Wedi'i leoli ar lannau’r Fenai, ganwyd Snowdonia Gear Repair o syniad syml ond pwerus: trwsio, nid prynu o’r newydd. Wedi'i sefydlu yn 2022 gan Rosanna Watson a'i phartner Jos, mae'r busnes yn cyfuno cefndir Rosanna mewn peirianneg â'i hangerdd dros wnïo a chynaliadwyedd. Gan sylweddoli cost amgylcheddol y diwylliant taflu pethau, a'r diffyg gwasanaethau atgyweirio hygyrch, gwyddai Rosanna fod angen cymorth arni i droi ei gweledigaeth yn fusnes cynaliadwy, y gellid ei ehangu.
Drwy Busnes Cymru, cafodd Rosanna gymorth arbenigol gyda chadw cyfrifon, Adnoddau Dynol ac, yn fwyaf pwysig, mentora. Cafodd ei pharu ag arbenigwr yn y diwydiant a roddodd gefnogaeth a chyngor gwerthfawr.
Gyda chefnogaeth Busnes Cymru, mae Snowdonia Gear Repair wedi tyfu o ran maint ac effaith. Mae'r busnes bellach yn cynnal gweithdai cymunedol rheolaidd, gan ddysgu pobl leol sut i drwsio eu heitemau eu hunain, dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a hyrwyddo economi gylchol yn y broses.