Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei ymweliad â marchnad allforio Sydney a Melbourne.
Pam Awstralia?
Mae Awstralia yn wlad ddelfrydol ar gyfer profi a datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd. Mae tua tair rhan o bump o boblogaeth Awstralia yn byw yn y 4 dinas fwyaf, sy’n ei gwneud hi’n hawdd i flaenoriaethu ble i lansio eich cynnyrch neu wasanaeth.
Awstralia yw 15fed marchnad allforio fwyaf y DU, a chafwyd gwerth £14.9 biliwn o fasnach rhwng y DU ac Awstralia yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2021.
Mae cyfleoedd yn bodoli ar gyfer cwmnïau o’r DU mewn sectorau amrywiol iawn, gan gynnwys gwasanaethau ariannol a thechnoleg ariannol, technoleg, seiber ddiogelwch a seilwaith.
Pam Mynd?
Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle ichi arddangos eich cwmni, ennill cysylltiadau gwerthfawr adeiladau chynyddu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r rhith-ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Ffordd gosteffeithiol o ymweld â’r farchnad.
• Golwg gyffredinol ar y farchnad a’r sefyllfa ddiweddaraf.
• Rhith-gyfarfod i ddod i adnabod cysylltiadau busnes a phenderfynwyr defnyddiol yn y farchnad.
• Cymorth un-i-un gan ein cynrychiolydd yn y farchnad
• Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â'r farchnad allforio.
Y gost yw £1,800 y person. Mae hyn yn cynnwys:
• Y daith yn ôl ar yr awyren
• Trosglwyddiadau yn y farchnad (os byddwch yn teithio gyda'r grŵp)
• Llety am 7 noson gyda brecwast (dydd Gwener i ddydd Sul)
• Mynediad at ddigwyddiadau yn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae'r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 26 Medi – 4 Hydref 2025
Sectorau: Pob sector
Ble: Sydney & Melbourne
Trefn
26 Medi – Gadael am Sydney
27 Medi – 1 Hydref 2025 – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd in Sydney
1 Hydref – Depart for Melbourne
1 – 3 Hydref – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd in Melbourne
3 Hydref– Dychwelyd i Gymru, glanio yn Heathrow, 4 Hydref.
Gwasanaeth Trefnu Carotid
If you would like to maximise your time at the event, we can offer support for a programme of 3-4 meetings to be arranged for you by one of our business consultants. This service is available from £500.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 18 Gorffennaf 2025 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
18 Gorffennaf 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
29 Awst 2025 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Yn amodol ar fod yn gymwys.