Cynnwys
Ategion Cymraeg WordPress
Hoffet ti ddefnyddio mwy o Gymraeg ar-lein? Dyma restr o ychwanegion Wordpress yn Gymraeg.
Bysellfwrdd SwiftKey
Bysellfwrdd darogan neu ‘predictive’ sy’n dysgu ac yn addasu i’r ffordd rwyt ti’n ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.
Fideos ‘sut i’ technoleg
Wyt ti eisiau gosod rhyngwyneb Cymraeg ar dy gyfrifiadur ond ddim yn gwybod lle i ddechrau? Gwylia’r fideos yma sy’n hawdd i’w dilyn ac yn dangos i ti yn union sut i fynd ati.
Hir-iaith
Estyniad i'r porwr Chrome sy'n uwcholeuo geiriau Cymraeg fel y gelli di eu deall yn haws os wyt ti'n dysgu Cymraeg.
Linguaskin
Wyt ti neu dy gwmni’n cynnig gwasanaeth yn Saesneg yn unig? Efallai gall Linguaskin dy helpu i’w gynnig yn Gymraeg hefyd.
LibreOffice
Mae’r casgliad yma o raglenni swyddfa yn rhad ac am ddim ond beth sy’n well byth yw eu bod ar gael yn Gymraeg!
Mapio Cymru
Diolch i’r map rhyngweithiol Cymraeg yma, fyddi di byth yn teimlo ar goll eto! Mae enwau’r lleoedd i gyd yn ymddangos yn Gymraeg a gelli di osod y map ar dy wefannau hefyd.
Microsoft 365
Wyt ti’n defnyddio Microsoft 365? Mae’r rhyngwyneb Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim.
QR Cymraeg
Ymgysylltu'n well â'ch cynulleidfa ddwyieithog a deall gyda chodau QR unigryw Cymraeg/Saesneg. Trin Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o'r dechrau a gweld ystadegau byw ar ddewisiadau iaith eich cynulleidfa.
Vocab
Wedi dod ar draws gair anghyfarwydd wrth ddarllen tudalen gwe Gymraeg? Symuda’r llygoden dros y gair a bydd Vocab yn dangos y cyfieithiad i ti.
Adnoddau Digidol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol
Ydych chi'n dysgu Cymraeg? Dyma adnoddau Dysgu Cymraeg y Ganolfan.
Aliniwr Cymraeg - Saesneg Prifysgol Bangor
Dyma adnodd ar gyfer y cyfieithwyr yn ein plith; rhaglen sy’n caniatáu alinio rhwng testunau Cymraeg a Saesneg ar lefel y frawddeg. Cofia dy gofion cyfieithu a phortha DMX gyda’r teclyn defnyddiol ‘ma.
Anthropic Claude
Peiriant AI cynhyrchiol arall sy'n dechrau prosesu'r Gymraeg.
Ategion Cymraeg WordPress
Gelli di gyfeirio at restr ddefnyddiol Hedyn i ganfod pa ategion a themâu WordPress sydd ar gael yn Gymraeg.
Byd Term Cymru
Cronfa dermau, canllawiau arddull a phob math o adnoddau defnyddiol eraill i helpu gyda chyfieithu a chreu cynnwys gwreiddiol yn Gymraeg.
Canllawiau cyfieithu ar y pryd ar Teams
Dyma ganllawiau pdf a fideo ar sut i drefnu a defnyddio cyfieithu ar y pryd yn Teams.
ChatGPT OpenAI
Eisiau defnyddio AI sy'n defnyddio'n data agored Cymraeg ni? Dyma beiriant AI cynhyrchiol sydd wrthi'n datblygu ei allu i brosesu'r Gymraeg.
Cian
Mae Cian yn wasanaeth e-bost adolygu-yn-gyntaf i sefydliadau yng Nghymru. Mae'n ateb yn Gymraeg gan ddefnyddio gwybodaeth am eich sefydliad, ac yn dangos cyfieithiad Saesneg i staff i'w adolygu cyn anfon.
Copilot
Copilot yw cynorthwyydd AI Microsoft ac mae wrthi'n dysgu Cymraeg.
Cyfieithydd peirianyddol parth penodol
Os wyt ti'n gyfieithydd sy'n gweithio ar feysydd Iechyd a Gofal neu Ddeddfwriaeth, tria'r peirianau penodol yma.
Cysgliad
Wrthi’n dysgu neu wella dy Gymraeg? Ydy dy blant mewn addysg Gymraeg? Wyt ti’n eu helpu gyda’u gwaith cartref? Neu jyst chwilio am dawelwch meddwl bod pob t, c, p, wedi mynd yn d, g, b, yn y llefydd iawn? Gall Cysgliad helpu.
Mae trwydded am ddim i Cysgliad ar gyfer unigolion, ysgolion a phawb sy’n cyflogi 10 o bobl neu lai ar gael gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
- Cysill - Paid â phoeni am gamgymeriadau, gad i Cysill gywiro unrhyw wallau iaith a helpu gyda’r treigladau!
