Cyfarwyddyd

Ydy hunangyflogaeth yn addas i chi?

Mae dechrau’ch busnes eich hun yn her enfawr a chyffrous. Mae’r adran hwn yn amlinellu rhai o’r pethau pwysig ddylech chi eu hystyried cyn i chi gymryd y cam mawr hwnnw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 August 2014
Diweddarwyd diwethaf:
17 September 2025

Cynnwys

1. Crynodeb

Mae dechrau’ch busnes eich hun yn her enfawr a chyffrous. Mae’r adran hwn yn amlinellu rhai o’r pethau pwysig ddylech chi eu hystyried cyn i chi gymryd y cam mawr hwnnw.

2. Ydy hunangyflogaeth yn addas i chi?

Gall dechrau busnes fod yn rhywbeth gwerth chweil ac sy’n eich grymuso, ond gall hefyd arwain at nifer o risgiau a heriau.  Nifer fechan o fusnesau newydd sy’n goroesi – amcangyfrifir bod hyd at draean o fusnesau newydd yn methu yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Serch hynny, y newyddion da ydy bod nifer o fusnesau newydd yn goroesi a bod gan y rheini sy’n gofyn am gymorth ac arweiniad hyd yn oed gwell siawns o lwyddo.

Mae’r canllaw hwn yn amlinellu rhai o’r pethau pwysig ddylech chi eu hystyried cyn i chi gymryd y cam mawr hwnnw.

Mae rhedeg busnes llwyddiannus a bod yn fòs arnoch chi’ch hun yn gallu bod yn gyffrous, yn werth chweil ac mae’n gallu golygu rhyddid i chi.

Mae hefyd yn llawn cyfnodau da a drwg a phethau annisgwyl.

Bydd angen i chi wneud penderfyniadau ar eich pen eich hun am bob math o bethau, a hynny'n aml heb lawer o wybodaeth.  

  • mae'n bosib y bydd angen i chi weithio oriau maith, yn enwedig ar y dechrau
  • bydd angen i chi fod yn benderfynol, yn hunanddibynnol a gallu’ch cymell eich hun
  • mae rhai pobl wrth eu bodd gyda’r math yma o her, ond dydy hyn ddim at ddant pawb

Dyma rai o’r manteision a’r anfanteision i chi eu hystyried

Manteision

  • Gwobrau ariannol
  • Rhyddid
  • Hyblygrwydd
  • Ymateb i’r her
  • Boddhad personol
  • Teimlad o gyflawni
  • Bod mewn rheol
  • Sicrwydd swydd

Anfanteision

  • Oriau hir anghymdeithasol
  • Straen
  • 24/7 – dim dianc
  • Jyglo pob dim
  • Pwysau ariannol
  • Cyfrifoldeb
  • Incwm yn amrywio
  • Wynebu’r anghyfarwydd

Ydych chi’r math iawn o unigolyn i fod yn hunangyflogedig? 

Tarwch olwg ar fanteision ac anfanteision bod yn hunangyflogedig a gofynnwch i’ch hun:

  • ydw i wir yn dymuno gweithio’n annibynnol a bod yr un sy’n gwneud pob penderfyniad ac sy’n cymryd y cyfrifoldeb?
  • ydw i’n barod i weithio'r holl oriau angenrheidiol ac aberthu'r hyn sydd ei angen i ddechrau busnes
  • oes gen i'r hunan-hyder a'r hunan-ddisgyblaeth i ddal ati i sicrhau bod fy musnes yn llwyddo?

Os mai Nac ydw oedd eich ateb mae'n debyg nad ydych chi’n barod i ddechrau busnes eto.

Os mai Ydw oedd eich ateb rydych chi’n barod i feddwl o ddifrif am ddechrau busnes.

3. Asesu’ch rhinweddau personol

Beth bynnag fo maint a math y busnes rydych chi’n ystyried ei ddechrau, mae’n rhaid i bob perchennog busnes gael amrywiaeth eang o sgiliau a gallu. Yn y rhan yma rydyn ni’n edrych ar rai o nodweddion cyffredin pobl fusnes lwyddiannus. Yna gallwch ystyried a allech chi wneud hyn.

A allech chi wneud hyn?

Treuliwch funud neu ddau'n gwneud yr ymarfer 'Asesu'ch Rhinweddau Personol'. Cwis syml ydyw a wnaiff eich helpu chi feddwl amdanoch eich hun ac a ydych chi'n addas ar gyfer rhedeg busnes eich hun. 

Pob lwc!

4. Gwerthuso’ch sgiliau busnes

Mae rhedeg busnes yn dasg anodd. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau'n dechrau gydag un person yn unig, ac fel perchennog y busnes, chi fydd fwyaf tebygol o fod yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith eich hun. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â’r rhinweddau personol priodol, rhaid i chi gael rhywfaint o sgiliau a gwybodaeth fusnes hefyd.

Beth bynnag fo maint neu fath eich busnes, mae rhai sgiliau’n angenrheidiol os ydych chi am reoli’ch busnes yn effeithiol. Dyma nhw:

  • rheoli busnes cyffredinol
  • rheolaeth ariannol
  • gwerthu a marchnata
  • gweithrediadau
  • gweinyddu

Defnyddiwch y Cynllun Gweithredu Busnes hwn i asesu eich lefel o sgiliau busnes ar hyn o bryd. 

Meddyliwch am y pethau rydych chi wedi’u gwneud yn y gorffennol, un ai mewn swyddi blaenorol neu yn eich bywyd bob dydd. Nawr, meddyliwch am sut gall y profiadau hynny eich helpu chi yn eich busnes.

Os oes rhai sgiiau busnes penodol y mae gennych angen eu gwella, eu diweddaru neu eu darblygu, mae nifer fawr o gyrsiau a rhaglenni ar gael. Drwy ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol, rydych chi’n creu sail gadarn ar gyfer eich busnes.

Cyrsiau BOSS

Mae BOSS (Gwasanaeth cymorth busnes ar-lein) yma i’ch helpu chi a’ch busnes. Mae’n ffordd syml o ddysgu ar-lein.  Datblygwch eich busnes gyda BOSS! I gael mynediad at holl gymorth y cyrsiau, cofrestrwch heddiw:

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.