Croeso i'n gwefan newydd! Mae'n bosib y bydd angen i ddefnyddwyr gwblhau ambell gam cofrestru eto ar ôl mewngofnodi am y tro cyntaf. Diolch am dy amynedd wrth i ni roi trefn ar bethau.

Gwasanaethau


Cyfieithu am ddim

Heb sgwennu yn Gymraeg am sbel? Dim ots! Mae Helo Blod yma i helpu. Beth am roi cynnig ar ddrafftio rhywbeth dy hun? Fe wnaiff Helo Blod wirio'r cwbl i ti, jyst picia lawr i'r adran nesaf (Gwirio Testun). Fel arall, gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg, bob mis, am ddim i dy fusnes. Mae'n hawdd ‒ picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi, mewn â ti, rho'r testun Saesneg i'w gyfieithu i mewn, ac fe wnaiff Helo Blod y gwaith caled i ti. A dyna ni! Bydd dy gyfieithiad yn cael ei ddychwelyd cyn pen 4 diwrnod gwaith, neu 1 diwrnod gwaith am 5 gair neu lai! Gall Helo Blod dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg gyda hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun bob mis.

Picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi i ddechrau arni!


Ga i dalu Helo Blod i gyfieithu dros 500 gair y mis? 

Yn anffodus, chei di ddim talu Helo Blod i gyfieithu mwy na 500 gair y mis. Ond, gallwn dy gyfeirio di at gyfieithwyr annibynnol drwy Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.


Gwirio Testun

Beth am roi cynnig ar ddrafftio rhywbeth yn Gymraeg dy hun. Gall Helo Blod helpu i fagu dy hyder wrth ysgrifennu. Paid â phoeni am gamgymeriadau ‒ mae Helo Blod yma i wirio, nid i farnu! Bydd Helo Blod yn tacluso, ac yn rhoi adborth ac awgrymiadau i ti o fewn 4 diwrnod gwaith. Mae Helo Blod yn gallu gwirio 1,000 o eiriau bob blwyddyn am ddim, felly byddi di'n hyderus bod y deunydd rwyt ti'n ei ddefnyddio yn Gymraeg yn gywir. Gall Helo Blod dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg gyda hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun bob mis. Jyst i ti wybod, os byddi di'n cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg y testun, bydd y Saesneg yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfeirio yn unig a fyddwn ni ddim yn ei gwirio. Os nad ydy'r fersiwn Saesneg yn cael ei ddarparu, all Helo Blod ddim bod yn gyfrifol am unrhyw anghysondebau o ran tôn neu ystyr. Picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi isod i ddechrau arni!

Gwasanaethau Eraill

Mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i helpu ti i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes - hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun fesul mis calendr. Gallai hyn fod yn beth mor syml ag archebu laniard a/neu fathodyn Iaith Gwaith i nodi bod staff neu wirfoddolwyr yn siarad neu'n dysgu Cymraeg. Ac os oes angen unrhyw beth ychwanegol arall, fe wnaeth Helo Blod gyfeirio di at rywun fydd yn gallu helpu. 

Telerau ac amodau

Mae Helo Blod am helpu pawb, ond mae yna gyfyngiadau ar beth rydym yn gallu ei wneud. Cer draw i'n Telerau ac amodau i ddysgu mwy.

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell.

Cofrestra nawr

Newydd i Helo Blod? Bydd angen cofrestru gyda Sign On Cymru (SOC). Mae'n hawdd ac yn gyflym. Ac wedi i ti gofrestru, dyna ni ‒ ti a Helo Blod, ffrindiau am byth.


Llinell gymorth Helo Blod

03000 25 88 88

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.