- Cysgeir - Methu’n deg â chofio beth yw’r gair Cymraeg ar gyfer “computer”? Ydy'r gair yn wrywaidd neu yn fenywaidd? Chwilia trwy Cysgeir am yr ateb.
Enwau lleoedd safonol Cymru - Comisiynydd y Gymraeg
Rhestr Comisiynydd y Gymraeg o enwau lleoedd Cymraeg.
Fideos ‘sut i’ technoleg
Wyt ti eisiau defnyddio acenion Cymraeg wrth deipio ond ddim yn gwybod lle i ddechrau? Gwylia’r fideos yma sy’n hawdd i’w dilyn ac yn dangos i ti yn union sut i fynd ati.
Google Gemini
Gemini yw cynorthwyydd AI Google ac mae'n dysgu Cymraeg.
Linguaskin
Wyt ti neu dy gwmni’n cynnig gwasanaeth yn Saesneg yn unig? Efallai gall Linguaskin dy helpu i’w gynnig yn Gymraeg.
Nodiadau.com
Cynorthwyydd dwyieithog ar gyfer cyfarfodydd, nodiadau a chamau dilynol. Trowch sgyrsiau yn grynodebau, camau gweithredu a nodiadau caboledig - yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Porth Termau Cenedlaethol Cymru
Man gwych i chwilio am derminoleg Cymraeg sy’n ymwneud â sectorau penodol fel addysg, gofal cymdeithasol, natur a llawer mwy.
QR Cymraeg
Ymgysylltu'n well â'ch cynulleidfa ddwyieithog a deall gyda chodau QR unigryw Cymraeg/Saesneg. Trin Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o'r dechrau a gweld ystadegau byw ar ddewisiadau iaith eich cynulleidfa.
Rhestr termau technolegol Cymraeg a chanllaw arddull Microsoft
Beth yw ‘cancel’ yn Gymraeg? ‘Diddymu? Canslo? Dileu?’ Mae defnyddio’r termau cywir yn gyson yn bwysig wrth leoleiddio meddalwedd. Gosoda’r iaith i ‘Welsh’ a bant â thi! Oh, ac mae canllaw arddull manwl hefyd sy’n helpu cyfieithwyr a lleoleiddwyr pob rhaglen.
Soniox
Mae Soniox yn blatfform AI llais sy'n gallu trawsgrifio sgyrsiau amlieithog, gan gynnwys yn Gymraeg a Saesneg.
TestynRhydd
Darganfod. Dadansoddi. Delweddu. Datgelwch agweddau newydd o ddata eich testun gyda TestynRhydd.
Tiwtiadur
Os wyt ti'n dysgu Cymraeg i eraill, neu jest yn dysgu Cymraeg, bydd hwn yn lle handi iti.
Tô Bach
Mae Tô Bach yn adnodd Windows, rhad ac am ddim, sy'n galluogi i chi ddefnyddio acenion a symbolau Cymraeg yn hawdd.
Trawsgrifiwr
Chwilio am ap sy’n teipio wrth i ti siarad Cymraeg? Mae’r trawsgrifiwr arbrofol yma yn gweithio ar Windows ac mae’n teipio’r hyn rwyt ti’n ei ddweud ar y sgrin.
TurboScribe
Mae TurboScribe yn wasanaeth trawsgrifio AI sy'n darparu trawsgrifio sain a fideo. Mae TurboScribe yn trosi ffeiliau sain a fideo i destun mewn 98+ o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg.
WordPress
Cofia bod modd i ti ddefnyddio WordPress yn Gymraeg wrth i ti fynd ati i ddatblygu gwefan neu flog. //Gelli di hefyd gyfeirio at restr ddefnyddiol Hedyn i ganfod pa ategion a themâu WordPress sydd ar gael yn Gymraeg
Ysgrifennu Triawd
System newydd o greu cynnwys dwyieithog heb ddibynnu ar gyfieithu yn unig.
Bysellfwrdd SwiftKey
Bysellfwrdd darogan neu ‘predictive’ sy’n dysgu ac yn addasu i’r ffordd rwyt ti’n ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.
Codio Cymru
Wyt ti erioed wedi meddwl beth yw’r busnes codio mae pawb yn ei drafod y dyddiau yma? Cer draw i Codio Cymru i ddysgu mwy amdano yn Gymraeg.
Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru
Mae byd technoleg yn symud yn sydyn – dyma gynllun o 2018 i sicrhau bod y Gymraeg yn symud ymlaen ym myd technoleg.
Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru: adroddiad cynnydd 2020
Wedi darllen y Cynllun Gweithredu ac eisiau gwybod beth ry’n ni wedi’i gyflawni hyd yma? Dyma’r ddogfen i ti: dwy flynedd gyntaf ein gwaith.
Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg: adroddiad terfynol 2018 i 2024
Gwaith Llywodraeth Cymru rhwng 2018 a 2024 er mwyn helpu datblygu seilwaith technoleg iaith Cymraeg.
