Rhaglen Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes

Dros 25 oed ac yn meddwl am ddechrau busnes? Rydyn ni yma i helpu.

P'un ai ydych chi'n breuddwydio am ddod yn fos arnoch chi eich hun, troi sgil yn fusnes bach ychwanegol, neu lansio syniad newydd beiddgar, mae'r Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes yma i'ch cefnogi ar bob cam.

O wneuthurwyr cynnyrch, darparwyr gwasanaethau, crefftwyr, pobl greadigol, manwerthwyr, a busnesau newydd sy'n cael eu ysgogi gan dwf, rydyn ni’n helpu pobl o bob cefndir i gymryd eu camau cyntaf. 

Mae ein gwasanaeth yn cynnig cyngor ymarferol, cyfeillgar i'ch helpu i wneud y canlynol:

  • Cael eich ysbrydoli gan Fodelau Rôl bywyd go iawn a straeon llwyddiant
  • Archwilio a yw hunangyflogaeth yn addas ar eich cyfer chi
  • Dysgu hanfodion dechrau busnes
  • Creu cynllun busnes cryf
  • Deall gofynion cyfreithiol
  • Cael mynediad at gyllid a chyfleoedd cyllido
  • Adeiladu eich brand a chyrraedd eich cwsmeriaid
  • Datblygu ffyrdd cynaliadwy a chynhwysol o weithio, gan gynnwys cymorth i ddefnyddio'r Gymraeg

Dim ots ble rydych chi'n dechrau, byddwn yn eich helpu i fagu'r hyder, yr wybodaeth a'r rhwydwaith cymorth sydd ei angen arnoch i fynd â'ch syniad busnes ymlaen.

Sut i Ddechrau Arni:

  • Dechrau Arni – Cyflwynwch ymholiad i roi gwybod i ni pa gymorth sydd ei angen ar eich busnes, fel y gallwn eich paru â'r gwasanaeth cywir.
  • Cofrestrwch – Rhowch fanylion amdanoch chi a'ch busnes i helpu i deilwra'r gefnogaeth a'r adnoddau rydyn ni’n eu cynnig.
  • Bwrw Ati – Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd gennych gyfrif digidol yn barod i’w ddefnyddio drwy ein platfform BOSS. Mewngofnodwch unrhyw bryd i archebu gweminarau, archwilio offer, a chael mynediad at gyngor arbenigol i helpu eich busnes i ffynnu.

Rhaglen Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes

Dechrau arni heddiw

Cyflwynwch ymholiad i roi gwybod i ni pa gymorth sydd ei angen ar eich busnes, fel y gallwn eich paru â'r gwasanaeth cywir.

Dechrau arni


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.