Cyfarwyddyd

Hyrwyddo'ch busnes

Mae cyfleu'ch neges i ddarpar gwsmeriaid a'u perswadio nhw i brynu'n her.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 March 2024
Diweddarwyd diwethaf:
17 September 2025

Cynnwys

1. Crynodeb

Mae cyfleu'ch neges i ddarpar gwsmeriaid a'u perswadio nhw i brynu'n her. Mae'r adran hwn yn help ichi weld pa dechnegau i'w defnyddio er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau.

2. Hyrwyddo'ch busnes

I lawer o bobl, pan fyddan nhw'n meddwl am farchnata, byddan nhw'n meddwl am hyrwyddo. Mae cannoedd o arfau a thechnegau ar gael ichi eu defnyddio i hyrwyddo'ch busnes. Yr her yw cael y gynulleidfa fwyaf bosibl am y gost leiaf a sicrhau'r canlyniadau gorau.

Arfau marchnata poblogaidd ichi eu hystyried

Hysbysebu mewn papur newyddCysylltiadau CyhoeddusTelefarchnataGwefan
Cylchgronau Cymraeg neu mewn ieithoedd eraillPost uniongyrcholLlyfrynnauMarchnata drwy'r e-bost
Cylchgronau i ddefnyddwyrFideoTaflenniFacebook
Papurau newydd lleol a phapurau broSioeau masnachLlythyrau gwerthuTwitter
Cylchgronau cymunedolArddangosfeyddCardiau postLinkedIn
RadioDigwyddiadauAtgyfeiriadauSEO (optimeiddio chwilotwyr)
Cyfeiriaduron ar-leinRhwydweithioTaflenni hysbysebuPPC (hysbysebu talu-wrth-glicio)
Treialu/samplo am ddimO ddrws i ddrwsCyflwyniadauGeirdaon ac astudiaethau achos

Cyn gwario arian, edrychwch ar hwn

Cyn i chi wario unrhyw arian ar weithgarwch marchnata, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi'ch hun:

  • a fyddaf yn cyrraedd fy cwsmeriaid targed os wyf yn gwneud hyn ac, os felly, faint?
  • a fyddaf yn gallu dweud wrthynt sut maent yn elwa neu ganlyniadau y maent yn ei gael?
  • faint mae'n mynd i gostio i mi?
  • a fydd yn cyd-fynd â gweithgareddau marchnata eraill wyf yn ei wneud?
  • pa ganlyniadau sydd angen i mi ei wneud yn werth chweil?

3. AIDA (yn Saesneg Attention, Interest, Desire, Action)

Nod unrhyw weithgarwch marchnata yw troi dieithryn sy'n gwybod dim amdanoch chi, eich busnes neu'ch cynnyrch a'ch gwasanaethau, yn gwsmer ffyddlon sy'n dychwelyd dro ar ôl tro.

Er mwyn gwneud hynny, mae angen ichi fynd â nhw drwy bedwar cam –Denu eu Sylw, Denu eu Diddordeb, Creu Awydd ynddyn nhw ac wedyn eu cael nhw i Weithredu.

4. Creu neges farchnata lwyddiannus

Eich neges farchnata yw'r hyn sy'n bachu sylw'ch cwsmeriaid, sy'n dweud wrthyn nhw sut y gallwch chi ddatrys eu problem, pam y dylen nhw ymddiried ynoch chi, a pham y dylen nhw eich dewis chi yn anad neb arall.

Peidiwch â sôn am hanes eich cwmni a dweud pa mor wych ydych chi a dim byd arall, mae hynny'n ddiflas ac yn ddi-fflach! Gwnewch y peth yn gyffrous ac yn ddiddorol.

Dyma rhai cynghorion i'ch helpu i greu neges farchnata lwyddiannus:

  • siaradwch â'ch cwsmer a defnyddio'r union eiriau y byddan nhw'n eu defnyddio
  • ystyriwch neges ddwyieithog er enghraifft, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • dywedwch wrthyn nhw pa ganlyniadau gân nhw wrth ddefnyddio'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth
  • crëwch bennawd sy'n gafael yn eu sylw - dyma sut:
    • gofynnwch gwestiwn - "Poeni am dapiau sy'n gollwng o hyd?"
    • dechreuwch gyda "Sut mae..." - "Sut mae troi pennau gyda steil gwallt newydd"
    • rhowch orchymyn - "Anelwch yn uchel", "Arbedwch arian", "Teimlwch yn well"
    • cyhoeddwch derfyn amser pwysig - "Blodau Bendigedig Jane yn Agor HEDDIW!"
    • cynigiwch rywbeth am ddim "Adroddiad AM DDIM am fwyta'n iach"
    • rhowch resymau iddyn nhw  - "50 Rheswm pam mae prynu'n lleol yn well na siopa tu allan i'r dre"
  • rhowch gynnig i'ch cwsmeriaid a rheswm dros weithredu nawr
  • dywedwch wrth eich cwsmer beth i'w wneud nesaf a pha bryd. Er enghraifft, Ffoniwch nawr, Cliciwch yma, Trefnwch apwyntiad, ac ati. Gwnewch bethau'n hawdd iddyn nhw wneud hynny.

Cyrsiau BOSS

Mae BOSS (Gwasanaeth cymorth busnes ar-lein) yma i’ch helpu chi a’ch busnes. Mae’n ffordd syml o ddysgu ar-lein.  Datblygwch eich busnes gyda BOSS! I gael mynediad at holl gymorth y cyrsiau, cofrestrwch heddiw

5. Cynllunio'ch hyrwyddo

Cyn rhuthro mewn a gweithredu'n fyrbwyll, meddyliwch a chynlluniwch eich ymgyrch yn ofalus.

Defnyddiwr y templed cynllum hyrwyddo hwn i'ch helpu chi i gynllunio'ch gwaith hyrwyddo

Defnyddiwch y rhestr wiro hyrwyddo hon cyn anfon unrhyw ddeunydd marchnata at neb


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.