Meddwl am Ddechrau Busnes

Gallwn ni eich helpu gyda'ch camau cyntaf i hunangyflogaeth gyda'n canllawiau a'n cefnogaeth ymarferol.

P'un ai ydych chi'n breuddwydio am ddod yn fos arnoch chi eich hun, troi sgil yn fusnes bach ychwanegol, neu'n barod i lansio’ch syniad newydd beiddgar, mae Busnes Cymru yma i helpu gydag offer ac adnoddau, cyngor arbenigol a chymorth ymarferol i'ch helpu i wneud y canlynol:

  • Dechrau gyda hyder
  • Troi eich sgiliau yn incwm
  • Adeiladu busnes sy'n gweddu i'ch ffordd o fyw
  • Llywio heriau a pharhau i fod yn wydn
  • Tyfu’n gynaliadwy a sicrhau bod eich busnes yn barod ar gyfer y dyfodol
  • Canolbwyntio ar arloesi a llwyddiant hirdymor

Bob blwyddyn mae Busnes Cymru yn helpu miloedd o bobl gyda chyngor ac arweiniad i ddatblygu eu hyder a'u gwybodaeth ymarferol i ddechrau eu busnes eu hunain

Gadewch i ni eich helpu i greu busnes sy'n ffynnu heddiw ac yn parhau i dyfu yfory.

Gwasanaethau Busnes Cymru

Os ydych chi'n 25 oed neu'n iau, gall ein gwasanaeth Syniadau Mawr Cymru eich helpu i archwilio entrepreneuriaeth a throi eich angerdd yn realiti busnes.

Dros 25? Mae'r gwasanaeth Dechrau Busnes yn cynnig y cyngor a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ddechrau eich busnes eich hun.

Yn barod i droi eich syniad busnes twf sydyn yn realiti? Mae ein Rhaglen Cyflymu Twf yn cynnig mynediad unigryw i gefnogaeth ac arweinwyr arbenigol yn y diwydiant.


Gwasanaethau a Phynciau Poblogaidd

Yn darparu canllawiau cynhwysfawr ac ymarferol i'ch helpu i ddechrau ac i redeg eich busnes

Mae dechrau’ch busnes eich hun yn her enfawr a chyffrous. Mae’r adran hwn yn amlinellu rhai o’r pethau pwysig ddylech chi eu hystyried cyn i chi gymryd y cam mawr hwnnw.

Canfod Cyllid Defnyddiwch ein Canfyddwr Cyllid i i ganfod opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes

Mae cynllunio beth rydych chi am ei wneud yn eich busnes yn rhan bwysig o wneud yn siŵr bod eich busnes yn llwyddo.

Pan fyddwch chi'n dechrau busnes, gall ymchwil marchnad eich helpu i weld pa mor ymarferol yw'ch syniad busnes a'i siapio er mwyn ichi gael y siawns orau o lwyddo.

Os ydych yn ystyried dechrau busnes newydd mae gennym gannoedd o ffeithlenni am ddim i’ch helpu chi i ddewis y math cywir o fusnes.

Yn darparu arweiniad a rhai opsiynau i'ch helpu i ddatblygu syniad busnes.

Cyrsiau digidol sydd wedi cael eu creu gan arbenigwyr pwnc Busnes Cymru i'ch helpu i sefydlu a rhedeg busnes yn llwyddiannus.

Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.