Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar 29 Medi 2026. Bydd y newidiadau sy'n ymwneud â GOV.UK One Login yn dod i rym pan fydd Helo Blod yn symud i GOV.UK One Login.
Cymerwch eiliad i ymgyfarwyddo â'n harferion preifatrwydd a nodwch pam rydyn ni’n casglu ac yn prosesu'r data a gesglir.
1. Diben prosesu
Mae gan Helo Blod ddau brif nod:
- Darparu cyfieithiadau byr o’r Saesneg i’r Gymraeg a gwasanaethau gwirio testun i fusnesau, elusennau ac unigolion.
- Darparu gwasanaeth cyfeirio a gwybodaeth ar faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg er mwyn hwyluso’r defnydd o’r iaith.
2. Pa ddata ydym yn ei gasglu?
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolwr Data ar gyfer unrhyw ddata personol a gesglir. Mae angen eich data personol arnom, gan gynnwys manylion cyswllt, i greu cyfrif ar ein system TG. Mae’r wybodaeth a'r cyfrif hwn yn ein galluogi i gyfathrebu â chi ac i ddarparu'r cymorth mwyaf priodol ar gyfer eich ymholiad.
Mae prosesu data personol yn angenrheidiol at y dibenion a amlinellir uchod, a gyflawnir yn unol â'n hawdurdod swyddogol i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg – fel y nodir yn nogfen Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Ceisiadau cyfieithu
Mae dogfennau a gyflwynir ar gyfer ein gwasanaeth cyfieithu yn cael eu cofnodi ar eich cyfrif, sy’n cael ei gadw ar ein system TG. Anfonir y dogfennau hyn y tu allan i Lywodraeth Cymru (heb wneud unrhyw newidiadau) at ein contractwr cyfieithu allanol drwy Phrase. System rheoli cyfieithu yw Phrase sy'n cynorthwyo ein cyfieithwyr cymwys. Mae'r testun/brawddeg/geiriau yn y dogfennau yn cael eu storio gan Phrase mewn canolfannau data yn yr Almaen ac Iwerddon ac mi allan nhw gael eu prosesu gan is-broseswyr cymeradwy Phrase sydd wedi'u lleoli yn yr AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd), y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau i gefnogi gweithgareddau cyfieithu. Unwaith y bydd y cyfieithiad wedi'i gwblhau, caiff ei ddychwelyd i'n system TG.
Ceisiadau Gwirio Testun
Mae dogfennau a gyflwynir ar gyfer ein gwasanaeth gwirio testun yn cael eu cofnodi ar eich cyfrif, sy’n cael ei gadw ar ein system TG. Bydd ein contractwyr cyfieithu allanol, sydd â mynediad cyfyngedig i'n system TG, yn cael mynediad at y dogfennau hyn. Bydd gan y cyfieithwyr fynediad llawn at y ddogfen a gyflwynir i'w gwirio. Fodd bynnag, fydd ganddyn nhw ddim mynediad o gwbl at y data personol sydd wedi'u storio ar eich cyfrif ar ein system TG.
Fyddwn ni ddim yn gallu darparu unrhyw wasanaeth i sefydliadau y gellid yn rhesymol ystyried bod eu gweithgareddau'n dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru.
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n cynnwys unrhyw wybodaeth fel gwybodaeth sy'n Fasnachol Sensitif, data personol neu ddata personol categori arbennig gan na fydd y dogfennau'n cael eu diwygio cyn eu hanfon at ein cyfieithwyr allanol. Mae rhestr lawn o'n Telerau ac Amodau ar gael ar wefan Helo Blod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Helo Blod ar 03000 25 8888.
3. Pwy fydd yn cael gweld eich data?
Dim ond lle mae'n angenrheidiol i rywun gyflawni ei rôl neu ddarparu gwasanaethau sy'n cefnogi Helo Blod yr ydyn ni’n caniatáu mynediad i'ch data personol.
