Hanes llwyddiant

Arbenigedd Busnes Cymru’n darlunio llwyddiant i gwmni delweddu

Chief Growth Officer Mahesh Dilhan  - Dynamic X

Mae’r darparydd atebion delweddu o Gaerffili, Dynamic X, wedi gwireddu ei nodau busnes wrth i gymorth Busnes Cymru gynorthwyo’r cwmni i gyrchu cyfleoedd i ennill contractau newydd ar draws sector cyhoeddus y DU. 

Mae Dynamic X wedi bod yn enw dibynadwy yn y byd delweddu 3D, CGI, a’r cyfryngau digidol ymdrochol ers dros ddegawd. Trwy gynorthwyo datblygwyr, penseiri a sefydliadau tai, mae’r cwmni’n darparu atebion hollol fodern, gan gynnwys cyflwyniadau rhyngweithiol, cyflwyniadau sinemataidd, a rendro amser real. Mae’r offer pwrpasol yma’n cyfoethogi gwaith cynllunio, cysylltiadau â rhanddeiliaid, a chyfathrebu â chleientiaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Diolch i arweiniad arbenigol Busnes Cymru, mae’r cwmni wedi llwyddo i ennill lle ar Fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS), statws a fydd yn caniatáu i Dynamic X dendro am gontractau a allai weld ei amrywiaeth gynyddol o wasanaethau’n cael eu defnyddio ar draws sector cyhoeddus y DU i gyd.

Mae’r gwasanaeth diweddaraf a lansiwyd gan y cwmni’n cynnwys efelychyddion iechyd a diogelwch sy’n defnyddio realiti rhithwir (VR) ar gyfer y sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Nod y profiadau hyfforddi ymdrochol hyn yw disodli dulliau dosbarth traddodiadol o ddysgu, gan helpu gweithwyr i glustnodi risgiau o’r byd go iawn, mabwysiadu arferion diogel, a lleihau damweiniau ar y safle.

Diolch i’w awydd i wthio ffiniau’r busnes, gofynnodd y Prif Swyddog Twf, Mahesh Dilhan, am gymorth arbenigwyr Busnes Cymru i ddatblygu enw da’r cwmni fel cyflenwr, cywreinio’i strategaeth ar gyfer cyflwyno tendrau, ac ehangu’r tîm i fynd ar ôl contractau mwy blaenllaw.

Rhoddodd Elgan Richards, Ymgynghorydd Busnes Cymru ar Gadwyni Cyflenwi, gymorth hanfodol i Dynamic X, gan eu cynorthwyo i ddiogelu lle ar Fframwaith CCS, a chyrraedd busnesau newydd trwy dendro.

Yn ogystal â chyfrannu at bortffolio helaeth Dynamic X, sy’n cynnwys Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, Cornwall Housing, Seconique Furniture, a’r cwmni meddalwedd byd-eang Platned, mae lle'r cwmni ar y fframwaith yn ategu ei enw da fel cyflenwr dibynadwy ar gyfer sector y llywodraeth, gan osod sylfeini cryf ar gyfer ei dwf parhaus yn ne Cymru ac ar draws y DU.

Wrth siarad am arweiniad Busnes Cymru, dywedodd y Prif Swyddog Twf, Mahesh Dilhan:

Mae diogelu lle ar Fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron yn garreg filltir bwysig i dîm Dynamic X, ac mae arweiniad Busnes Cymru wedi chwarae rhan allweddol wrth ein galluogi ni i wneud hyn. Mae dirnadaeth Elgan wedi helpu i lywio ein dull o fynd ati i dendro, ac mae hynny, yn ei dro wedi gwella ansawdd ein cyflwyniadau’n fawr iawn. Mae cael Busnes Cymru fel postyn taro wedi bod yn hynod o werthfawr, ac wedi rhoi’r hyder i ni fynd ar ôl contractau cenedlaethol.

Mae Busnes Cymru wedi cynghori Dynamic X ar ei arferion AD mewnol hefyd. Mae’r cwmni wedi rhoi fframwaith gwerthuso ar waith ar gyfer ei weithwyr, ac wedi dod yn Gyflogwr Cyflog Byw erbyn hyn. Mae’r cwmni wedi gweithio mewn partneriaeth â Venture Graduate i gynnig rolau ar gyfer graddedigion peirianneg a VFX diweddar â’r nod o dyfu’r cwmni’n organig a chryfhau’r economi lleol.

Yn ddiweddar, enwyd Dynamic X yn ‘Stiwdio Delweddu a Dylunio Moethus a Phensaernïol Gorau Cymru’ am arloesi a rhagori yn y sector pensaernïaeth foethus yng Ngwobrau Bywyd Moethus 2025.

Dywedodd Ymgynghorydd Cadwyn Gyflenwi Busnes Cymru, Elgan Richards:

Roeddwn i’n hapus i ddarparu cymorth tendro ar gyfer Mahesh a thîm Dynamic X. Mae eu hymrwymiad i wella ansawdd eu cyflwyniadau ac anelu am ragoriaeth wedi bod yn hanfodol i’w llwyddiant. Mae diogelu lle ar Fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron wedi bod yn dipyn o gamp, ac yn destament i waith caled y tîm. Rwy’n gwybod y bydd y cyfle hwn yn parhau i agor drysau i Dynamic X ac yn gyrru ei lwyddiant.

Bydd Mahesh yn gweithio gyda Busnes Cymru i ehangu presenoldeb Dynamic X ymhellach ar farchnadoedd rhyngwladol. 

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.