Yn rhan o’r broses gychwyn, bydd angen i chi greu strwythur cyfreithiol newydd ar gyfer eich busnes cymdeithasol.

Mae strwythur busnes sefydliad yn gategori cyfreithiol sy’n diffinio sut mae eich cwmni’n cael ei gydnabod gan yr awdurdodau cyfreithiol. Gall hyn gael effaith tymor hir ar y ffordd rydych yn cynnal eich busnes, felly mae’n hollbwysig ei gael yn iawn.


Strwythur cyfundrefnol menter gymdeithasol

Mae’n bwysig dewis y strwythur cyfreithiol ar gyfer eich busnes cyn i chi ddechrau masnachu, gan ei fod yn effeithio ar nifer o ffactorau, gan gynnwys: 

  • Cost sefydlu eich busnes cymdeithasol
  • Sut y bydd y busnes yn cael ei gynnal wrth symud ymlaen
  • Eich trethi a’ch rhwymedigaethau
  • Pa mor hir y bydd y busnes yn gweithredu 

Yn aml, mae pobl yn ei chael hi’n anodd dewis rhwng yr amryw strwythurau cyfreithiol posibl ac yn methu goresgyn y maen tramgwydd hwn. 

Rydym wedi llunio canllaw isod i’r mathau o strwythurau cyfundrefnol ar gyfer mentrau cymdeithasol a sut i ddewis yr un iawn i’ch busnes chi. 


Yn yr adran hon:

Y mathau o Fusnesau Cymdeithasol

Trosolwg o’r amryw wahanol ffyrdd y mae busnesau cymdeithasol yn trefnu eu hunain a disgrifio eu hunain i’r byd.

Ffurf Gyfreithiol Busnes Cymdeithasol

Trosolwg o’r gwahanol ffurfiau cyfreithiol a ddefnyddir gan fusnesau cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig.

Dewis Strwythur Busnes Cymdeithasol

Y broses a’r cwestiynau pwysig a fydd yn eich galluogi i ddewis y strwythur cyfreithiol mwyaf priodol ar gyfer eich busnes cymdeithasol.

Statws elusennol Busnes Cymdeithasol

Beth yw elusen a beth yw manteision ac anfanteision statws elusennol?