Gall defnyddio'r Gymraeg gael effaith fawr ar dy fusnes.

Ni fyddwn ar gael ar 10 Mehefin, ond mae croeso i ti barhau i anfon dy geisiadau yn y cyfamser, a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr.

We won't be available on 10 June, but you're very welcome to send us your requests in the meantime, and we'll respond as soon as possible. Thank you

Yr hyn a wnawn

Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim!

Cofrestru gyda Helo Blod

Yn cynnwys

Gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 o eiriau i'r Gymraeg bob mis, am ddim, i dy fusnes, elusen neu grŵp cymunedol.

Beth am roi cynnig ar ddrafftio rhywbeth yn Gymraeg dy hun. Gall Helo Blod helpu i fagu dy hyder wrth ysgrifennu. Paid â phoeni am gamgymeriadau!

Gall Helo Blod gynnig deunyddiau am ddim fel laniardiau, bathodynnau, ac arwyddion ‘Ar Agor/Ar Gau’ dwyieithog i dy helpu i hyrwyddo'r Gymraeg yn dy fusnes.

Wyt ti’n gymwys?

Mae Helo Blod am helpu pawb, ond mae yna gyfyngiadau ar beth rydym yn gallu ei wneud. Clicia isod i weld a yw dy gais yn gymwys.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.


Llinell gymorth Helo Blod

03000 25 88 88

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Neu defnyddia'r ffurflen Cysylltu â Ni.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.