DarllenCo.
Oes gen ti blentyn ifanc yn yr ysgol? Gyda'r wefan hon, gelli di fwynhau darllen straeon lliwgar Cymraeg gyda nhw.
Digigrid
Archwilio, dadansoddi, dysgu a thesawrws yn y Gymraeg - mewn un gwefan handi.
Hedyn
Hoffet ti ragor o gynnwys Cymraeg ar dy ffôn? Cer drwy’r rhestr yma o apiau iOS ac Android, sydd un ai yn Gymraeg neu’n cynnwys elfen o Gymraeg, a mater bach o lawrlwytho’r apiau yw hi wedyn.
Mapio Cymru
Diolch i’r map rhyngweithiol Cymraeg yma, fyddi di byth yn teimlo ar goll eto! Mae enwau’r lleoedd i gyd yn ymddangos yn Gymraeg a gelli di osod y map ar wefannau eraill hefyd.
Meddal.com
Rhaglenni ac apiau Cymraeg.
Porth Termau Cenedlaethol Cymru
Man gwych i chwilio am derminoleg Cymraeg sy’n ymwneud â sectorau penodol fel addysg, gofal cymdeithasol, natur a llawer mwy.
Rhestr termau technolegol Cymraeg a chanllaw arddull Microsoft
Beth yw ‘cancel’ yn Gymraeg? ‘Diddymu? Canslo? Dileu?’ Mae defnyddio’r termau cywir yn gyson yn bwysig wrth leoleiddio meddalwedd. Gosoda’r iaith i ‘Welsh’ a bant â thi! O, ac mae canllaw arddull manwl hefyd sy’n helpu cyfieithwyr a lleoleiddwyr pob rhaglen.
Scratch
Rhaglen sydd ar gael mewn sawl iaith – gan gynnwys y Gymraeg. Mae Scratch yn hwyluso dysgu codio i blant (neu oedolion). Gelli di ddysgu sut mae rhaglennu gêmau ac animeiddiadau rhyngweithiol.
Si-Lwli
Teganau, gweithgareddau a phosteri Cymraeg.
Tiwtiadur
Os wyt ti'n dysgu Cymraeg i eraill, neu jest yn dysgu Cymraeg, bydd hwn yn lle handi iti.
Wicipedia Cymraeg
Yr anrheg mae pawb wedi bod yn aros amdano - can mil a mwy o erthyglau Cymraeg, a rhagor yn cael eu cyhoeddi bob dydd.
WordPress
Cofia bod modd i ti ddefnyddio WordPress yn Gymraeg wrth i ti fynd ati i ddatblygu gwefan neu flog.
Gelli di hefyd gyfeirio at restr ddefnyddiol Hedyn i ganfod pa ategion a themâu WordPress sydd ar gael yn Gymraeg.
Y Pod
Ffansi gwrando ar bodlediad Cymraeg ond ddim yn gwybod lle mae dechrau? Mae rhywbeth at ddant pawb draw ar Y Pod.
Adnabyddwr Endidau
Teclyn sy'n datgelu geiriau neu setiau o eiriau sy'n gallu bod yn enw person, lle, swydd, ayb. Mae gallu adnabod endidau yn bwysig wrth brosesu iaith naturiol.
Adnoddau lleferydd Prifysgol Bangor
Mae llawer ohonon ni'n defnyddio technolegau iaith lleferydd i gyfathrebu gyda’n ffonau symudol a’n setiau teledu. Rho gynnig arni gyda’r adnoddau yma gan Brifysgol Bangor.
AINA
Partneriaeth AI rhwng Cymru a Chatalonia.
Amazon: MASSIVE
Mae'r Gymraeg yn un o 51 iaith yn y corpws hyfforddi AI anferth yma gan Amazon.
Ataleiriau Prifysgol Bangor
Rhestr o eiriau llai pwysig i AI wrth ddadansoddi testun a phrosesu cwestiynau.
Ataleiriau Prifysgol De Cymru
Rhestr o eiriau llai pwysig sy'n helpu AI wrth ddadansoddi testun a phrosesu cwestiynau.
Boniwr
Mae hwn yn datgelu bôn gair Cymraeg, e.e. ‘datblygodd’ i ‘datblyg-’.
Casgliad o lawysgrifau Cymraeg wedi'u trawsgrifio gan OpenAI
Enghraifft gynnar o dechnolegau AI yn trawsgrifio llawysgrifen Cymraeg.
CLDR (Common Locale Data Repository)
Blociau adeiladu i feddalwedd – y storfa fwyaf yn y byd o ddata locale, gan gynnwys y Gymraeg.
Cofau Cyfieithu BydTermCymru
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys cofau cyfieithu o fersiynau dwyieithog cyhoeddedig dogfennau a deunyddiau eraill gan Lywodraeth Cymru.
