Gad i’r Gymraeg ddisgleirio – gyda laniardiau, bathodynnau ac arwyddion am ddim!
Eisiau dangos dy fod yn siaradwr Cymraeg neu'n dysgu'r iaith? Mae gwisgo bathodyn neu laniard Iaith Gwaith yn ffordd syml o roi gwybod i eraill eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg â ti – yn y swyddfa, ar lawr y siop, neu allan yn y gymuned.
Mae modd archebu nwyddau am ddim – gan gynnwys ein harwyddion Ar Agor/Ar Gau dwyieithog. Mae’n hawdd ac yn gyflym trwy dy gyfrif Helo Blod a Fi. Dilyna’r camau hyn:
- Mewngofnoda i dy gyfrif Helo Blod a Fi (neu beth am greu un os wyt ti’n newydd i hyn i gyd?).
- Clicia ar y tab 'Deunyddiau'.
- Dewisa 'Archeb newydd' a dilyna’r cyfarwyddiadau.
Dyna ni – gad y cyfan gyda ni, ac fe wnawn ni baratoi popeth ar dy ran.
Nodyn pwysig i sefydliadau'r sector cyhoeddus a lleoliadau addysgol
Os wyt ti'n archebu ar ran sefydliad y sector cyhoeddus neu leoliad addysgol:
- Rwyt ti’n gallu archebu laniardiau a bathodynnau ‘Cymraeg’ o wefan Comisiynydd y Gymraeg
- Mae laniardiau a bathodynnau ‘Dw i’n dysgu Cymraeg’ ar gael o wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Cofrestra nawr
Newydd i Helo Blod? Bydd angen cofrestru gyda Sign On Cymru (SOC). Mae'n hawdd ac yn gyflym. Ac wedi i ti gofrestru, dyna ni ‒ ti a Helo Blod, ffrindiau am byth.