Cyfarwyddyd

Cyllideb Goroesi Personol

Er mwyn i’ch busnes oroesi, rhaid i chi gael digon o arian i dalu am eich holl gostau sefydlu, costau rhedeg y busnes a chael digon i chi fyw arno hefyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 February 2024
Diweddarwyd diwethaf:
17 September 2025

Cynnwys

1. Crynodeb

Er mwyn i’ch busnes oroesi, rhaid i chi gael digon o arian i dalu am eich holl gostau sefydlu, costau rhedeg y busnes a chael digon i chi fyw arno hefyd. Mae’r adran hwn yn edrych ar sut mae pennu’ch cyllideb bersonol ar gyfer byw.

2. Cyllideb bersonol ar gyfer Byw

Mae’n hanfodol eich bod chi’n gwybod faint sydd ei angen arnoch i fyw bob mis. Nid yn unig mae hyn yn golygu bod gennych chi ddigon o arian i fyw arno, mae hefyd yn golygu’ch bod yn gwybod faint fydd yn rhaid i chi ei dynnu o’r busnes, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniadau am y prisiau ar sail gwybodaeth.

‘Tyniadau’ ydy’r enw am yr arian rydych chi’n ei gymryd neu’n ei dynnu o’ch busnes. Mae cyllideb bersonol ar gyfer byw yn dangos y lleiafswm y mae angen i chi ei dynnu o’r busnes fel tyniadau.

Mae hyn yn seiliedig ar faint sydd ei angen arnoch, nid ar faint y byddech chi’n hoffi ei dynnu o’r busnes bob mis.

Cofiwch, mae angen seilio’r tyniadau ar yr elw rydych chi’n rhagweld y bydd busnes yn ei wneud.  Felly, mae tyniadau’n cael eu tynnu o asedau’r busnes ar y fantolen.

Defnyddiwch y templedi hyn i'ch helpu i bennu’ch cyllideb bersonol ar gyfer byw. Mae’r cyntaf yn ystyried costau’ch aelwyd am flwyddyn gron; mae’r ail yn rhoi templed i chi ar gyfer y dadansoddiad misol.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.