Cwestiynau Cyffredin
Oes gen ti gwestiwn am Helo Blod? Falle bod yr ateb isod yn ein cwestiynau cyffredin...
Ry’n ni’n gweithio yn ôl mis calendr – felly, o ddiwrnod cyntaf pob mis, cei di ddechrau defnyddio'r 500 gair newydd ar gyfer y mis hwnnw.
Wrth gwrs, mae’n bosibl rhannu dy gyfieithiadau dros y mis, ond cofia wirio nad wyt ti’n mynd dros dy 500 gair. Gallwn dderbyn hyd at ddeg cais y mis.
Yn anffodus, chei di ddim talu Helo Blod i gyfieithu mwy na 500 gair y mis. Ond, gallwn dy gyfeirio di at gyfieithwyr annibynnol drwy Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Oes, ry’n ni’n cyfeirio pawb at Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mi wnawn ni'n gorau, ond allwn ni ddim addo gwneud. Fel rheol, ry’n ni’n gwneud ein gorau i ddychwelyd gwaith o fewn 4 diwrnod gwaith:
- Cyfieithu byr (1–5 gair) — 1 diwrnod gwaith
- Cyfieithu hirach (6–500 gair) — 4 diwrnod gwaith
- Gwirio testun — 4 diwrnod gwaith
Cysyllta gyda ni ac mi wnawn ni’n gorau i dy helpu. Mae pob cais yn bwysig inni, felly ni allwn roi blaenoriaeth i unrhyw unigolyn.
Os wyt ti angen cyfieithiad ar frys, cysyllta gyda chyfieithydd annibynnol drwy Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Na, ond mae digon o bobl sy’n gallu helpu – cer i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Na, ond mae digon o bobl sy’n gallu helpu – cer i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae modd dewis ‘Barddoniaeth’ fel opsiwn yn y gwymplen ‘Maes gwaith’
Na, ond mae digon o bobl sy’n gallu helpu – cer i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Dim problem, ond bydd angen dilyn ambell gam ychwanegol. Cysyllta â ni (03000 25 88 88) i gael canllaw defnyddiol a / neu gallwn ni egluro popeth dros y ffôn.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
Mae'n dibynnu ar gynnwys y ffeil. Os mae’n bosibl dewis y testun a'i symud i ffeil Word neu .txt, yna gallwn ni helpu. Ond, allwn ni ddim cyfieithu testun sydd mewn lluniau.
Ddim yn siŵr am gynnwys dy ffeil? Cysyllta â ni (03000 25 88 88) a mi wnawn ni ddatrys y mater gyda'n gilydd.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg
O na! Ffonia ni ar 03000 25 88 88 er mwyn i ni dy helpu di.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg
Na. Mae 500 gair o gyfieithu ar gael i bob busnes / elusen / sefydliad mewn mis. Mae angen i chi gytuno ar y 500 gair i'w hanfon atom bob mis.
Siwr iawn! Ond cofia, dim ond 500 gair y gallwn ni’i gyfieithu i'r busnes / elusen / sefydliad bob mis.
Mae pob cyfrif 'Helo Blod a Fi' yn gwbl breifat, hyd yn oed os ydyn nhw’n gysylltiedig â'r un busnes. Does dim modd i ni rannu gwybodaeth am gyfrif rhywun gyda neb arall.
Na, ond mae digon o bobl sy’n gallu helpu – cer i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae modd dewis ‘Cerddoriaeth – caneuon’ fel opsiwn yn y gwymplen ‘Maes gwaith’.
Na. I archebu’r nwyddau hyn picia draw i wefan Comisiynydd y Gymraeg, ac i archebu nwyddau penodol ar gyfer dysgwyr cysyllta â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Yn gyntaf fe fydd angen i ti mewngofnodi i dy gyfrif drwy wefan Sign On Cymru. Yna bydd angen clicio ar y tab ‘Fy nghyfrif’, a diweddaru dy fanylion fel yn briodol.
Na. I’n galluogi i wirio cymhwysedd pob cais yn erbyn ein telerau ac amodau, a monitro defnydd pob cwsmer o’n gwasanaeth, dim ond y sefydliad a fydd yn y pen draw yn defnyddio’r testun a ddylai cyflwyno ceisiadau cyfieithu/gwirio testun i Helo Blod.