CorCenCC - Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes
Mae cronfa ddata electronig CorCenCC yn cynnwys 10 miliwn o eiriau Cymraeg. Gelli di weld enghreifftiau o eiriau o fewn testunau amrywiol, yn hytrach na diffiniadau.
Awyddus i wybod rhagor am sut mae CorCenCC yn rhoi’r gronfa ddata yma at ei gilydd? Newyddion da - mae’r holl ddogfennau sy’n ymwneud â’r prosiect ar gael am ddim yma.
- Dyma’r eirfa sydd y tu ôl i adnoddau technoleg iaith CorCenCC.
- Casgliad o offer prosesu iaith naturiol Python ar gyfer y Gymraeg, sy’n cynnwys segmentydd testun, holltydd brawddegau, tocyneiddiwr a thagiwr rhannau ymadrodd
- Tagiwr semantig sydd wedi ei seilio ar reolau Prifysgol Caerhirfryn
- Bant â ti: tagia dy rannau ymadrodd Cymraeg.
- Yn y bôn, mae pawb yn hoffi boniwr. Dyma un Python sy’n defnyddio algorithm Porter wedi ei addasu ar gyfer y Gymraeg.
- Offer testun amrywiol - Cyd-leolwr geiriau, datgelydd amlder geiriau ac offer testun eraill.
Corpora Prifysgol Bangor
Beth yw ‘corpws’ neu ‘gorpora’? Casgliadau mawr o wahanol fathau o Gymraeg. Dyma restr o rai allweddol.
Corpws Lleferydd Paldaruo Prifysgol Bangor
Oes gen ti ddiddordeb mewn datblygu technoleg lleferydd Cymraeg? Bydd y corpws o recordiadau ffeiliau sain yma’n fan cychwyn grêt.
Corpws OSCAR
Wyt ti eisiau dod i nabod OSCAR yn well? Defnyddia’r teclyn canfod a disodli, chwilia am y gair ‘Welsh’ a lawrlwytha’r adnoddau.
Cronfa Termau Byd Term Cymru
Os wyt ti’n chwilio am gronfa dermau i’w defnyddio mewn cof cyfieithu, mae gwerth lawrlwytho cronfa TermCymru.
Cydran normaleiddio
Os wyt ti'n ddatblygydd sy'n gweithio ar destun-i-leferydd, dyma adnodd sy'n sicrhau mai "hanner awr wedi saith" sy'n cael ei dddweud pan mae'r testun yn dangos "07:30". Mae 'na fwy o reolau ar gael o fewn y pecyn.
Dadansoddi Sentiment
I ddatblygwyr sydd am roi sgôr awtomatig i adborth defnyddwyr er mwyn gweld os gawson nhw brofiad positif neu negyddol.
Data sain y babell Cymdeithasau Eisteddfod Genedlaethol 2025
Diolch i'r Eisteddfod Genedlaethol am rannu eu cynnwys yn argoed i wella adnabod lleferydd Cymraeg!
Enwau lleoedd safonol Cymru - Comisiynydd y Gymraeg
Rhestr Comisiynydd y Gymraeg o enwau lleoedd Cymraeg.
FlexiTerm Cymraeg: datgelydd termau Prifysgol Caerdydd
Beth am brofi dy sgiliau a rhoi cynnig ar FlexiTerm? Meddalwedd sy’n amlygu termau posibl yn awtomatig mewn testunau Cymraeg.
Hacio’r Iaith
Ymuna â chymuned Hacio’r Iaith i drin a thrafod diweddariadau a datblygiadau’r Gymraeg yn y byd digidol.
Hunspell
Lecsicon gwirio sillafu cod agored i ti wirio dy sillafu.
Lecsicon Cymraeg Prifysgol Bangor
Rhestr enfawr o eiriau a brawddegau Cymraeg.
Lemateiddiwr
Dim byd i'w gwneud gyda lemmings na chwaith llamas. Bydd yr ieithyddion wrth eu bodd wrth fynd i asgwrn y gynnen pob gair.
Lleisiau Arfor
Dyma gasgliad o ddata podlediadau, cyfarfodydd, sgyrsiau a digwyddiadau cyhoeddus wedi'i anonymeiddio fel rhan o'r proiect Arfor.
Mewnblaniadau
Dim ond y gîcs mwyaf eithafol bydd yn mynd at y rhestr yma o eiriau a fectoriaid mathemategol.
Model adnabod enwau endidol Saesneg
Rho lwyth o destun i hwn ac fe wneith uwcholeuo enwau llefydd, pobl, misoedd, swyddi... Enwau Saesneg mae hwn yn darganfod. Mae 'na un arall ar gyfer endidau Cymraeg.
Model atalnodi a phriflythrennu Cymraeg
Lle ar y ddaear aeth yr holl atalnodau llawn a'r prif lythrennau? Does gen i ddim syniad. Wel dyma'r peth i'w rhoi nhw yn ôl mewn chwinciad.
Model Cymraeg SpaCy
Mae 'na fodelau o awyrennau, tancs ac aircraft carriers. Wel dyma fodel Cymraeg i'r iaith sgriptio Python.
