Is-bwnc

Rhaglen Clwstwr Allforio

Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gefnogi a datblygu cynnydd ym mherfformiad allforio cwmnïau sydd wedi'u lleoli o fewn chwe sector allforio blaenoriaeth i Gymru.

O'r doreth o roddion mae cefn gwlad Cymru yn eu darparu daw amrywiaeth syfrdanol o fusnesau mor amrywiol â'r tir o'u cwmpas.
Mae'r Clwstwr Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yn dwyn ynghyd fusnesau o'r un anian, gyda dros 50 o aelodau, o allforwyr newydd i'r rhai sy'n brofiadol ac yn llwyddiannus iawn. Mae bod yn aelod o'r Clwstwr yn cynnig dwy fantais allweddol: dealltwriaeth a chysylltiadau.
Mae byd busnes technoleg yng Nghymru yn fywiog ac yn tyfu'n gyflym, gan ddangos arloesedd ac ysbryd entrepreneuraidd cryf.
Mae Cymru'n gartref i gymuned ffyniannus o gwmnïau Gwyddorau Bywyd, Technoleg Feddygol a Diagnosteg sy'n cyflogi dros 8000 o bobl gyda throsiant blynyddol cyfunol o bron i $2bn.
Mae'r Clwstwr Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Glân yn dwyn ynghyd grŵp eang o gwmnïau sy'n gweithredu ar draws yr holl sectorau ynni adnewyddadwy ac ynni glân, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol: Ynni ar y Môr – Ynni Gwynt a Morol, Ynni ar y tir, – Ynni Gwynt a Solar, Niwclear, Hydrogen, Peirianneg a gwasanaethau cymorth.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.