Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Allforio

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â’r wybodaeth ar y wefan Allforio a’r adrannau ar y wefan sy’n cynnig help arbenigol i fusnesau. Mae Allforio’n wasanaeth arbenigol sy’n cael ei gynnig ar wefan Busnes Cymru.  

Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ar wefan Busnes Cymru ei thudalen hygyrchedd. Mae’n disgrifio pa mor hygyrch yw‘r gwasanaeth, sut i ddweud wrthym am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol. I fynd i’r tudalennau hyn, ewch i’r troedyn ar waelod tudalennau gwe y gwasanaeth unigol.  

 

Defnyddio’r wefan hon 

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Allforio. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu: 

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau 

  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin 

  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig 

  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais 

  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver) 

Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml a chlir â phosibl i’w ddeall. 

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd. 

 

Hygyrchedd y wefan hon 

Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch: 

  • nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir 

  • nid yw rhai hyperddolenni’n ail-lifo’n uwch na 300% 

  • nid oes penawdau ar gyfer rhesi mewn rhai tablau 

  • nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson 

  • nid yw teitlau rhai tudalennau’n unigryw 

  • nid yw labeli rhai ffurflenni’n unigryw  

  • nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau 

  • nid yw testun rhai dolenni’n disgrifio diben y ddolen 

  • mae llawer o ddogfennau mwn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch 

Busnes Cymru  

Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol 

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddeall neu recordiad sain: 

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen 

  • eich cyfeiriad e-bost a’ch enw 

  • y fformat yr hoffech ei dderbyn – er enghraifft, testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu gryno ddisg sain 

  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio 

Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’r dudalen hon. Dewiswch ar ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen. 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt 

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:  

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • cyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd 

  • pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Gweithdrefn orfodi 

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

 

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol 

Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ffonau llinell dir a symudol ddarparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid ag anableddau. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid testun o’ch dewis i gysylltu â Allforio. 

Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:  

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • pwy ydych chi 

  • sut gallwn eich helpu 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon 

Mae Allforio wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

 

Statws cydymffurfedd 

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod. 

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch 

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd 

Meini prawf llwyddiant wedi methu: WCAG 2.1 A 2.4.6 

  • Problem: Mae gan rai tudalennau benawdau wag. Ni ddylai penawdau fod yn wag.  

Meini prawf llwyddiant wedi methu: WCAG 2.1 A 2.4.4, WCAG 2.1 A 2.4.9 a WCAG 2.1 A 4.1.2 

  • Problem: Dylai fod gan bob elfen <a> destun neu ddelwedd lle cynigir gair yn lle llun

Meini prawf llwyddiant wedi methu: WCAG 2.1 A 2.4.2 

  • Mae gan rai tudalennau yr un teitl; am hynny, nid oes modd defnyddio teitlau i wahaniaethu tudalennau.  

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd 

Nid yw’r technolegau a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd 

Wedi methu’r maen prawf llwyddiant: WCAG 2.1 A 1.4.12 (bylchau yn y testun) 

  • Problem: Nid yw defnyddwyr yn cael newid maint y bylchau yn y testun nag uchder llinellau. Mae’n hanfodol bod pobl â nam ar eu golwg yn cael gwneud hynny er mwyn gallu newid fformat y testun iddynt allu ei ddarllen.  

Offer rhyngweithiol a thrafodion 

Nid oes offer rhyngweithiol yn Allforio rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw nad oes modd eu defnyddio.  Os ydych chi’n credu nad oes modd defnyddio rhai ohonyn nhw, cysylltwch â ni trwy un o’r dulliau canlynol: 

Bydd angen i chi roi i ni: 

  • cyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad yw yn eich barn chi yn bodloni’r gofynion hygyrchedd ac esbonio  

  • Pam yn eich barn chi nad ydyn ni’n bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd 

Byddwn yn edrych ar eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 7 niwrnod gwaith.

 

Dogfennau PDF a dogfennau eraill 

Dylai dogfennau newydd a gyhoeddwn i gael at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch. 

Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt: 

  • heb eu marcio mewn ffordd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin eu deall 

  • heb eu tagio’n gywir, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol 

  • heb eu hysgrifennu mewn iaith glir 

Dogfennau hanesyddol yw rhai o’r rhain nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae dogfennau o’r math hwn wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Nid ydym yn bwriadu eu gwneud yn hygyrch ar hyn o bryd. 

Os oes arnoch angen y wybodaeth yn un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod a gofynnwch am fformat gwahanol. 

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen 

  • y fformat yr hoffech ei dderbyn  

  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.

 

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd 

 
Yn dilyn yr archwiliad a gynhaliwyd gan S8080 ym mis Ionawr 2022, mae Allforio yn cywiro cynnwys ar frys sy'n methu â chyrraedd safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA. 

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ar 4 Ionawr 2024 i ddisodli’r datganiad hygyrchedd blaenorol. Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 4 Ionawr 2024. 

Sut aethom ati i brofi’r wefan 

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 15 Ionawr 2022. Cynhaliwyd y prawf gan S8080. 

Ar 15 Ionawr 2022, defnyddiodd S8080 SortSite Desktop i sganio dros 8775 o’n tudalennau i weld a oeddent yn cydymffurfio â lefel A ac AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.1. Roedd y sgan yn cynnwys cyfuniad o dudalennau craidd, templedi a ddefnyddir yn gyffredin a thempledi cymhleth. 

Profwyd platfform ein prif wefan, sydd ar gael yn  

https://businesswales.gov.wales/export/cy/homepagehafan