Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Helo Blod

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wybodaeth ar wefan Helo Blod a rhannau cymorth busnes arbenigol cysylltiedig o’r wefan. Mae Helo Blod yn un o wasanaethau arbenigol gwefan Busnes Cymru.  

Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ar wefan Busnes Cymru ei dudalen hygyrchedd ei hun. Mae'n amlinellu pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch gyrchu'r tudalennau hyn o'r troedyn y tu mewn i dudalennau gwe'r gwasanaeth unigol. 

 

Defnyddio’r wefan hon 

Helo Blod sy'n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu: 

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau 

  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin 

  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig 

  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais 

  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver) 

Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml a chlir â phosibl i’w ddeall. 

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd. 

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon 

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  • nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir 

  • nid yw rhai hyperddolenni’n ail-lifo’n uwch na 300% 

  • nid oes penawdau ar gyfer rhesi mewn rhai tablau 

  • nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson 

  • nid yw teitlau rhai tudalennau’n unigryw 

  • nid yw labeli rhai ffurflenni’n unigryw  

  • nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau 

  • nid yw testun rhai dolenni’n disgrifio diben y ddolen 

  • mae llawer o ddogfennau mewn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch 

Busnes Cymru 

Mae Helo Blod yn rhan o wefan Busnes Cymru. Mae gan Busnes Cymru ei ddatganiad hygyrchedd ei hun.  

 

Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol 

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddeall neu recordiad sain: 

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • gyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen 

  • eich cyfeiriad e-bost a’ch enw 

  • y fformat yr hoffech ei dderbyn – er enghraifft, testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu gryno ddisg sain 

  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio 

Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o'i dudalen. Dewiswch 'Gwneud cais am fformat hygyrch' i gysylltu â'r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen. 

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

Adborth a gwybodaeth gyswllt 

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy un o'r ffyrdd isod:  

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • gyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd 

  • pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Gweithdrefn orfodi 

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni 

Mae Ofcom yn mynnu bod pob cwmni ffôn sefydlog a ffôn symudol yn darparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid ag anableddau. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth trosglwyddo testun o'ch dewis i gysylltu â Helo Blod. 

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu cyfieithydd ar y pryd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Cysylltwch â ni trwy un o'r ffyrdd isod:  

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • pwy ydych chi 

  • sut y gallwn ni eich helpu? 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon 

Mae Helo Blod wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

 

Statws cydymffurfedd 

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod. 

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch 

Nid oes unrhyw gynnwys anhygyrch hysbys ar Helo Blod. Os ydych chi'n credu bod rhywfaint o'n cynnwys yn anhygyrch, cysylltwch â ni trwy un o'r ffyrdd isod:  

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • gyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd 

  • pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd 

Nid yw'r technolegau a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd 

Meini prawf llwyddiant wedi methu: WCAG 2.1 A 1.4.12 (Bylchau yng nghanol Testun) 

  • Mater: Ni all defnyddwyr newid bylchau yng nghanol testun nac uchder llinell, sy'n hanfodol i'r rhai ag amhariad ar y golwg sydd angen fformatio testun wedi'i deilwra er mwyn ei ddarllen. 

Offer a thrafodion rhyngweithiol 

Nid oes unrhyw offer a thrafodion rhyngweithiol anhygyrch hysbys ar Helo Blod. Os ydych chi'n credu bod rhai o'n hoffer a thrafodion rhyngweithiol yn anhygyrch, cysylltwch â ni trwy un o'r ffyrdd isod:  

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • gyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd 

  • pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

PDFs a dogfennau eraill 

Dylai dogfennau newydd a gyhoeddwn i gael mynediad at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch. 

Fodd bynnag, gwyddom nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt: 

  • heb eu marcio mewn ffordd sy'n galluogi defnyddwyr rhaglen darllen sgrin i'w deall 

  • heb gael eu tagio’n gywir, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys y penawdau cywir 

  • heb eu hysgrifennu mewn Saesneg clir 

Mae rhai o’r rhain yn ddogfennau hanesyddol ac nid ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi'u heithrio o'r rheoliadau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i'w gwneud yn hygyrch. 

Os oes angen i chi gael mynediad at wybodaeth yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni trwy un o'r ffyrdd isod a gofynnwch am fformat arall. 

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • gyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen 

  • y fformat yr hoffech ei dderbyn 

  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd 

 
Yn dilyn yr archwiliad a gynhaliwyd gan S8080 ym mis Ionawr 2022, mae Helo Blod yn cywiro cynnwys ar frys sy'n methu â chyrraedd safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA. 

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ar 4 Ionawr 2024 i gymryd lle'r datganiad hygyrchedd blaenorol. Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar ddyddiad 4 Ionawr 2024. 

Sut y gwnaethom brofi'r wefan 

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 15 Ionawr 2022. Cynhaliwyd y prawf gan S8080. 

Ar 15 Ionawr 2022, defnyddiodd S8080 SortSite Desktop i sganio dros 8775 o'n tudalennau i weld a oeddent yn cydymffurfio â lefel A ac AA o'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe Fersiwn 2.1. Roedd y sgan yn cynnwys cyfuniad o dudalennau craidd, templedi a ddefnyddir yn gyffredin a thempledi cymhleth. 

Fe wnaethon ni brofi ein prif lwyfan gwefan, sydd ar gael yn  

https://busnescymru.llyw.cymru/heloblod/