Cyfarwyddyd

Costau, Pris a Gwerth

Mae pennu prisiau’n her. Mae faint o elw rydych chi’n ei wneud yn dibynnu i raddau helaeth ar y prisiau rydych chi’n eu codi, felly mae pennu’r pris yn iawn yn hanfodol i lwyddiant eich busnes

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 February 2024
Diweddarwyd diwethaf:
17 September 2025

Cynnwys

1. Crynodeb

Mae pennu prisiau’n her. Mae faint o elw rydych chi’n ei wneud yn dibynnu i raddau helaeth ar y prisiau rydych chi’n eu codi, felly mae pennu’r pris yn iawn yn hanfodol i lwyddiant eich busnes. Mae’r adran hwn yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng costau, pris a gwerth a sut mae'n effeithio ar eich elw.

2. Costau, pris a gwerth

Un o’r penderfyniadau mwyaf mae’n rhaid i chi eu gwneud am eich busnes ydy prisio’ch cynhyrchion neu’ch gwasanaethau. I raddau helaeth, mae’r elw rydych chi'n ei wneud yn dibynnu ar y prisiau rydych chi'n eu codi. 

Mae nifer o ffactorau’n dylanwadu ar brisio, gan gynnwys:

• faint mae’n ei gostio i gynhyrchu’ch cynnyrch neu ddarparu'ch gwasanaeth
• beth sy’n digwydd yn eich marchnad
• prisiau’ch cystadleuwyr 
• y gwerth rydych chi’n ei roi i’ch cwsmeriaid

Y peth pwysig ydy pennu pris sy’n rhoi'r mwyaf o elw i chi ac sy'n rhoi'r gwerth mwyaf i'ch cwsmeriaid, a hynny ar ôl i chi dalu'ch costau i gyd.
Gadewch i ni edrych ar beth rydyn ni’n ei olygu wrth gost, pris, gwerth ac elw.

Cost = y cyfanswm rydych chi’n ei wario er mwyn cynhyrchu, marchnata a chyflenwi’ch cynnyrch neu’ch gwasanaeth
Pris = cyfanswm yr arian rydych chi’n ei dderbyn am gyflenwi’ch cynnyrch neu’ch gwasanaeth
Gwerth = yr hyn mae’ch cwsmer yn meddwl ydy gwerth eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth iddyn nhw
Elw = yr hyn sydd gennych chi ar ôl pan fyddwch chi wedi tynnu’ch costau o’ch gwerthiannau

Nid dim ond y ffigurau sy’n bwysig wrth brisio. Yn ogystal â deall eich costau mewnol yn dda, rhaid i chi hefyd bennu gwerth eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau.

Cyrsiau BOSS

Mae BOSS (Gwasanaeth cymorth busnes ar-lein) yma i’ch helpu chi a’ch busnes. Mae’n ffordd syml o ddysgu ar-lein.  Datblygwch eich busnes gyda BOSS! I gael mynediad at holl gymorth y cyrsiau, cofrestrwch heddiw


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.