Is-bwnc

Dechrau a chynllunio busnes

Hunangyflogaeth

Mae dechrau’ch busnes eich hun yn her enfawr a chyffrous. Mae’r adran hwn yn amlinellu rhai o’r pethau pwysig ddylech chi eu hystyried cyn i chi gymryd y cam mawr hwnnw.
Cyn i chi ddechrau busnes, rhaid i chi benderfynu sut fath o fusnes mae am fod.
Mae datblygu eich syniad busnes yn gynnyrch neu'n wasanaeth hyfyw yn rhan allweddol o adeiladu busnes.
Un o’r pethau anoddaf am redeg eich busnes eich hun ydy teimlo'ch bod chi’n gorfod gwneud popeth ar eich pen eich hun a meddwl sut rydych chi am ei ariannu.
Er bod dechrau’ch busnes eich hun yn gyffrous, mae nifer o faterion treth a chyfreithiol mae’n rhaid i chi eu hystyried.
Gall lansio busnes bach fod yn risg ac nid ydych bob amser yn sicr o lwyddo.

Cynllun Busnes

Mae cynllunio beth rydych chi am ei wneud yn eich busnes yn rhan bwysig o wneud yn siŵr bod eich busnes yn llwyddo.

Ymchwil i'r farchnad

Mae'n hawdd meddwl bod gennych chi syniad ardderchog am fusnes, ond, er mwyn i'ch busnes lwyddo, bydd angen ichi gael cadarnhad eich bod chi'n iawn.
Nid ynys yw busnes. Mae'n hollbwysig gwybod beth sy'n digwydd yn y byd o'ch cwmpas a gweld sut y gallai hynny effeithio ar eich busnes.
Mae gan bawb bobl sy’n cystadlu yn eu herbyn ac mae'n bwysig gwybod pwy ydyn nhw a beth maen nhw'n ei gynnig.
Mae gwybod pwy sy'n debygol o brynu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn hollbwysig i'ch busnes.
Yn y bôn, ymchwil marchnad ydy casglu gwybodaeth i'ch helpu i wneud gwell penderfyniadau.
Wrth wneud ymchwil marchnad, byddwch chi'n casglu gwybodaeth er mwyn i chi fod yn fwy gwybodus ac er mwyn ichi allu gwneud gwell penderfyniadau am eich busnes. Mae cynllunio'n rhan bwysig o'r broses, ac mae defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi'n ei chasglu mewn gwirionedd yr un mor bwysig.

Marchnata

Yn syml, marchnata yw gwneud yn siŵr bod y bobl iawn yn gwybod beth sy' gennych chi i'w gynnig, eu denu nhw atoch chi ac wedyn eu cael nhw i brynu.
Er bod yr ateb i'r cwestiwn hwn yn amlwg efallai, fe all y ffordd yr ewch ati wneud gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu.
Anghofiwch geisio gwerthu i bawb. Yn hytrach, rydych chi am werthu i bobl rydych chi'n gwybod y byddan nhw am brynu’ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth.
It is important to make sure your product or service is available in the right place at the right time and in the right quality.
Mae cyfleu'ch neges i ddarpar gwsmeriaid a'u perswadio nhw i brynu'n her.
Cyn ichi neidio i mewn i'w chanol hi a dechrau marchnata neu wario arian, mae'n hanfodol tynnu popeth at ei gilydd mewn Cynllun Gweithredu ar gyfer Marchnata.
Hanfod marchnata yw dod o hyd i'r cwsmer iawn i'ch cynnyrch a'ch gwasanaethau a'u denu nhw atoch chi.
Y cwsmer cyntaf un yw'r un anoddaf ei ddenu bob tro.

Cwsmer, Gwerthiant, Ymchwil

Cyllid

Mae pennu prisiau’n her. Mae faint o elw rydych chi’n ei wneud yn dibynnu i raddau helaeth ar y prisiau rydych chi’n eu codi, felly mae pennu’r pris yn iawn yn hanfodol i lwyddiant eich busnes
Er mwyn i’ch busnes oroesi, rhaid i chi gael digon o arian i dalu am eich holl gostau sefydlu, costau rhedeg y busnes a chael digon i chi fyw arno hefyd.
Y cam cyntaf wrth bennu prisiau ydy sefydlu’ch costau.
Nawr eich bod chi wedi nodi faint mae’n ei gostio i ddechrau a rhedeg eich busnes, gallwch weld faint mae’n ei gostio i chi gynhyrchu’ch cynnyrch neu i ddarparu’ch gwasanaeth.
Mae prisio’n faes cymhleth. Os bydd eich prisiau’n rhy uchel, gallech golli’r gwerthiant.
Gall gymryd nifer o fisoedd cyn y bydd busnes newydd yn broffidiol ac yn gwneud arian dros ben.