Model iaith arddweud
Model ieithyddol i'r gîcs go iawn sydd am ddatblygu adnoddau lleferydd Cymraeg.
Model lleferydd
Model lleferydd i'r gîcs go iawn sydd am ddatblygu adnoddau lleferydd Cymraeg.
Modelau iaith fectorau Cymraeg
Chwilio am fodel iaith i hyfforddi systemau adnabod lleferydd? Dyma un sy’n rhoi rhif neu ‘fector’ arbennig i bob gair yn ôl pa mor agos mae e at eiriau eraill.
Modelau lleisiau dwyieithog
Mae gen ti ddewis o sawl fath o fodel adnabod lleferydd ddwyieithog bellach. O fodel acwstig llwyr sy'n trawsgrifio mewn fordd 'ferbatim' i fodel Whisper ddwyieithog ar gyfer trawsgrifio iaith mwy ffurfiol. Dyma gasgliad Prifysgol Bangor.
Moses SMT
Diddordeb mewn cyfieithu ac yn chwilio am feddalwedd cyfieithu beirianyddol ystadegol? Ta-da... dyma ti wedi dod o hyd i un!
Mozilla Common Voice
Prosiect cod agored i sicrhau bod technoleg adnabod llais ar gael mewn sawl iaith – y Gymraeg yw diddordeb Helo Blod wrth gwrs. Eisiau cyfrannu? Recordia dy hun yn darllen brawddegau Cymraeg neu gelli di hefyd wirio recordiadau pobl eraill.
Parsiwr dibyniaethau
Q: Dwi'n ddatblygydd. Ai dyma'r parsiwr i mi? A: Mae'n dibynnu.
Pecyn cymorth technoleg dwyieithog: profiad da i’r defnyddiwr
Wyt ti neu dy sefydliad yn datblygu meddalwedd dwyieithog? Bydd y canllaw yma’n berffaith i dy helpu di sicrhau fod dy brosiect digidol yn cynnig gwasanaeth gwych yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru
Beth am gyflwyno’r Gymraeg i dy brosiect digidol? Mae rhywbeth ar gael i bawb sy’n hoffi technoleg Cymraeg rhwng y cynnwys yma a rhestr Helo Blod.
Rheolau ynganu Cymraeg
Mae’n gallu bod yn anodd gwybod sut mae ynganu ambell air o bryd i’w gilydd, felly pa obaith sydd gan lais synthetig i wneud? Trwy ddefnyddio rheolau Prifysgol Bangor fe fydd ganddo ynganiad perffaith mewn dim.
Am gymorth pellach, mae yna hefyd restr ynganu geiriau Cymraeg sydd at ddefnydd apiau ac offer lleferydd.
Rhestrau geiriadurol Prifysgol Bangor
Llond y lle o restrau i helpu gyda phob dim! O’r geiriau Cymraeg mwyaf cyffredin i restrau sillafu, ynganu a phob math o themâu, mae’r cyfan i gyd ar gael mewn un lle hawdd.
Sgript recordio ar gyfer talent llais
Sgript sy'n ddefnyddiol i ddatblygwyr sydd eisiau creu lleisiau artiffisial Cymraeg newydd.
Tagiwr rhan ymadrodd
Nid pawb sy'n dwlu ar ramadeg. Wel dyma ffordd awtomatig i labelu Enwau, Berfau, Berfenwau, a.y.b. yn ddi-drafferth.
Talpiwr Enwol
Mae'r "car bach coch" yn un peth sy'n cael ei ddisgrifio gan dri gair. Eu cyfuno nhw i un cysyniad mae'r talpiwr yma.
TestynRhydd
Darganfod. Dadansoddi. Delweddu. Datgelwch agweddau newydd o ddata eich testun gyda TestynRhydd.
WordNet Cymraeg
Ry’ ni wedi bwrw’n rhwyd yn eang ym maes technoleg a dyma WordNet, sef grwpiau o eiriau Cymraeg sydd ag ystyron tebyg, wedi’u croes gysylltu.
TestynRhydd
Darganfod. Dadansoddi. Delweddu. Datgelwch agweddau newydd o ddata eich testun gyda TestynRhydd.
Darllenydd sgrin sy’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg
Darllenydd sgrin hygyrch, o ansawdd uchel. Bydd angen i ti ychwanegu lleisiau Cymraeg dy hun ond bydd hynny’n rhwydd, ti’n arbenigwr yn y maes nawr dy fod ti wedi darllen trwy bopeth ar y rhestr yma!
Festival - testun i lais
Rhaglen testun i leferydd.
Lleisiau synthetig Cymraeg Ivona: Gwyneth a Geraint
Yn wreiddiol, Llywodraeth Cymru gomisiynodd y lleisiau yma gan RNIB Cymru. Mae’r lleisiau testun-i-leferydd yma’n galluogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg dall a rhannol ddall i ddarllen gwefannau, cyfnewid negeseuon e-bost a darllen ac ysgrifennu dogfennau yn Gymraeg.
