Camau cyntaf?
Mae allforio yn gallu talu ar ei ganfed os byddwch yn buddsoddi mewn gwaith paratoi a chynllunio cadarn.
Dyma rai o’r cwestiynau y dylech eu hystyried cyn cychwyn ar eich taith allforio:
- Ydy fy musnes yn barod i wasanaethu marchnad fwy?
- I ba farchnad y dylwn i roi sylw yn gyntaf?
- Oes gen i adnoddau yn eu lle i gefnogi fy nghynlluniau allforio?
- Ydy’r cynnyrch neu’r gwasanaethau yn barod ar gyfer y marchnadoedd dan sylw?
- Ydy’r wybodaeth ymarferol angenrheidiol gen i i fynd i mewn i farchnadoedd newydd?
- Ble alla i ddysgu am forgludiant, rheoliadau rhyngwladol, trethi a chyfreithiau mewnforio... a phopeth arall y mae angen i fi ei wybod?
Datblygu eich gwybodaeth allforio
I'ch helpu i baratoi, mae gennym sawl offeryn ar eich cyfer:
- Export Hub - cael mynediad i filoedd o dudalennau ar archwilio marchnadoedd, dod o hyd i gleientiaid, gwirio rhwystrau a rheoli llwythi.
- Hyfforddiant allforio ar-lein - dysgu'r hanfodion gyda'r tri chwrs cryno hyn.
- Canllawiau allforio - o ddechrau arni hyd at gael eich talu.
- Recordiadau gweminar - yn cynnwys canllawiau a chyngor, diweddariadau am y farchnad a phynciau sy'n canolbwyntio ar y sector.
Cymorth pwrpasol
Gallwn hefyd weithio gyda chi ar sail un i un i'ch helpu i ddod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau uchod a mwy. Mae'r cymorth wedi'i deilwra'n arbennig i ddiwallu eich anghenion penodol a gall gynnwys y meysydd canlynol:
- Strategaeth allforio
- Dewis y farchnad
- Diffinio eich llwybr i'r farchnad
- Canllawiau ariannol
- Gweithdrefnau, rheoliadau a logisteg allforio