Helo Blod

Siop Coffi

Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim!

Heb sgwennu yn Gymraeg am sbel? Dim ots! Mae Helo Blod yma i helpu. Beth am roi cynnig ar ddrafftio rhywbeth dy hun? Fe wnaiff Helo Blod wirio'r cwbl i ti, jyst picia draw i'r tab nesaf (Gwirio Testun)

Fel arall, gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg, bob mis, am ddim i dy fusnes.

Mae'n hawdd ‒ picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi, mewn â ti, rho'r testun Saesneg i'w gyfieithu i mewn, ac fe wnaiff Helo Blod y gwaith caled i ti. A dyna ni!

Bydd dy gyfieithiad yn cael ei ddychwelyd cyn pen 4 diwrnod gwaith, neu 1 diwrnod gwaith am 5 gair neu lai

Gall Helo Blod dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg gyda hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun bob mis.

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. 

 

Beth am roi cynnig ar ddrafftio rhywbeth yn Gymraeg dy hun. Gall Helo Blod helpu i fagu dy hyder wrth ysgrifennu. Paid â phoeni am gamgymeriadau ‒ mae Helo Blod yma i wirio pob testun, nid i farnu! 

Bydd Helo Blod yn tacluso, ac yn rhoi adborth ac awgrymiadau i ti o fewn 4 diwrnod gwaith. Mae Helo Blod yn gallu gwirio 1,000 o eiriau bob blwyddyn am ddim, felly byddi di'n hyderus bod y deunydd rwyt ti'n ei ddefnyddio yn Gymraeg yn gywir.

Gall Helo Blod dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg gyda hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun bob mis.

Jyst i ti wybod, os byddi di'n cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg y testun, bydd y Saesneg yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfeirio yn unig a fyddwn ni ddim yn ei gwirio. Os nad ydy'r fersiwn Saesneg yn cael ei ddarparu, all Helo Blod ddim bod yn gyfrifol am unrhyw anghysondebau o ran tôn neu ystyr. Picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi isod i ddechrau arni!

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. 

Mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i helpu ti i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes - hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun fesul mis calendr.

Gallai hyn fod yn rhywbeth mor syml ag archebu laniard a/neu fathodyn Iaith Gwaith i nodi bod staff neu wirfoddolwyr yn siarad neu'n dysgu Cymraeg, clicia ar Mae gen i gwestiwn/ymholiad ar ôl gwneud cais newydd i archebu.

Ac os oes angen unrhyw beth ychwanegol arall, fe wnaeth Helo Blod gyfeirio di at rywun fydd yn gallu helpu. Picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi i ddechrau arni!

Oes gen ti gwestiwn am Helo Blod?  Falle bod yr ateb yn ein cwestiynau cyffredin (FAQs)

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell.

Mae Helo Blod am helpu pawb, ond mae yna gyfyngiadau ar beth rydym yn gallu ei wneud.

  1. Mae'r telerau ac amodau hyn yn ychwanegol at delerau ac amodau Busnes Cymru. Gallwch ddod o hyd i'r rheini gan ddefnyddio'r ddolen ar waelod y dudalen hon.
  2. Mewn perthynas â gwasanaeth Helo Blod, mae'r telerau ac amodau hyn yn drech nag unrhyw beth sy'n mynd yn groes iddynt yn nhelerau ac amodau Busnes Cymru.
  3. Mae Helo Blod yn cadw'r hawl i wrthod darparu unrhyw wasanaeth i sefydliadau neu unigolion:

    (a) y gallai eu gweithgareddau, yn ein barn ni yn unig, ddwyn anfri ar Lywodraeth Cymru neu ei pholisïau, gan gynnwys gweithgareddau sy'n ymwneud â'r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

       (i) dibenion pleidiol wleidyddol neu lobïo,

       (ii) hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol,

       (iii) gamblo,

       (iv) pornograffi neu weithgareddau o natur rywiol,

       (v) hyrwyddo neu gynnal gweithgareddau anghyfreithlon, dadleuol, gwahaniaethol neu amheus

