Ers yn fachgen bach, roedd Michael Coggan yn breuddwydio am ddod yn gogydd crwst. Mae wedi dyfalbarhau gyda’i freuddwyd, a mae wedi profi cryn dipyn o lwyddiant – gan gynnwys cael ei goroni’n enillydd Bake Off: The Professionals, Channel 4 yn 2021 ac, yn fwy diweddar, agor ei patisserie gyntaf.
Mynychodd Michael Glwb 5-9 Busnes Cymru, cwrs wyth wythnos a gynlluniwyd i ddysgu entrepreneuriaid am hanfodion rhedeg busnes. agorodd Michael ei fusnes ym mis Gorffennaf 2023, gyda ‘Petit Four Patisserie’ yn cyflenwi cacennau a theisennau i gyfanwerthwyr ledled y wlad.
Aeth Michael yn ôl i Busnes Cymru pan ddaeth yr uned a rannai gyda pherchennog arall ar gael i'w pherchnogi'n llwyr. Rhoddodd Busnes Cymru gyngor amhrisiadwy ar sicrhau'r safle, yn ogystal â chefnogaeth bellach ar iechyd yr amgylchedd, rheoliadau cyfraith, a chyllid.
Ar ôl mynd o nerth i nerth, ehangodd Petit Four Patisserie ymhellach, ac agorodd Michael gownter manwerthu ym mis Chwefror 2025, gan werthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd am y tro cyntaf. Mae Michael yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau cymorth Busnes Cymru lle bo angen, yn aml fel seinfwrdd ar gyfer cyngor neu arweiniad ar redeg ei fusnes ar hyn o bryd.