Meeting clients

Rhaglen Allforiwr Newydd

Ehangwch eich gorwelion busnes

Ynglŷn â'r Rhaglen Allforiwr Newydd

Mae'r Rhaglen hon yn elfen allweddol o Gynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru sy'n ffurfio rhan o'r ystod eang o gymorth sy'n canolbwyntio ar ddatblygu allforion sydd ar gael i gwmnïau yng Nghymru.  Mae'r Rhaglen Allforwyr Newydd wedi'i chynllunio'n benodol i gynyddu nifer y busnesau micro, bach a chanolig yng Nghymru sy'n allforio yn rheolaidd ac yn gynaliadwy.

Bob blwyddyn, mae'r Rhaglen yn cael ei chyflwyno i garfan o gwmnïau nad ydynt yn allforio ar hyn o bryd ond sydd wedi eu nodi fel rhai sydd â chynnyrch a/neu wasanaeth sydd â photensial allforio ac sydd wedi ymrwymo i gynnwys allforion fel agwedd graidd ar eu strategaeth twf busnes.

Mae'r garfan o gwmnïau a ddewiswyd yn derbyn cefnogaeth arbenigol gydol y flwyddyn ar sail unigol ac ar draws carfannau cyfan, gan gynnwys: 

  • Cymorth carfan gyfan i helpu i ddatblygu sgiliau gwybodaeth, dealltwriaeth a gallu allforio.
  • Diagnosteg pwrpasol yn barod i allforio i nodi anghenion a bylchau.
  • Mynediad at fentoriaid profiadol i helpu i fynd i'r afael â sgiliau allforio a bylchau gwybodaeth a chefnogaeth wrth ddatblygu strategaethau allforio unigol.
  • Gweithdy 'Cyflwyno ar gyfer Gwerthiant Allforio' i helpu i wella sgiliau cyflwyno a thechneg gwerthu.
  • Hyfforddiant Sgiliau Allforio i fynd i'r afael â bylchau gwybodaeth a sgiliau gan gynnwys y cyfle i ennill hyfforddiant achrededig os dymunir.
  • Ymweliad Taith Fasnach â marchnad ger Ewrop, fel yr Iseldiroedd, gyda rhaglen cyfarfodydd busnes 'paratoadol' wedi'u trefnu ar gyfer pob aelod o'r garfan.

Mae gwybodaeth am aelodau carfan 2024-25 ar gael yn y llyfryn Teithiau Masnach. DS – gan fod y llyfryn wedi’i fwriadu ar gyfer cynulleidfaoedd y tu allan i Gymru mae ar gael yn Saesneg yn unig:

Pa mor hir mae'r Rhaglen Allforwyr Newydd yn para?

Cyflwynir y Rhaglen yn flynyddol gyda'r cymorth a ddarperir yn cael ei ledaenu trwy gyfnod o tua 9/10 mis ar draws y flwyddyn ariannol. 

Mynediad i'r Rhaglen Allforwyr Newydd.

Mae'r Rhaglen yn agored i fusnesau micro, bach a chanolig yng Nghymru sydd â chynnyrch a/neu wasanaeth sydd â photensial allforio clir ac sydd naill ai'n hollol newydd i allforio neu sy'n allforwyr sydd wedi rhoi’r gorau i hynny, yn ddi-brofiad neu'n adweithiol.  Yn ogystal, rhaid i ddarpar aelodau'r garfan fod yn ymrwymedig i ymgorffori allforion fel agwedd graidd ar eu busnes a dangos bod ganddynt y gallu i ymgysylltu'n llawn â'r Rhaglen gan gynnwys yr elfen ymweliad taith fasnach.

Mae lleoedd ar garfan yn gyfyngedig pob blwyddyn felly maent yn cael eu dyrannu ar sail gystadleuol pe bai mwy o geisiadau na lleoedd yn dod i law.  Mae recriwtio yn digwydd yn ystod misoedd cyntaf pob blwyddyn ariannol ond dylai unrhyw gwmnïau sy'n dymuno mynegi diddordeb i ddarganfod mwy am ymuno â'r Rhaglen Allforwyr Newydd wneud hynny trwy e-bostio Tîm Masnach Llywodraeth Cymru drwy - internationaltrade@llyw.cymru