Lleisiau testun-i-leferydd
Beth am gael llais newydd i dy ddarllenydd sgrin? Beth sy'n wych am y rhain yw eu bod yn gweithio yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg hefyd.
Lleisiwr
Teclyn arloesol sy’n gallu helpu os wyt ti mewn peryg o golli dy allu i siarad achos salwch neu gyflwr meddygol. Defnyddia dy lais i ddatblygu llais synthetig personol dy hun.
Macsen – cynorthwyydd personol Cymraeg
Dwyt ti’m yn cofio Macsen? Does neb yn ei nabod o! Dyma dy gyfle di i gyfarfod cynorthwyydd personol Cymraeg.
Modelau lleisiau dwyieithog
Mae gen ti ddewis o sawl fath o fodel adnabod lleferydd ddwyieithog bellach. O fodel acwstig llwyr sy'n trawsgrifio mewn fordd 'ferbatim' i fodel Whisper ddwyieithog ar gyfer trawsgrifio iaith mwy ffurfiol. Dyma gasgliad Prifysgol Bangor.
NVDA - darllenydd sgrin
Darllenydd sgrin hygyrch, o ansawdd uchel. Bydd angen i ti ychwanegu lleisiau Cymraeg dy hun ond bydd hynny’n rhwydd, ti’n arbenigwr yn y maes nawr dy fod ti wedi darllen trwy bopeth ar y rhestr yma!
Trawsgrifiwr Cymraeg Prifysgol Bangor
Chwilio am ap sy’n teipio wrth i ti siarad Cymraeg? Mae’r trawsgrifiwr arbrofol yma yn gweithio ar Windows ac mae’n teipio’r hyn rwyt ti’n ei ddweud ar y sgrin.
Aliniwr Cymraeg-Saesneg Prifysgol Bangor
Dyma adnodd ar gyfer y cyfieithwyr yn ein plith; rhaglen sy’n caniatáu alinio rhwng testunau Cymraeg a Saesneg ar lefel y frawddeg. Cofia dy gofion cyfieithu a phortha DMX gyda’r teclyn defnyddiol ‘ma.
ARFer
Mae ap ARFer yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i dimau ar draws sectorau i weithio drwy dasgau perthnasol, tracio cynnydd ac adeiladu hyder iaith, gan helpu i sicrhau lle canolog i’r Gymraeg fel iaith gwaith. Mae’r ap ar gael ar yr AppStore a GooglePlay ac ar gael unwaith y byddwch wedi cofrestru eich grŵp ar y rhaglen.
Canllawiau cyfieithu ar y pryd ar Teams
Dyma ganllawiau pdf a fideo ar sut i drefnu a defnyddio cyfieithu ar y pryd yn Teams.
Cian
Mae Cian yn wasanaeth e-bost adolygu-yn-gyntaf i sefydliadau yng Nghymru. Mae'n ateb yn Gymraeg gan ddefnyddio gwybodaeth am eich sefydliad, ac yn dangos cyfieithiad Saesneg i staff i'w adolygu cyn anfon.
Copilot
Copilot yw cynorthwyydd AI Microsoft ac mae wrthi'n dysgu Cymraeg.
Cyfieithydd peirianyddol parth penodol
Os wyt ti'n gyfieithydd sy'n gweithio ar feysydd Iechyd a Gofal neu Ddeddfwriaeth, tria'r peirianau penodol yma.
Cysgliad
Wrthi’n dysgu neu wella dy Gymraeg? Ydy dy blant mewn addysg Gymraeg? Wyt ti’n eu helpu gyda’u gwaith cartref? Neu jyst chwilio am dawelwch meddwl bod pob t c p wedi mynd yn d g b yn y llefydd iawn? Gall Cysgliad helpu. Ac mae ar gael yn rhad ac am ddim.
Awydd rhoi cynnig arni? Mae trwydded am ddim i Cysgliad ar gyfer unigolion, ysgolion a phawb sy’n cyflogi 10 o bobl neu lai ar gael gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
- Cysill - Paid â phoeni am gamgymeriadau, gad i Cysill gywiro unrhyw wallau iaith a helpu gyda’r treigladau!
- Cysgeir - Methu’n deg â chofio beth yw’r gair Cymraeg ar gyfer “computer”? Ydy'r gair yn wrywaidd neu yn fenywaidd? Chwilia trwy Cysgeir am yr ateb.
Microsoft Translator
Yma i helpu siaradwyr hyderus i ddrafftio yn Gymraeg, ac i’r rheiny nad ydynt mor hyderus i ddeall testun Cymraeg.
Nodiadau.com
Cynorthwyydd dwyieithog ar gyfer cyfarfodydd, nodiadau a chamau dilynol. Trowch sgyrsiau yn grynodebau, camau gweithredu a nodiadau caboledig - yn Gymraeg ac yn Saesneg.