    (b) y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth ar y Gymraeg (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Safonau'r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 neu gynlluniau iaith o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, fel y caniateir eu diwygio neu eu hailddeddfu o bryd i'w gilydd);

    (c) sydd, yn ein barn ni yn unig, wedi manteisio yn fasnachol ar y gwasanaeth yn y gorffennol neu a allai wneud hynny yn y dyfodol, neu a allai gamliwio'r gwaith fel eu gwaith eu hunain;

    (d) sydd wedi cael cyllid grant a ddarparwyd at ddiben uniongyrchol neu ategol talu costau cyfieithu, neu

    (e) am unrhyw reswm arall yn ôl ein disgresiwn.

  4. Yn ogystal, ni all Helo Blod brosesu:

    (a) gwybodaeth sy'n fasnachol sensitif neu'n gyfrinachol,

    (b) ceisiadau am gymorth ag aseiniadau gwaith cartref neu waith academaidd,

    (c) ceisiadau i gyfieithu erthyglau golygyddol neu erthyglau barn pan fo'r cynnwys yn ymdrin ag unrhyw bynciau a nodir yng nghymal 3(a) uchod,

    (d) ceisiadau i gyfieithu gwaith creadigol megis nofelau, llyfrau, barddoniaeth neu eiriau caneuon oherwydd risgiau torri hawlfraint,

    (e) ceisiadau i gyfieithu gwybodaeth sydd i'w defnyddio fel rhan o gais am swydd neu gyfweliad swydd, nac

    (f) unrhyw gynnwys sy'n ymwneud â meysydd polisi Llywodraeth Cymru sy'n cael eu datblygu neu y gellir eu cyhoeddi.

  5.  Os byddwn yn gwrthod eich cais, gallwn wneud hynny heb roi rhesymau.
  6. Rydym yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddarparu cyfieithiadau cywir, ond ni allwn dderbyn unrhyw atebolrwydd am wallau neu hepgoriadau sut bynnag y'u hachoswyd, a thrwy gyflwyno cais i Helo Blod rydych yn cytuno i dderbyn y risg hon.
  7. Dylech wybod efallai y byddwn yn defnyddio trydydd partïon i ddarparu gwasanaeth Helo Blod. Nid ydym yn derbyn unrhyw rwymedigaeth o ran cyfrinachedd na phreifatrwydd mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd rydych chi'n ei gyflwyno i'w gyfieithu na'ch defnydd o'r gwasanaeth.
  8. Ni fyddwn o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw gost, colled na difrod gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac unrhyw gost, colled na difrod o unrhyw fath sy'n deillio o ddefnyddio data neu fethu defnyddio data, neu golli elw, sy'n deillio o ddefnyddio gwasanaeth Helo Blod neu mewn cysylltiad â'i ddefnyddio, nac o ddibynnu ar gynnwys y gwasanaeth.
  9. Os byddwn yn credu y bydd yn cymryd mwy na 5 diwrnod i gwblhau'r gwaith, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi. Peidiwch â chyflwyno ceisiadau dyblyg.
  10. Ein nod yw rhoi eich cyfieithiad/gwiriad testun i chi o fewn pum diwrnod gwaith o gael eich cais, ond dylech nodi y gall yr amserlen hon amrywio ar adegau pan fydd alw mawr ar y gwasanaeth, os bydd gwyliau cyhoeddus neu'n dibynnu ar argaeledd cyffredinol y gwasanaeth.
  11. I gael gwybodaeth am ba ddata personol rydym yn eu casglu a sut rydym yn eu prosesu, gweler hysbysiad preifatrwydd Helo Blod sydd ar gael yma: Hysbysiad Preifatrwydd Helo Blod | Helo Blod
  12. Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ond gall gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. Nid oes dim yn y telerau hyn nac ar wefan Helo Blod sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru barhau i ddarparu gwasanaeth Helo Blod.