Ar ôl blynyddoedd o addysgu mathemateg a saesneg, trodd Serena Taylor ei hangerdd yn broffesiwn ac agor ei stiwdio ioga ei hunan, wedi’i hysbrydoli gan y rhinweddau myfyriol a iachusol y mae’n diolch iddynt am wella ei blinder cronig ac asthma.
Ym mis Medi 2023, prynodd Serena uned ar stryd fawr Trefyclo ym Mhowys, a dechrau trawsnewid y lle yn ofod tawel a chroesawgar. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, agorodd Serenity Muay Thai and Yoga ei ddrysau, gan gynnig ystod eang o ddosbarthiadau fel gwaith anadlu, baddon sain, ymestyn a myfyrio. Bellach mae Serena, sydd wedi’i hyfforddi i addysgu ioga, yn croesawu pobl o bob oed a gallu i’w sesiynau – o ddosbarthiadau ioga i famau a’u babanod, dawns, a Bocsio Muay Thai.
Nid oedd gan Serena brofiad busnes blaenorol, ac felly aeth at Busnes Cymru ar ôl i ffrind argymell eu gwasanaethau cymorth. Aeth ar gyrsiau hyfforddi ym maes marchnata, cyllid a threth busnes, gan ddatblygu’r wybodaeth ymarferol a’r hyder i gychwyn ei busnes.
Diolch i’r gefnogaeth a gafodd gan Busnes Cymru, mae Serena wedi datblygu ei phrosiect personol yn fusnes lleol ffyniannus sydd bellach yn rhan werthfawr o’r gymuned.