QR Cymraeg
Ymgysylltu'n well â'ch cynulleidfa ddwyieithog a deall gyda chodau QR unigryw Cymraeg/Saesneg. Trin Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o'r dechrau a gweld ystadegau byw ar ddewisiadau iaith eich cynulleidfa.
Soniox
Mae Soniox yn blatfform AI llais sy'n gallu trawsgrifio sgyrsiau amlieithog, gan gynnwys yn Gymraeg a Saesneg.
TestynRhydd
Darganfod. Dadansoddi. Delweddu. Datgelwch agweddau newydd o ddata eich testun gyda TestynRhydd.
Thunderbird
Cyflwyna mwy o Gymraeg i fywyd bob dydd gyda’r rhaglen e-bost, ffrwd newyddion, sgwrsio, a chalendr, cod agored yma.
Trawsgrifiwr
Chwilio am ap sy’n teipio wrth i ti siarad Cymraeg? Mae’r trawsgrifiwr arbrofol yma yn gweithio ar Windows ac mae’n teipio’r hyn rwyt ti’n ei ddweud ar y sgrin.
TurboScribe
Mae TurboScribe yn wasanaeth trawsgrifio AI sy'n darparu trawsgrifio sain a fideo. Mae TurboScribe yn trosi ffeiliau sain a fideo i destun mewn 98+ o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg.
Tô Bach
Mae Tô Bach yn adnodd Windows, rhad ac am ddim, sy'n galluogi i chi ddefnyddio acenion a symbolau Cymraeg yn hawdd.
Ysgrifennu Triawd
System newydd o greu cynnwys dwyieithog heb ddibynnu ar gyfieithu yn unig.
Adnoddau Hwb
Help llaw gyda gwaith ysgol ym maes technoleg a'r Gymraeg.
Anthropic Claude
Peiriant AI cynhyrchiol arall sy'n dechrau prosesu'r Gymraeg.
Bysellfwrdd SwiftKey
Bysellfwrdd darogan neu ‘predictive’ sy’n dysgu ac yn addasu i’r ffordd rwyt ti’n ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.
BydTermCymru
Cronfa dermau, canllawiau arddull a phob math o adnoddau defnyddiol eraill i helpu gyda chyfieithu a chreu cynnwys gwreiddiol yn Gymraeg.
ChatGPT OpenAI
Eisiau defnyddio AI sy'n defnyddio'n data agored Cymraeg ni? Dyma beiriant AI cynhyrchiol sydd wrthi'n datblygu ei allu i brosesu'r Gymraeg.
Copilot
Copilot yw cynorthwyydd AI Microsoft ac mae wrthi'n dysgu Cymraeg.
Cysgliad
Wrthi’n dysgu neu wella dy Gymraeg? Ydy dy blant mewn addysg Gymraeg? Wyt ti’n eu helpu gyda’u gwaith cartref? Neu jyst chwilio am dawelwch meddwl bod pob t c p wedi mynd yn d g b yn y llefydd iawn? Gall Cysgliad helpu. Ac mae ar gael yn rhad ac am ddim.
Awydd rhoi cynnig arni? Mae trwydded am ddim i Cysgliad ar gyfer unigolion, ysgolion a phawb sy’n cyflogi 10 o bobl neu lai ar gael gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
- Cysill - Paid â phoeni am gamgymeriadau, gad i Cysill gywiro unrhyw wallau iaith a helpu gyda’r treigladau!
- Cysgeir - Methu’n deg â chofio beth yw’r gair Cymraeg ar gyfer “computer”? Ydy'r gair yn wrywaidd neu yn fenywaidd? Chwilia trwy Cysgeir am yr ateb.
DarllenCo.
Oes gen ti blentyn ifanc yn yr ysgol? Gyda'r wefan hon, gelli di fwynhau darllen straeon lliwgar Cymraeg gyda nhw.
Digigrid
Archwilio, dadansoddi, dysgu a gwaith cyfeirio yn y Gymraeg - mewn un gwefan handi.
Enwau lleoedd safonol Cymru - Comisiynydd y Gymraeg
Rhestr Comisiynydd y Gymraeg o enwau lleoedd Cymraeg.
Fideos ‘sut i’ technoleg
Wyt ti eisiau gosod rhyngwyneb Cymraeg ar dy gyfrifiadur ond ddim yn gwybod lle i ddechrau? Gwylia’r fideos yma sy’n hawdd i’w dilyn ac yn dangos i ti yn union sut i fynd ati.
Google Gemini
Gemini yw cynorthwyydd AI Google ac mae'n dysgu Cymraeg.
Hedyn
Hoffet ti ragor o gynnwys Cymraeg ar dy ffôn? Cer drwy’r rhestr yma o apiau iOS ac Android, sydd un ai yn Gymraeg neu’n cynnwys elfen o Gymraeg, a mater bach o lawrlwytho’r apiau yw hi wedyn.
