1. Cyflwyniad

Rhaid i bob busnes yn y DU ddatgelu unrhyw allforion i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i sicrhau bod unrhyw TAW, tollau tramor a chartref neu ardollau sy’n ddyledus iddynt o dan ddeddfwriaeth y DU neu Ewrop yn cael eu casglu.  

Mae HMRC yn defnyddio codau nwyddau Tariff Masnach Integredig y DU (y Tariff) i ddosbarthu cynhyrchion unigol. Mae angen dosbarthu nwyddau at ddibenion datgelu allforion a ffurflenni Intrastat. Mae’r modd y caiff nwyddau gwahanol eu dosbarthu’n dibynnu’n bennaf ar y tollau a’r rheolau sy’n gymwys iddynt. 

Mae adrannau eraill y llywodraeth hefyd yn dibynnu at  gategorïau’r Tariff ar gyfer trwyddedau a dogfennau eraill.

Cofiwch mai’ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cod nwyddau a’ch trwyddedau’n iawn, hyd yn oed os ydych yn defnyddio asiant. Gall Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi eich dirwyo, cymryd meddiant o’ch nwyddau a gohirio’u rhyddau o’r dollfa os byddwch yn allforio nwyddau â’r cod neu’r drwydded anghywir.

Defnyddir codau nwyddau hefyd i bennu’r tollau mewnforio priodol yng ngwlad y prynwr ac i sicrhau cyfraddau treth ffafriol os oes Cytundebau Masnach Rydd neu Gytundebau Partneriaeth Economaidd ar waith. 

2. Dosbarthu’ch nwyddau

Er mwyn dosbarthu’ch nwyddau, bydd angen i chi ddefnyddio Tariff Integredig y DU - neu’r Tariff, fel y’i gelwir fel arfer. Dogfen fawr yw hon sy’n cynnwys system codio cynhyrchion sy’n rhoi canllawiau cynhwysfawr i fewnforio ac allforio. Gallwch ei brynu ar ffurf ffeil fodrwy neu ei weld ar-lein. Mae Cyfrol 2 o’r Tariff yn cynnwys rhestr o godau nwyddau y mae HMRC yn eu defnyddio i ddosbarthu allforion a mewnforion.

Gallwch ddefnyddio’r Tariff Masnachu i chwilio am godau nwyddau.

Cewch gymorth hefyd i  ddosbarthu nwyddau a chewch ganllawiau dosbarthu.

Ar ôl cael hyd i’r codau cywir, bydd y Tariff Masnach yn rhestru’r pethau eraill y bydd eu hangen arnoch o bosibl i allforio’ch nwyddau, er enghraifft:

  • trwyddedau allforio neu unrhyw reoliadau arbennig ar gyfer ein nwyddau (sef ‘mesurau’)
  • nwyddau nad oes angen trwydded etc arnynt  mewn rhai gwledydd arbennig
  • y drefn dollau sy’n gymwys i’ch nwyddau

Dylech gysylltu â llinell gymorth  gwasanaeth dosbarthu’r Tariff os na allwch gael hyd i’r nwyddau yn y Tariff Masnach – Rhif ffôn: 01702 366077 

3. Tollau ffafriol

Drwy gytundebau masnach lefel uchel rhwng gwahanol wledydd gall mewnforwyr ac allforwyr dalu llai o dollau ar rai nwyddau, neu gallant osgoi talu tollau arnynt yn gyfan gwbl.

Yn gyffredinol, mae cytundebau’n gosod amodau mewnforio a/neu allforio ffafriol ar nwyddau sy’n bodloni rheolau tarddiad penodol a meini prawf eraill ac mae’n bwysig eich bod yn defnyddio’r cod nwyddau priodol ar gyfer eich nwyddau.

Os byddwch yn allforio nwyddau, gallwch fanteisio ar ostyngiad yn y tollau, neu osgoi eu talu’n gyfan gwbl, ar nwyddau os ydych yn eu hallforio i wledydd sydd â threfniadau ffarfiol â’r DU.  Gallwch weld a yw’ch allforion yn allforion ffafriol a dysgu sut i reoli allforion ffafriol.

Mae Cytundebau Masnach Rydd (FTA) a Chytundebau Partneriaeth Economaidd yn newid yn barhaus, ac mae gwledydd yn symud o’r naill gynllun i’r llall, yn cael eu dadraddio a/neu mae nwyddau’n cael eu cynnwys neu eu tynnu oddi ar y rhestr o allforion ffafriol/cyfyngedig oherwydd terfynau dros dro neu barhaol neu gwotâu’r tariff. O ganlyniad, cynghorir busnesau y mae’r Cytundebau’n debygol o effeithio arnynt i gadw llygad ar ddatblygiadau.