Cyn dechrau arni.
Telerau ac amodau
Wyt ti wedi darllen Telerau ac Amodau Helo Blod i weld a yw dy gais yn gymwys?
Cymhwysedd
Cyn bwrw ymlaen â chofrestru, gwna’n siŵr dy fod wedi darllen a deall y prif ofynion cymhwysedd canlynol:
- Rwyt ti’n cyflwyno’r cais ar dy ran dy hun neu’r sefydliad rwyt ti’n gweithio iddo. Dydyn ni ddim yn derbyn ceisiadau am waith sydd wedi’i gomisiynu gan sefydliad arall – hynny yw, deunyddiau rwyt ti wedi cael dy gyflogi i’w cynhyrchu neu eu datblygu.
- Dyw Helo Blod ddim yn gallu cyfieithu na gwirio deunydd y mae’n rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn Gymraeg er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, fel Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith statudol.
- Nid yw prosiectau sydd wedi derbyn cyllid cyhoeddus (gan gynnwys cyllid gan y Loteri Genedlaethol) yn gymwys ar gyfer gwasanaethau cyfieithu a gwirio testun Helo Blod os yw'r cyllid naill ai'n mynnu bod deunyddiau'n cael eu cynhyrchu yn ddwyieithog neu'n cynnwys costau cyfieithu yn y gyllideb.
Dal ddim yn siŵr a wyt ti’n gymwys? Cysyllta â ni i drafod!
I gofrestru gyda Helo Blod, bydd angen i ti, yn gyntaf, sefydlu cyfrif gyda Sign On Cymru (SOC), sef gwasanaeth mewngofnodi Busnes Cymru.
Os oes gen ti gyfrif SOC yn barod, bydd angen i ti fewngofnodi gyda dy fanylion.
Dechreua nawr