Newyddion

Paratowch ar gyfer y Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) rhwng y DU a'r UE

Horticulture - seedlings

Mae'r rheolau'n newid os ydych yn gweithio gyda bwyd, anifeiliaid neu blanhigion ym Mhrydain Fawr, p'un ai ydych yn masnachu'n rhyngwladol ai peidio.

O 1 Mawrth 2028 ymlaen, bydd cytundeb SPS y DU-UE yn ei gwneud hi'n haws i fusnesau fasnachu bwyd, anifeiliaid a phlanhigion gyda’r UE. Bydd yn lleihau gwaith papur a gwiriadau ar gyfer busnesau sy'n masnachu rhwng y DU a'r UE ac yn ei gwneud yn haws symud llawer o nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon. I ddarganfod beth sy'n newid, darllenwch UK Government's UK/EU Summit explainer. 

Dyma rai o'r sectorau o fewn cwmpas y cytundeb y gallai’r newidiadau effeithio arnynt:

Bwyd a diod

  • Gweithgynhyrchu, prosesu a safonau bwyd (yn cynnwys labelu)
  • Pysgod a physgod cregyn
  • Organig 
  • Newidiadau i blaladdwyr: canllawiau i fusnesau bwyd

Amaethyddiaeth, planhigion ac anifeiliaid

  • Ffermwyr a thyfwyr
  • Garddwriaeth
  • Bridio anifeiliaid
  • Y sector milfeddygol
  • Deiliad tyddyn a ffermwyr hamdden
  • Ceidwaid ceffylau a busnesau ceffylau

Dewch i’r weminar sydd ar 30 Tachwedd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau er mwyn helpu busnesau i baratoi ar gyfer gweithredu’r Cytundeb Iechydol a Ffotoiechydol (SPS). Mae’r manylion yn dal yn ddibynnol ar brosesau deddfwriaethol.

I ddeall pa newidiadau sy'n effeithio arnoch chi, darllenwch arweiniad ar gyfer eich busnes gan Lywodraeth y DU.

I gael diweddariadau gallwch:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.