Ariannu, Grantiau, Cyllid

Rheoli eich arian

Rhan hanfodol o redeg busnes llwyddiannus yw gofalu am eich arian. Os rhowch chi'r rhifau at ei gilydd yn y ffordd iawn, byddan nhw'n rhoi darlun manwl i chi ac yn adrodd straeon am eich busnes.
Mae eich llif arian yn dangos faint o arian sy'n dod i mewn i'r busnes a faint sy'n mynd allan bob mis. Mae’n arf cynllunio a rheoli allweddol ar gyfer y busnes.
Mae Cyfrif Elw a Cholled yn dangos perfformiad ariannol eich busnes dros gyfnod penodol.
Mae rhagamcan gwerthiannau’n rhan bwysig o gynllunio busnes. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth i ddatblygu’ch rhagamcan llif arian ac i gyllidebu’n effeithiol.
Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o gyflwr ariannol eich busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae’n cael ei defnyddio i asesu gwerth eich busnes ac i ganfod beth yw'r cymarebau sy'n cloriannu perfformiad busnes. Mae’r adran hwn yn rhoi golwg gyffredinol i chi o’r Fantolen ac yn esbonio’r cymarebau
Treth Ar Werth (TAW) yw treth ar drafodion a godir am werthu nwyddau a gwasanaethau.
Mae pwysigrwydd rheolaeth ariannol dda yn cael ei bwysleisio yn y modiwl hwn.
Rhan hanfodol o gadw busnes llwyddiannus yw gofalu am eich materion ariannol.

Adeiladu Tîm

Pan fyddwch chi’n dechrau busnes, mae angen ichi benderfynu a fyddwch chi am redeg y busnes fel Masnachwr Unigol, Partneriaeth neu Gwmni Cyfyngedig.
Mae swydd cyfarwyddwr yn rhywbeth i’w gymryd o ddifri.
Fel yr esboniwyd eisoes, y cyfarwyddwyr sy'n rhedeg cwmni cyfyngedig a'r cyfranddalwyr sy'n berchen arno ac sy'n ei ariannu.
Llywodraethu corfforaethol yw’r system ar gyfer cyfarwyddo a rheoli cwmnïau.
Mae gweithio gyda bwrdd cyfarwyddwyr yn brofiad newydd i nifer o berchnogion busnesau bach, a gall fod yn her.
Cyflogi eich gweithiwr cyntaf yw un o'r camau pwysicaf wrth ichi ddatblygu'ch busnes.
Fe all y broses recriwtio fod yn ddychryn i fusnesau bach. Maen nhw'n poeni ei bod hi'n broses gymhleth ac y byddan nhw'n wynebu anawsterau ar hyd pob cam o'r ffordd.
Ar ôl ichi benderfynu a dethol eich ymgeisydd, mae nifer o bethau y mae'n rhaid ichi eu hystyried cyn ichi eu cyflogi.
Pan fyddwch chi'n cyflogi rhywun am y tro cyntaf, mae nifer o bethau pwysig y mae angen ichi eu gwneud o dan gyfraith y Deyrnas Unedig.

Canllawiau Pellach

Mae’r canllawiau hyn yn darparu cyflwyniad i’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Os ydych yn ystyried rhedeg eich busnes eich hun, gallai prynu cwmni sydd eisoes wedi'i sefydlu fod yn gynt ac yn haws na dechrau o'r dechrau.
Mae ymgymryd â masnachfraint yn opsiwn sy'n werth ei ystyried i unrhyw un sy'n awyddus i redeg busnes ond nad oes ganddo syniad penodol ar gyfer busnes neu y mae'n well ganddo'r sicrwydd sy'n gysylltiedig â chysyniad sefydledig
Mae rhai pethau pwysig i'w hystyried cyn cyflwyno cynnig. Efallai na fyddwch ond yn gallu gweld memorandwm gwerthu'r busnes i ddechrau.
Os ydych yn meddwl am ddechrau eich busnes eich hun, dylech ystyried y posibilrwydd o weithio o gartref.
Os ydych chi’n bwriadu sefydlu a rhedeg busnes ‘gweithio gartref’, rhaid ichi ystyried nifer o bwyntiau cyn cychwyn.
Mae dewis enw i'ch busnes yn broses greadigol a phleserus. Mae hefyd yn broses y mae'n rhaid i chi ei gwneud yn gywir.
Mae cychwyn busnes, er bod hynny’n eithriadol o gyffrous, yn gam mawr i’w gymryd.
Gall yswiriant ddiogelu eich busnes rhag colli asedau ffisegol, neu ddifrod iddynt.
Byddwch yn gosod gwaith ar gontract allanol pan fyddwch yn rhoi swyddogaeth fusnes - tasg, rôl neu broses benodol - ar gontract i drydydd parti i'w chyflawni dros gyfnod sylweddol o amser. Bydd y sefydliad trydydd parti yn rheoli'r swyddogaeth ac yn dod yn gyfrifol am ei llwyddiant.

Dewch o hyd i syniad busnes - Taflenni Dechrau Busnes

Dewch o hyd i syniad busnes

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.