Cyfarwyddyd

Y Fantolen a chymarebau

Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o gyflwr ariannol eich busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae’n cael ei defnyddio i asesu gwerth eich busnes ac i ganfod beth yw'r cymarebau sy'n cloriannu perfformiad busnes. Mae’r adran hwn yn rhoi golwg gyffredinol i chi o’r Fantolen ac yn esbonio’r cymarebau mwyaf defnyddiol i’ch busnes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 June 2014
Diweddarwyd diwethaf:
17 September 2025

Cynnwys

1. Trosolwg

Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o gyflwr ariannol eich busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae’n cael ei defnyddio i asesu gwerth eich busnes ac i ganfod beth yw'r cymarebau sy'n cloriannu perfformiad busnes. Mae’r adran hwn yn rhoi golwg gyffredinol i chi o’r Fantolen ac yn esbonio’r cymarebau mwyaf defnyddiol i’ch busnes.

2. Ciplun o’ch busnes

Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o gyflwr eich busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae’n dangos beth sy’n eiddo i’ch busnes neu beth sy’n ddyledus iddo (asedau) a beth yw ei ddyledion ar ddyddiad penodol.

Mae'n cael ei defnyddio i asesu gwerth eich busnes a dyma un o'r pethau cyntaf y bydd darpar fuddsoddwr neu reolwr banc am ei weld.

Mae’n rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddarparu Mantolen gyda’r cyfrifon blynyddol y byddan nhw’n eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau, i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac i’ch cyfranddalwyr.

Does dim rhaid i unig fasnachwyr gyflwyno cyfrifon ffurfiol a Mantolen gyda’u ffurflen dreth. Fodd bynnag, gan fod rhaid cofnodi manylion ariannol ar y ffurflen dreth mewn fformat penodol, gall fod yn ddefnyddiol paratoi’r ffigurau mewn fformat Mantolen.

Fe all eich cyfrifydd eich helpu chi i baratoi Mantolen, ond mae'n bwysig eich bod chi yn deall beth mae'n ei olygu.

3. Cip ar y Fantolen

Dyma enghraifft o Fantolen.

AsedauDyledion
Asedau Cyfredol Dyledion Cyfredol 
Arian5000Dyledwyr Tymor Byr3000
Cyfrifon i’w Derbyn4000Cyfrifon i’w Talu2000
Stoc11000Cyflogau5000
Cyfanswm Asedau Cyfredol20000Cyfanswm Dyledion Cyfredol10000
    
Asedau Sefydlog Dyledion Tymor Hir 
Offer2000Benthyciad 5 mlynedd11000
Llai Dibrisiad Cronedig(200)Cyfanswm Dyledion Tymor Hir11000
Cyfanswm Asedau Sefydlog1800  
  Ecwiti 
Cyfanswm Asedau21800Ecwiti’r Perchennog800
    
  Cyfanswm Dyledion ac Ecwiti21800

 

4. Defnyddio cymarebau i asesu perfformiad busnes

Mae cymarebau’n ffordd gyflym a syml o werthuso perfformiad busnes. Mae cymhareb yn cael ei chyfleu fel cyfran o rywbeth arall. Er enghraifft, rydyn ni’n sôn am berfformiad car o ran milltiroedd i’r galwyn. Petai car yn gwneud 40 milltir i’r galwyn (40:1) yn ei flwyddyn gyntaf, ond dim ond 25 i’r galwyn eleni (25:1), byddech chi’n siomedig a byddech chi’n ceisio darganfod pam.

Yn yr un modd, gall cyfrifo cymarebau roi golwg werthfawr i chi o berfformiad eich busnes. Defnyddir y ffigurau oddi ar eich Mantolen.

Mae 2 gymhareb allweddol bwysig, sef:

Cymhareb Hylifedd – sy’n dangos gallu’r busnes i ddefnyddio’i arian parod i dalu credydwyr tymor byr.  

Daw’r ffigurau hyn oddi ar y Fantolen. Ystyrir bod cymhareb rhwng 1.8 a 2.2 yn ddiogel.

Asedau Cyfredol £20,000  = 2:1
Dyledion Cyfredol £10,000

Cymarebau Proffidioldeb – sy’n dangos pa mor broffidiol yw’r busnes. Daw’r ffigurau hyn o’ch Cyfrif Elw a Cholled.

Mae Maint Elw Gros yn mesur elw gros fel canran o’r gwerthiannau.

Mewn rhai diwydiannau, gallwch gymharu maint eich elw gros â safon y diwydiant.

Mae Maint Elw Net yn mesur elw net fel canran o’r gwerthiannau.

Bydd hyn yn codi wrth i sefyllfa ariannol eich busnes wella. 

Elw Gros x 100 Elw Net x 100
GwerthiannauGwerthiannau

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.