Cyfarwyddyd

Cynllunio a defnyddio'ch ymchwil marchnad

Wrth wneud ymchwil marchnad, byddwch chi'n casglu gwybodaeth er mwyn i chi fod yn fwy gwybodus ac er mwyn ichi allu gwneud gwell penderfyniadau am eich busnes. Mae cynllunio'n rhan bwysig o'r broses, ac mae defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi'n ei chasglu mewn gwirionedd yr un mor bwysig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 February 2024
Diweddarwyd diwethaf:
17 September 2025

Cynnwys

1. Crynodeb

Wrth wneud ymchwil marchnad, byddwch chi'n casglu gwybodaeth er mwyn i chi fod yn fwy gwybodus ac er mwyn ichi allu gwneud gwell penderfyniadau am eich busnes. Mae cynllunio'n rhan bwysig o'r broses, ac mae defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi'n ei chasglu mewn gwirionedd yr un mor bwysig. Mae'r adran hwn yn rhestru'r prif gamau yn y broses ymchwil marchnad ac yn rhoi templed ichi i'ch helpu i gynllunio'ch ymchwil marchnad.

2. Cynllunio'ch ymchwil marchnad

Cyn ichi ddechrau gwneud unrhyw ymchwil marchnad, paratowch gynllun. Mae cael cynllun gweithredu sydd wedi'i ystyried yn fanwl cyn dechrau'n gwneud y gwaith ymchwil yn haws ac yn eich cadw ar y trywydd iawn.

Byddwch yn glir am yr hyn rydych chi am i'r ymchwil ei gyflawni a pha benderfyniadau rydych chi am i’r ymchwil eich helpu i’w gwneud.

Er mwyn sefydlu'ch amcanion, gofynnwch ichi'ch hun:

  • pam rwy'n gwneud yr ymchwil hwn?
  • pa wybodaeth sydd ei hangen arna'i?
  • sut y bydda i'n defnyddio'r wybodaeth?

Wedyn, gallwch chi greu eich cynllun gyda’r hyn rydych chi am ei gyflawni’n glir yn eich meddwl.

3. Dadansoddi'ch canlyniadau a gweithredu arnynt

Dim ond un rhan o wneud ymchwil marchnad yw casglu gwybodaeth. Mae yr un mor bwysig dadansoddi'r wybodaeth a chael yr atebion i'r cwestiynau y gwnaethoch chi ofyn ichi'ch hun ar y dechrau.

Byddwch yn ofalus nad ydych chi'n gwneud i'r ymchwil "gydweddu" â'r syniadau sydd gennych cyn dechrau. Cadwch feddwl agored a byddwch yn wrthrychol. Defnyddio'ch canfyddiadau er mwyn gwneud gwell penderfyniadau yw hanfod ymchwil marchnad. Weithiau, bydd hynny'n golygu dweud na neu benderfynu peidio â gwneud rhywbeth.

Nodwch ganlyniadau'ch ymchwil er mwyn mireinio a siapio'ch syniadau. Drwy addasu'ch meddyliau cychwynnol er mwyn iddynt gyfateb yn well â'r hyn y mae'r farchnad am ei gael, byddwch chi'n cryfhau eich cynnig busnes ac yn rhoi'r siawns orau ichi'ch hun lwyddo.

Noder: Cofiwch gynnwys canlyniadau'ch ymchwil marchnad yn eich cynllun busnes.

Cyrsiau BOSS

Mae BOSS (Gwasanaeth cymorth busnes ar-lein) yma i’ch helpu chi a’ch busnes. Mae’n ffordd syml o ddysgu ar-lein.  Datblygwch eich busnes gyda BOSS! I gael mynediad at holl gymorth y cyrsiau, cofrestrwch heddiw

Defnyddiwch y templed cynlluniwr ymchwil marchnata i gynllunio eich ymchwil marchnad.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.