Cyfarwyddyd

Adnabod eich cwsmeriaid

Mae gwybod pwy sy'n debygol o brynu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn hollbwysig i'ch busnes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 February 2024
Diweddarwyd diwethaf:
17 September 2025

Cynnwys

1. Crynodeb

Mae gwybod pwy sy'n debygol o brynu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn hollbwysig i'ch busnes. Mae'r adran hwn yn esbonio sut mae adnabod eich darpar gwsmeriaid.

2. Pwy fydd yn prynu gennych chi?

Mae gwybod pwy sy'n debygol o brynu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn hollbwysig i'ch busnes. Dydych chi ddim eisiau gwastraffu amser nac arian yn canolbwyntio ar y bobl anghywir. Yn hytrach, penderfynwch pwy yw'r bobl sydd fwyaf tebygol o brynu gennych chi a'u targedu.

Byddwch chi am gael gwybod faint o alw sy'n debygol o fod am eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth. Oes 'na ddigon o ddarpar gwsmeriaid i wneud y farchnad yn ddeniadol ichi?

Dyma ambell gwestiwn pwysig arall:

  • faint mae cwsmeriaid yn debygol o'i brynu?
  • pa mor aml y byddan nhw'n prynu?
  • faint maen nhw'n barod i'w dalu am eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth?

3. Beth yw eu cymhellion dros brynu?

Yn ogystal â chreu proffil neu ddarlun o'ch cwsmeriaid targed, mae'n bwysig ichi ddeall eu cymhellion dros brynu. Beth sy'n eu cymell nhw i brynu cynhyrchion a gwasanaethau fel eich rhai chi?

Drwy ddeall eu rheswm dros brynu rhywbeth, gallwch deilwra eich marchnata i flaenoriaethu a phwysleisio'r elfennau hyn.

Dyma ambell ffactor a allai ddylanwadu ar y penderfyniad i brynu:

Ansawdd                                                 Hyd y warant

Cyflymder (y gwasanaeth neu'r cludo)    Dewis

Pris                                                          Hwylustod

Dull talu / telerau talu                              Cymorth i gwsmeriaid

Yn ogystal â'r rhain, fe all fod ffactorau 'cudd' er enghraifft:

  • teimlo neu edrych yn dda
  • oherwydd y bri neu'r statws
  • ychydig o foethusrwydd
  • cynnig gwarchodaeth neu liniaru risg
  • oherwydd mai dyma'r peth diweddaraf neu'r mwyaf cyfoes
  • oherwydd ei fod yn gyson â'u gwerthoedd neu â'u credoau
  • er mwyn creu argraff ar rywun (cymydog, ffrind, bos)
  • bod yn rhan o grŵp neu gael eich gweld felly

Yn eich ymchwil, byddwch chi am ddatgelu'r holl bethau a fydd yn dylanwadu ar benderfyniad rhywun i brynu. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws cyfeirio'ch marchnata a sefyll ar wahân i'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn.

Defnyddiwch y templed hwn i greu proffil o'ch cwsmer. 

Cyrsiau BOSS

Mae BOSS (Gwasanaeth cymorth busnes ar-lein) yma i’ch helpu chi a’ch busnes. Mae’n ffordd syml o ddysgu ar-lein.  Datblygwch eich busnes gyda BOSS! I gael mynediad at holl gymorth y cyrsiau, cofrestrwch heddiw


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.