Hir-iaith
Estyniad i'r porwr Chrome sy'n uwcholeuo geiriau Cymraeg fel y gelli di eu deall yn haws os wyt ti'n dysgu Cymraeg.
Lleisiau synthetig Cymraeg Ivona: Gwyneth a Geraint
Gyda chyllid Llywodraeth Cymru, datblygodd yr RNIB y lleisiau hyn gyda'r cwmni meddalwedd IVONA. Mae'r lleisiau yn rhad ac am ddim i unigolion a sefydliadau i’w defnyddio at ddibenion anfasnachol.
Lleisiau synthetig dwyieithog Prifysgol Bangor
Beth am gael llais newydd i dy ddarllenydd sgrin? Beth sy'n wych am y rhain yw eu bod yn gweithio yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg hefyd.
Lleisiau synthethig Cymraeg Cereproc
Dyma 16 llais synthetig dwyieithog ar gyfer pobl ifanc. O dan y gytundeb rhwng y GIG a'r datblygwyr Cereproc, mae lleisiau Cymraeg ar gael am ddim drwy therapyddion iaith a lleferydd, neu ar gael i'w prynu a'u lawrlwytho o wefan Cereproc.
Lleisiau synthetig Cymraeg Microsoft: Nia ac Aled
Lleisiau synthetig Cymraeg Nia ac Aled sy'n gweithio gyda'ch adnoddau Microsoft chi.
Macsen - cynorthwyydd personol Cymraeg
Dwyt ti’m yn cofio Macsen? Dyma dy gyfle di i gyfarfod cynorthwyydd personol Cymraeg.
Mapio Cymru
Diolch i’r map rhyngweithiol Cymraeg yma, fyddi di byth yn teimlo ar goll eto! Mae enwau’r lleoedd i gyd yn ymddangos yn Gymraeg a gelli di osod y map ar dy wefannau hefyd.
Meddal.com
Rhaglenni ac apiau Cymraeg.
Microsoft 365
Wyt ti’n defnyddio Microsoft 365? Mae’r rhyngwyneb Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim.
Microsoft Translator
Yma i helpu siaradwyr hyderus i ddrafftio yn Gymraeg, ac i’r rheiny nad ydynt mor hyderus i ddeall testun Cymraeg.
Micro:bit
Os wyt ti, neu dy blant, yn dysgu codio gyda'r BBC Micro:bit yn yr ysgol, dyma adnoddau handi dros ben.
Mozilla Common Voice
Prosiect cod agored i sicrhau bod technoleg adnabod llais ar gael mewn sawl iaith – y Gymraeg yw diddordeb Helo Blod wrth gwrs. Eisiau cyfrannu? Recordia dy hun yn darllen brawddegau Cymraeg neu gelli di hefyd wirio recordiadau pobl eraill.
NVDA - darllenydd sgrin
Darllenydd sgrin hygyrch, o ansawdd uchel. Bydd angen i ti ychwanegu lleisiau Cymraeg dy hun ond bydd hynny’n rhwydd, ti’n arbenigwr yn y maes nawr dy fod ti wedi darllen trwy bopeth ar y rhestr yma!
Scratch
Mae Scratch yn hwyluso dysgu codio i blant (neu oedolion). Gelli di ddysgu sut mae rhaglennu gêmau ac animeiddiadau rhyngweithiol.
Si-Lwli
Teganau, gweithgareddau a phosteri Cymraeg.
TD Snap Cymraeg
Cefnogaeth symbolau gan Tobii Dynavox i helpu plant a phobl ifanc i gyfathrebu yn Gymraeg.
Technocamps
Mae Technocamps yn rhedeg gweithdai codio Cymraeg.
Trawsgrifiwr Cymraeg Prifysgol Bangor
Chwilio am ap sy’n teipio wrth i ti siarad Cymraeg? Mae’r trawsgrifiwr arbrofol yma yn gweithio ar Windows ac mae’n teipio’r hyn rwyt ti’n ei ddweud ar y sgrin.
TurboScribe
Ffordd hawdd i isdeitlo fideos yn Gymraeg. Bydd dal rhaid i chi wirio'r testun!
Vocab
Wedi dod ar draws gair anghyfarwydd wrth ddarllen tudalen gwe Gymraeg? Symuda’r llygoden dros y gair a bydd Vocab yn dangos y cyfieithiad iti.
Wicipedia Cymraeg
Yr anrheg mae pawb wedi bod yn aros amdano - can mil a mwy o erthyglau Cymraeg, a rhagor yn cael eu cyhoeddi bob dydd.
Y Pod
Ffansi gwrando ar bodlediad Cymraeg ond ddim yn gwybod lle mae dechrau? Mae rhywbeth at ddant pawb draw ar Y Pod.
Mae lot o waith technoleg ar y gweill ‘da ni yn Llywodraeth Cymru – ac mae’r cwbl am ddim i ti i’w ddefnyddio! Dyma’r blaenoriaethau a dyma beth ry’n ni wedi ei wneud hyd yn hyn.