’r Bwrdd
- Rolau swyddi swyddogion unigol – Cadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd
- Pecyn sefydlu (neu lawlyfr aelodau’r Bwrdd) ar gyfer pob aelod newydd o’r Bwrdd sy'n rhoi gwybodaeth allweddol am y busnes a'u rolau ynddo
- Polisi Gwrthdaro Buddiannau a Chofrestr Buddiannau Aelodau ’r Bwrdd ( Gweler Cofrestr buddiannau aelodau Bwrdd)
O safbwynt ymarferol, gall y Bwrdd ddewis dirprwyo rhywfaint o'i weithgarwch er mwyn sicrhau bod y busnes cymdeithasol yn rhedeg yn esmwyth.mwyn sicrhau bod y busnes cymdeithasol yn rhedeg yn esmwyth.
Sylwer, er y gall y Bwrdd ddirprwyo ei awdurdod, na all ddirprwyo ei gyfrifoldeb cyffredinol ac yn y pen draw mae'n gyfrifol am bopeth sy'n digwydd mewn busnes.Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i brosesau dirprwyo fod yn gyfreithlon, yn systematig a bod wedi’u goruchwylio’n briodol. Gellir dirprwyo i swyddogion, is-bwyllgorau neu wirfoddolwyr a staff cyflogedig. Mae angen i chi sicrhau:
- Bod unrhyw brosesau dirprwyo yn unol â'ch dogfen lywodraethol
- Bod y ddirprwyaeth wedi'i dogfennu'n glir gan nodi cylch gorchwyl penodol (rheolau gweithredu ar yr hyn y gallant ac na allant ei wneud) ar gyfer is-bwyllgorau, a dogfennau awdurdod dirprwyedig priodol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy'n nodi terfynau ariannol lle y bo'n briodol
- Y sefydlir mecanwaith adrodd clir i'r Bwrdd fonitro ei ddirprwyaethau.
Gweler Cylch gorchwyl pwyllgor enghraifft
Gwybodaeth bellach
Ewch i wefan Busnes Cymdeithasol Cymru ar gyfer Datblygu gallu llywodraethu a'i adran ar 'Ddatblygu Bwrdd Cyfarwyddwyr eich busnes cymdeithasol'.
DS Os byddwch yn defnyddio'r holiadur llywodraethu, neu ran ohono ac eisiau trafod eich atebion, anfonwch e-bost sbwenquiries@wales.coop