Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd 11,000 o fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru i gymryd rhan yn Arolwg Masnach Cymru. Mae IFF Research yn cynnal yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae eich ymateb yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall gwerthiannau a phryniannau busnesau ac yn llywio polisi masnach a chymorth i fusnesau.
Dywedodd Stephanie Howarth, Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru:
Mae Arolwg Masnach Cymru yn ein helpu i ddeall sut mae busnesau’n masnachu o fewn Cymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol. Os yw eich busnes wedi cael gwahoddiad, cymerwch ran - mae eich ymateb yn helpu i ddatblygu’r dystiolaeth sy’n sail i benderfyniadau economaidd yng Nghymru.
Os yw eich busnes wedi cael gwahoddiad, cwblhewch yr arolwg erbyn 18 Rhagfyr 2026.
Ydych chi eisiau gwirio eich gwahoddiad neu angen help i gwblhau’r arolwg? Anfonwch e-bost at BusinessResearch@gov.wales neu ffoniwch 0300 0259 000. Gallwch hefyd ofyn am gopi arall o'ch gwahoddiad i'r arolwg, neu am fersiwn e-bost ohono.
I gael rhagor o wybodaeth swyddogol, darllenwch ganllawiau’r arolwg ar wefan Llywodraeth Cymru.