Bydd y canlynol yn gallu cael mynediad at eich data:
- Staff Llywodraeth Cymru sy'n gweinyddu ac yn cefnogi gwasanaeth Helo Blod, gan gynnwys timau gwasanaeth cymorth a gweinyddwyr technegol system lle bo angen hyn i gynnal a chefnogi’r system TG. Dim ond lle bo angen i gynnal a chefnogi’r system y bydd gweinyddwyr technegol y system yn cyrchu eich data a fyddan nhw ddim yn defnyddio’r data at unrhyw ddiben arall.
- Phrase (ein system rheoli cyfieithu) a'n contractwyr cyfieithu allanol, ond dim ond er mwyn prosesu'r data, testun, y brawddegau neu'r geiriau sydd wedi'u cynnwys yn y ceisiadau cyfieithu neu wirio testun a gyflwynwch. Does ganddyn nhw ddim mynediad i'ch cyfrif Helo Blod na gwybodaeth arall a gedwir o fewn y gwasanaeth GOV.UK One Login, sy’n cael ei ddefnyddio i reoli eich manylion diogelwch yn ddiogel a'ch galluogi i fewngofnodi i'r gwasanaeth. Gweler Hysbysiad Preifatrwydd GOV.UK One Login. Defnyddir yr wybodaeth a brosesir gan GOV.UK One Login i:
- ddilysu sesiynau ar-lein
- rhannu gwybodaeth ag asiantaethau atal twyll i helpu i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio eich hunaniaeth.
4. Am ba hyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich cyfieithiad?
Rydyn ni’n defnyddio technoleg cyfieithu i gynorthwyo ein contractwyr cyfieithu dynol, cymwys. Gall cynnwys eich cyfieithiad gael ei gadw ar Phrase (neu unrhyw gofau cyfieithu y mae ein cyfieithwyr yn dewis eu defnyddio yn y dyfodol), Google Translate, Microsoft Translator a TermCymru am gyfnod amhenodol (*gweler y cyfeiriadau yn y tabl ar waelod y dudalen hon). Bydd hyn yn gwella cyfieithiadau yn y dyfodol, yn cyfrannu at gynyddu faint o Gymraeg sydd ar gael yn y dirwedd ieithyddol, a thrwy hynny bydd yn gweithio tuag at gyflawni nodau, Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru
5. Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd manylion eich cyfrif yn cael eu cadw'n ddiogel ar ein systemau am 3 blynedd o'r tro olaf y defnyddiwyd y cyfrif. Mae angen y wybodaeth a gasglwn i fesur llwyddiant y gwasanaeth, at ddibenion adroddiadau ac fel rhan o'n hyfforddiant parhaus a'n hadolygiadau ansawdd.
Bydd galwadau i'n rhif ffôn, 0300 025 8888, yn cael eu recordio at ddibenion diogelwch. Bydd recordiadau’n cael eu cadw am 30 diwrnod.
6. Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:
- gyrchu’r data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi;
- gofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data;
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau);
- gofyn i’ch data gael eu 'dileu' (o dan rai amgylchiadau);
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
Am help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, cysylltwch â ni ar 0300 025 8888 neu defnyddiwch ein ffurflen Cysylltu â Ni.
7. Deddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Manylion
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i'r cyhoedd ofyn am weld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth a roddwch i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.
8. Newidiadau i'r polisi hwn
Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw amser. Bydd newidiadau'n cael eu postio yma ac yn cael eu gweithredu ar unwaith. Pan fydd newidiadau'n digwydd i'r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost sydd wedi'i gofnodi yn eich cyfrif er mwyn i chi adolygu’r fersiwn newydd.
Am ragor o wybodaeth am eich hawliau ynghylch gwybodaeth
Cyfeiriad post:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales
| System | Disgrifiad |
|---|---|
| Phrase | System rheoli cyfieithu yn y cwmwl sy'n cynnwys cof cyfieithu, rheoli terminoleg, sicrhau ansawdd a chyfieithu peirianyddol integredig. |
| Google Translate | Gwasanaeth cyfieithu peirianyddol a ddatblygwyd gan Google. |
| Microsoft Translate | Gwasanaeth cyfieithu peirianyddol a ddarperir gan Microsoft. |
| TermCymru | Cronfa ddata ar-lein o dermau a ddefnyddir gan gyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn eu gwaith bob dydd sydd ar gael ar-lein i'w defnyddio gan y cyhoedd. |